大象传媒

Bwrdd iechyd y gogledd wedi gordalu uwch swyddog am yr eildro

arwydd Betsi Cadwaladr
  • Cyhoeddwyd

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi gordalu un o'i uwch swyddogion.

Yn 么l adroddiad Archwilio Cymru, roedd "gwariant afreolaidd" o 拢39,259.62 i un o gyfarwyddwyr ariannol dros dro y bwrdd y llynedd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy鈥檔 trin cleifion y gogledd, bod "gwelliannau go iawn wedi ei wneud ers y digwyddiadau yma" a bod "canolbwyntio o'r newydd ar reoli cyllid y bwrdd iechyd".

Llynedd, fe ddatgelodd Newyddion S4C fod Gaynor Thomason wedi ennill dros dair gwaith yr uchafswm cyflog roedd Llywodraeth Cymru yn ei ganiat谩u ar gyfer ei r么l fel cyfarwyddwr interim nyrsio a bydwreigiaeth y bwrdd.

Dywedodd Ms Thomason nad oedd hi wedi gwneud unrhyw beth o'i le ac nad oedd hi'n ymwybodol o reolau'r llywodraeth am d芒l swyddogion byrddau iechyd.

Mae nawr wedi dod i'r amlwg fod y bwrdd iechyd wedi gordalu uwch swyddog arall lai na blwyddyn wedi i ordaliad Ms Thomason ddod i'r amlwg.

拢135,000 am chwe mis

Talwyd 拢135,000 i Steve Webster am chwe mis o waith fel cyfarwyddwr ariannol dros dro y bwrdd rhwng 3 Ionawr a 22 Mehefin y llynedd.

Yn 么l rheolau Llywodraeth Cymru, 拢170,919 yw'r uchafswm cyflog ar gyfer r么l o'r fath.

Roedd cyflog Mr Webster yn cyfateb i 拢292,236 mewn blwyddyn - ac felly yn 么l Archwilio Cymru, talwyd bron i 拢40,000 yn ormod iddo.

Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu 芒 Mr Webster i ofyn am ei ymateb.

Does dim awgrym ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le, gan nad ef fyddai'n gosod ei gyflog.

Ym mis Chwefror 2023, rhoddodd yr ysgrifennydd iechyd ar y pryd, Eluned Morgan, y bwrdd iechyd yn 么l dan fesurau arbennig.

Ar 20 Mehefin y llynedd, cyhoeddwyd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Roedd yn nodi bod defnydd o swyddogion gweithredol dros dro Betsi Cadwaladr yn "ormodol" ac yn "anghynaladwy".

Deuddydd wedi cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, gadawodd Mr Webster ei swydd gyda'r bwrdd iechyd.

Gofynnodd Newyddion S4C am gyfweliad gydag Eluned Morgan neu'r cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford - sydd nawr yn ysgrifennydd iechyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y mater yn un i'r bwrdd iechyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mabon ap Gwynfor fod "cwestiynau mawr... am y ffordd mae'r bwrdd iechyd yn edrych ar 么l eu harian"

Mynegi siom wnaeth llefarydd iechyd Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor.

"Mae o'n cynddeiriogi rhywun clywed bod hyn wedi digwydd dwy flynedd yn olynol, amser bod prosiectau iechyd cymunedol yn ardal Betsi Cadwaladr yn cael eu cwtogi," meddai.

"Mae 'na gwestiynau mawr yn cael eu gofyn am y ffordd mae'r bwrdd iechyd yn edrych ar 么l eu harian a'r ffordd mae'r llywodraeth ym Mae Caerdydd yn goruchwylio eu gwaith - a'u methiant yn gwneud hynny."

Mae'r Aelod Senedd Ceidwadol Darren Millar yn galw am ymchwiliad annibynnol.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu r诺an i gael gafael ar y sefyllfa," dywedodd.

"Mae'n amser i gael ymchwiliad annibynnol cyn gynted 芒 phosib."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Darren Millar yn galw am ymchwiliad annibynnol

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Dyfed Edwards: "Adroddwyd i'r bwrdd yn gynharach eleni bod gostyngiad o 82% mewn gwariant ar benodiadau dros dro.

"Bydd aelodau anweithredol y bwrdd yn parhau i ddal aelodau gweithredol i gyfrif dros gyllid cyhoeddus.

"Mae'r bwrdd yn nodi'r gwelliant go iawn sydd wedi ei wneud ers y digwyddiadau yma, ddigwyddodd yn bennaf ym mlynyddoedd ariannol 2021-22 a 2022-23."