Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Unioni darlun 'unochrog' y Bywgraffiadur Cymreig
Ydych chi erioed wedi clywed am y seren rygbi Clive Sullivan, y paffiwr Arnold Sheppard a鈥檙 ymgyrchydd iaith Judith Maro? Maen nhw ymysg yr enwau sydd wedi eu hychwanegu i鈥檙 Bywgraffiadur Cymreig yn ddiweddar fel rhan o ymdrech i sicrhau mwy o amrywiaeth yn y casgliad.
Y Bywgraffiadur Cymreig yw'r cyhoeddiad sy'n cofnodi pobl sydd wedi dod i amlygrwydd neu wedi gwneud cyfraniad arbennig ym mywyd Cymru.
Yn yr erthygl hon mae'r golygydd, Dr Dafydd Johnston, yn egluro pam roedd angen gwella darlun "unochrog鈥 y cyfrolau gwreiddiol ac yn tynnu ein sylw at rai o鈥檙 bobl ddifyr sydd wedi cael eu hychwanegu at y Bywgraffiadur yn ddiweddar:
Adlewyrchu amrywiaeth ethnig yn y Bywgraffiadur
Darlun unochrog iawn o boblogaeth hanesyddol Cymru a geir yng nghyfrolau gwreiddiol Y Bywgraffiadur Cymreig a gyhoeddwyd gyntaf yn 1953, un sy'n canolbwyntio bron yn llwyr ar Gymry cynhenid, gwyn, a'r rhan fwyaf helaeth ohonynt yn ddynion.
Erbyn hyn mae'r Bywgraffiadur yn brosiect ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ac fe'i cyhoeddir ar-lein gydag erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu'n gyson sy'n rhoi cyfle i unioni'r darlun rywfaint.
Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a chydweithrediad Race Council Cymru, mae ymdrech wedi bod yn ddiweddar i adlewyrchu amrywedd ethnig poblogaeth Cymru.
Cymry du amlwg
Y Cymro du cynharaf y mae modd rhoi braslun o'i fywyd yw a fu farw yn 1786. Cafodd ei herwgipio'n wyth mlwydd oed o'i gynefin yn India'r Gorllewin, mae'n debyg, gan un o deulu Wynn, Ystumllyn ger Cricieth.
Cymraes ddu enwocaf ein hoes ni, mae'n si诺r, yw (1934鈥2017), a anwyd yn Nhre-biwt, Caerdydd, yn ferch i forwr o Jamaica a'i mam o dras Farbadaidd. Pan benodwyd hi'n brifathrawes Ysgol Gynradd Mount Stuart yn y 1970au hi oedd y person du cyntaf i ddod yn bennaeth ysgol yng Nghymru.
Ond mae sawl un llawer llai adnabyddus sydd wedi cyfrannu at hanes Cymru ac sydd bellach yn y Bywgraffiadur.
Faint wyddoch chi am y rhain, er enghraifft?
Clive Sullivan
Mae nifer o bobl o leiafrifoedd ethnig Cymru wedi bod yn flaenllaw ym myd chwaraeon. Yr un mwyaf adnabyddus, efallai, yw'r chwaraewr rygbi'r gynghrair o Gaerdydd, (1943鈥1985). Sullivan oedd capten t卯m Prydain a enillodd Gwpan y Byd yn 1972, a dyna'r tro cyntaf i chwaraewr du fod yn gapten ar d卯m Prydain mewn chwaraeon o unrhyw fath.
Alex Givvons
Un o'r chwaraewyr du cynharaf i wneud enw iddo'i hun yn rygbi'r gynghrair oedd (1913鈥2002) o Gasnewydd a fu'n un o s锚r clwb Oldham.
Arnold Sheppard
Roedd rhagfarn hiliol yn broblem fawr ym myd y campau ers llawer dydd, fel y mae hyd heddiw. Un a ddioddefodd yn enbyd yw'r paffiwr (1908鈥1979) o Gaerdydd. Roedd bar lliw mewn grym ym Mhrydain yn ei gyfnod ef a fynnai mai dim ond paffwyr 芒 dau riant gwyn a allai gystadlu am deitlau, ac oni bai am hynny gallai Sheppard fod wedi ennill teitl pencampwr Prydain.
Mae'r Bywgraffiadur yn gwneud cyfraniad pwysig yn cadw'r cof yn fyw am bobl fel Arnold Sheppard sydd wedi ei anghofio i raddau helaeth erbyn hyn.
Enrico Stennett
Mae'r Bywgraffiadur hefyd yn cynnwys rhai pobl a anwyd y tu allan i Gymru. Un o genhedlaeth Windrush oedd (1926鈥2011) o Jamaica. Treuliodd Stennett ran olaf ei fywyd yng Nghymru a bu'n weithgar gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru.
Yn 2018 cafodd ei gydnabod gan Race Council Cymru yn un o 100 Eicon Cymru Ddu.
Victor Spinetti
Mae'n bwysig cofio am leiafrifoedd ethnig eraill Cymru, fel yr Eidalwyr sydd wedi cyfrannu'n fawr i fywyd cymoedd y De. Un o'r rheini yw Vittorio Georgio Andre Spinetti o Lynebwy a ddaeth yn enwog fel yr actor (1929鈥2012) 鈥 llais y cart诺n Superted ymhlith ei rannau mewn llawer o sioeau a ffilmiau eraill. Roedd Spinetti'n ddyn hoyw, ac yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru y cwrddodd 芒'r actor Graham Curnow a fu'n gymar iddo am dros 40 mlynedd.
Griff Vaughan Williams
Gwych o beth hefyd oedd y cyfle i goff谩u bywyd a gwaith yr actifydd (1940鈥2010), newyddiadurwr o Fangor a wnaeth lawer i dynnu sylw at drais yn erbyn hoywon.
Judith Maro
Un o'r erthyglau diweddaraf i'w hychwanegu i'r Bywgraffiadur yw'r un am (1919鈥2011), neu Yehudit Anastasia Grossman, Iddewes a anwyd yn yr Wcr谩in ac a fu'n rhan o'r frwydr i sefydlu gwladwriaeth Israel, cyn dod i Gymru lle bu'n rhan o frwydr arall, yr un dros yr iaith Gymraeg, gan wneud enw iddi'i hun fel awdur a fynnai gyhoeddi ei nofelau yn y Gymraeg yn gyntaf.
Mwslemiaid Cymru
Lleiafrif ethnig sydd heb ei gynrychioli yn y Bywgraffiadur hyd yn hyn yw Mwslemiaid Cymru. Cam bach i'r cyfeiriad iawn fydd erthygl sydd i'w chyhoeddi'n fuan am Abdullah Ali al-Hakimi (c. 1900鈥1954), arweinydd Mwslemaidd o Yemen a sefydlodd y mosg cyntaf yng Nghymru, Noor al-Islam ym Mae Caerdydd.
Mae'r t卯m golygyddol yn awyddus i ehangu'r gynrychiolaeth o leiafrifoedd ethnig yn y Bywgraffiadur, a byddem yn falch o dderbyn awgrymiadau am enwau pobl a ddylai gael eu cynnwys, ac yn enwedig gynigion i lunio erthyglau.