Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Drakeford wedi 'ofni' na fyddai'r Senedd yn goroesi
- Awdur, Daniel Davies
- Swydd, Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru
Chwarter canrif ar 么l iddi agor, mae Senedd Cymru ar fin cymryd cam mawr arall ar hyd taith datganoli.
Dydd Mercher, mae disgwyl i ddeddf gael ei phasio - fydd yn golygu bod nifer yr aelodau yn cynyddu o 60 i 96.
Ond yn y dyddiau cynnar doedd dim sicrwydd y byddai鈥檙 sefydliad yn gallu cyrraedd y pwynt yma, yn 么l y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford.
Mae e wedi bod yn ffigwr allweddol yng ngwleidyddiaeth Bae Caerdydd mwy neu lai ers y dechrau, ond ar 么l y flwyddyn sigledig gyntaf ym 1999 roedd e鈥檔 ofni, meddai, na fyddai鈥檙 Cynulliad yn goroesi.
Alun Michael, arweinydd Llafur Cymru ar y pryd, wnaeth agor cyfarfod cynta鈥檙 60 aelod drwy ddweud: 鈥淒yma ddiwrnod hanesyddol i bawb yng Nghymru.鈥
Lai na blwyddyn yn ddiweddarach, roedd yn rhaid iddo ymddiswyddo.
Aeth Mr Drakeford i weithio i Rhodri Morgan, olynydd Mr Michael, ac mae鈥檔 cofio cymaint o waith roedd angen ei wneud er mwyn sefydlogi鈥檙 lle.
鈥淢ae鈥檔 anodd nawr i edrych yn 么l a meddwl fel 鈥榥a, ond pan oeddwn i鈥檔 dod i weithio yn swyddfa Rhodri Morgan ym mis Mai 2000, ro'n i鈥檔 teimlo na allwch chi fod yn hyderus y byddai'r sefydliad yn parhau,鈥 meddai Mr Drakeford.
鈥淩oedd popeth mor fregus. Roedd pobl yn teimlo鈥檔 fregus achos roedden nhw wedi gweithio mor galed a doedd pethau ddim yn gweithio mas fel oedden nhw eisiau gweld.鈥
Ond fe newidiodd pethau o fewn chwe mis, meddai Mr Drakeford, diolch i鈥檙 glymblaid a gafodd ei ffurfio rhwng Llafur Cymru a鈥檙 Democratiaid Rhyddfrydol.
Ers hynny, mae maint y Cynulliad, neu鈥檙 Senedd fel yw hi nawr, wedi bod yn bwnc trafod.
Comisiynodd lywodraeth Mr Morgan adroddiad yr Arglwydd Richard, a nododd fod angen datganoli mwy o rym a chynyddu nifer yr aelodau.
Daeth y grym rai blynyddoedd yn ddiweddarach, ond mae hi wedi cymryd tan nawr iddyn nhw ychwanegu rhagor o aelodau.
Addo adrefnu鈥檙 Senedd a chwyddo鈥檌 maint wnaeth Llafur a Phlaid Cymru yn eu maniffestos. Ond mae鈥檙 gost, y nifer benodol o aelodau ychwanegol a鈥檙 newid i鈥檙 drefn etholiadol yn poeni鈥檙 Ceidwadwyr.
Gallai ychwanegu 36 aelod yn yr etholiad nesaf yn 2026 gostio hyd at 拢17.8m y flwyddyn, yn 么l ffigyrau Llywodraeth Cymru.
Dyw gwario cymaint pan fod gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau "ddim yn iawn", meddai David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru.
Ymgyrchodd Mr Davies yn erbyn creu鈥檙 Cynulliad, cyn cael ei ethol fel un o鈥檌 aelodau cyntaf.
'Bwysig parchu dewis y cyhoedd'
Mae Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod dan arweinyddiaeth Llafur o鈥檙 cychwyn, yn dweud bod datganoli wedi arwain at bolis茂au fel ciniawau am ddim i blant ysgol gynradd, presgripsiynau am ddim i bawb a chyfradd uchel o sbwriel yn cael ei ailgylchu.
Ond mae 鈥榥a ganran uwch o bobl yn aros am driniaeth ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru nag yn Lloegr, ac yn 么l Mr Davies, dyw鈥檙 economi heb gael ei drawsnewid fel roedd rhai o gefnogwyr datganoli yn ei obeithio.
Beth yw鈥檙 ateb felly? Troi鈥檙 cloc yn 么l a chau Senedd Cymru?
鈥淒wi ddim yn meddwl bod hynny鈥檔 deg neu yn bosib,鈥 meddai Mr Davies.
鈥淢ae鈥檙 cyhoedd wedi pleidleisio o blaid datganoli dwywaith wrth gwrs, nid jest yn y refferendwm cyntaf. Mae鈥檔 hynod o bwysig i barchu hynny.鈥
Ers y canlyniadau 'Ie' yn y ddau refferendwm, dyw canran y pleidleiswyr yn etholiadau鈥檙 Senedd erioed wedi codi yn uwch na 47%.
Yn etholiadau ysgytwol cynta鈥檙 Senedd, pan lwyddodd ei phlaid i drechu Llafur yn rhai o鈥檌 chadarnleoedd, fe symudodd Elin Jones o fod ar gyngor tref Aberystwyth i fod yn aelod Plaid Cymru dros Geredigion.
Nawr, fel y Llywydd, mae鈥檔 gobeithio gweld y Senedd yn tyfu i faint addas 鈥渙鈥檙 diwedd鈥.
Ond mae鈥檔 cyfaddef bod dal angen perswadio rhai.
鈥淒wi鈥檔 deall fod pobl ddim wedi cael eu hargyhoeddi gan nifer fwy o aelodau etholedig i鈥檙 lle yma,鈥 meddai.
Ond gyda nifer yr aelodau Seneddol yn San Steffan yn crebachu ac ein haelodau o Senedd Ewrop wedi diflannu 鈥渕ae 鈥榥a le i feddwl, gan fod cymaint o bwerau wedi trosglwyddo erbyn hyn i鈥檙 Senedd hyn, bod e鈥檔 briodol fod y Senedd yma a鈥檙 nifer gywir," yn 么l Ms Jones.