Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw ar Gyngor Gwynedd i roi stop ar daliadau i Ystad y Goron
- Awdur, Sion Tootill
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae 'na alw ar Gyngor Sir Gwynedd i beidio parhau 芒 thaliadau i Ystad y Goron nes bod trafodaethau鈥檔 dechrau ar ddatganoli鈥檙 cyfrifoldeb dros hynny.
Llynedd fe dalodd Cyngor Sir Gwynedd dros 拢160,000 i Ystad y Goron er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael mynediad i wahanol ardaloedd yn y sir.
Bydd gr诺p o gynghorwyr yn cyflwyno cynnig i鈥檙 cyngor ddydd Iau gan ddadlau ei bod yn anfoesol parhau i dalu yn sgil pwysau ariannol mawr.
Mae Yst芒d y Goron yn dweud eu bod nhw鈥檔 gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu gwerth ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol i Gymru.
Y Cynghorydd Dewi Jones o Ward Peblig, Caernarfon, sy鈥檔 arwain y cynnig.
鈥淧ob blwyddyn 'da ni鈥檔 rhoi oddeutu 拢160,000 i Ystad y Goron er mwyn gallu cael mynediad i鈥檔 traethau, a mannau eraill o amgylch y sir.
"I ni, cyngor sir sydd wedi gweld ein cyllideb yn cael ei dorri pob blwyddyn yn nhermau real mae hwnna鈥檔 eithaf anfoesol dwi鈥檔 meddwl. Yn enwedig wrth i ni wynebu toriadau pellach i wasanaethau wrth i elw Ystad y Goron mwy na dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf,鈥 meddai.
Ychwanegodd: 鈥淒wi鈥檔 teimlo鈥檔 gryf y dylwn ni atal y taliadau yma am y tro a dechrau sgwrs go iawn am ddatganoli rheolaeth tir, a鈥檙 elw sy鈥檔 dod oddi wrthyn nhw i Lywodraeth Cymru.鈥
Mae鈥檙 arian mae Cyngor Gwynedd yn ei dalu i Ystad y Goron er mwyn sicrhau mynediad cyhoeddus at rannau o arfordir y sir yn amrywio.
Ym Mangor mae鈥檙 gost leiaf, sef 拢35 y flwyddyn i ganiat谩u mynediad i flaen traeth y ddinas.
Ym Mhwllheli mae鈥檙 gost fwyaf, 拢144,000 y flwyddyn ar gyfer sicrhau mynediad i ardal yr hafan.
Disgrifiodd Dylan Llywelyn, sy鈥檔 enedigol o鈥檙 dref, y drefn fel 鈥渟iom鈥.
鈥淧an mae rhywun yn edrych o gwmpas Pwllheli a llawer o drefi eraill mae rhywun yn meddwl, tybed fysa鈥檙 arian yna yn gallu bod o ddefnydd i鈥檙 gymuned leol?
"A'r ateb ydy bysa, byddwn ni鈥檔 gallu elwa ohono fo. Mae鈥檔 bechod bod yr arian yn diflannu o yma,鈥 meddai.
Nid pawb sy鈥檔 cytuno, symudodd Pam Parry i Bwllheli dros 40 mlynedd yn 么l.
鈥淢ae Yst芒d y Goron yn berchen ar dipyn o dir, ond bod ni鈥檔 gwneud y defnydd gorau o鈥檙 tir yna dwi鈥檔 meddwl bod popeth yn iawn," meddai.
"Mae fel talu rhent, weithiau mae angen iddyn nhw wneud arian er mwyn buddsoddi arian.鈥
Beth yw Ystad y Goron?
Mae gwerth dros 拢603 miliwn o dir ar draws Cymru ym meddiant y goron.
Mae hynny鈥檔 cynnwys:
- 65% o arfordir Cymru
- Hyd at 12 milltir oddi ar y tir a gwelau afonydd
- 50,000 erw o dir
- 250,000 erw o dir mwynol
- Unrhyw aur ac arian sy鈥檔 cael ei ddarganfod
鈥淵stad y goron yw鈥檙 tiroedd sy鈥檔 eiddo i鈥檙 goron 鈥 nid i unrhyw frenin neu frenhines yn bersonol,鈥 meddai鈥檙 hanesydd Dr Elin Jones.
Ychwanegodd: 鈥淢ae鈥檙 incwm sy鈥檔 dod o鈥檙 tir yna yng Nghymru a Lloegr yn mynd tuag at gynnal y Goron a Llywodraeth y Deyrnas Unedig 鈥 ac mae canran ohono yn mynd i gynnal y teulu brenhinol yn uniongyrchol.鈥
Mae rhan o鈥檙 cynnig sy鈥檔 cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd ddydd Iau yn galw am ddatganoli rheolaeth tiroedd Ystad y Goron, a鈥檙 elw sy鈥檔 dod oddi wrthyn nhw i Lywodraeth Cymru.
Ond mae鈥檙 cynnig yn ddadleuol, yn 么l yr Aelod Seneddol dros orllewin Caerfyrddin a de Sir Benfro Samuel Kurtz.
鈥淧an dwi鈥檔 siarad 芒 chwmn茂au sydd am ddod mewn i Gymru 鈥 i fuddsoddi mewn diwydiant gwyrdd 鈥 dydyn nhw ddim yn s么n am ddatganoli Ystad y Goron," meddai.
"Maen nhw鈥檔 s么n am gynllunio a sut allwn ni gyflawni cynllunio yng Nghymru 鈥 dod a mwy o bobl gyda sgiliau ychwanegol sydd ei angen yn y diwydiant newydd. Dydyn nhw ddim yn siarad am ddatganoli Ystad y Goron."
Mewn ymateb i gynnig cynghorwyr Gwynedd dywedodd llefarydd ar ran Ystad y Goron ei bod nhw鈥檔 gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod nhw鈥檔 creu gwerth ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol, nawr ac yn y tymor hir.