Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Gwarchod, nid sensora' oedd bwriad canslo'r Fedal Ddrama
Mae beirniaid un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol a gafodd ei chanslo wedi dweud mai "nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm 芒鈥檙 gystadleuaeth a鈥檙 gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli".
Fe gafodd y Fedal Ddrama ei chanslo yn ddirybudd yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yr wythnos ddiwethaf.
Ar y pryd dywedodd yr Eisteddfod bod hynny wedi digwydd ar 么l y broses o feirniadu'r gystadleuaeth, gan addo adolygiad maes o law.
Nos Fawrth, cyhoeddodd beirniaid y wobr - Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch - yn ogystal 芒 Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, ddatganiad ar y cyd.
Mae'n dweud mai penderfyniad Bwrdd yr Eisteddfod oedd atal y gystadleuaeth, ond bod "rhaid pwysleisio fod y beirniaid yn cytuno" 芒'r penderfyniad.
Mae Ashok Ahir, Llywydd Llys a Chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, hefyd yn dweud bod "angen sgwrs am yr hyn sydd wedi codi eleni", yn sgil y "sylwadau a鈥檙 dyfaliadau diddiwedd".
"Rydyn ni鈥檔 fodlon iawn i arwain y drafodaeth ar y cyd gyda鈥檙 sector yn yr hydref", ychwanegodd.
Dywedodd Cefin Roberts, cyn-enillydd y Fedal Ddrama a chyn-gyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol, ei bod yn "sefyllfa anffodus iawn ac mae 鈥榥a nifer o gwestiynau yn dal i hongian yn yr awyr".
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd: "Symud yn ein blaenau 'da ni angen 'neud r诺an, a gobeithio byddwn ni鈥檔 gallu gwneud hynny mewn ffordd aeddfed sy鈥檔 helpu bob awdur 鈥 gan gynnwys yr awdur sydd allan yno鈥檔 rhywle yn teimlo rhyw gywilydd heddiw, a ddylia fo neu hi ddim gwneud hynny.
"Mae fy nghalon i鈥檔 gwaedu dros y dramodydd erbyn hyn, mae arna鈥檌 ofn, achos dy鈥檔 nhw ddim wedi cael llais o gwbl."
Ychwanegodd: "Mae鈥檙 cystadleuwyr eraill, y gynulleidfa, y beirniaid, yr Eisteddfod, wedi cael amddiffyn ei hunain.
"Mae 'na un llais bach allan yn fanna sydd ddim wedi cael llawer o gefnogaeth hyd yma.
"Dydyn nhw ddim wedi tramgwyddo, 鈥榙i sgwennu drama maen nhw, ac yn eu na茂frwydd creadigol, maen nhw wedi gwneud camgymeriad bach heb sylweddoli hynny.
"Maen nhw angen ein cydymdeimlad ni heddiw.鈥
Ychwanegodd: 鈥淒wi yn meddwl bod isio trafodaeth llawer iawn ehangach na鈥檙 sefyllfa arbennig yma.
"Dwi 'di teimlo ers sbel bod ni angen cytuno ar y ffordd ymlaen. Mae鈥檙 byd yn newid. Mae鈥檙 ffordd 'da ni鈥檔 edrych ar bethau yn newid."
Cyn y datganiad, roedd Undeb yr Ysgrifenwyr wedi anfon llythyr at swyddogion y Steddfod yn gofyn am eglurhad am y penderfyniad ac yn galw am dryloywder.
Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Cymru Undeb yr Ysgrifenwyr, yr awdur Manon Eames, fod angen croesawu'r ffaith bod nhw [yr Eisteddfod] wedi dweud eu bod nhw'n mynd i fod yn rhan o drafodaethau pellach o fewn y sector".
"Dwi鈥檔 gobeithio bydd yr Eisteddfod yn gwahodd pobl sy鈥檔 ymwneud 芒 chyrff eraill, sy'n cynrychioli awduron ac yn cynrychioli鈥檙 ddrama yng Nghymru i fod yn rhan o鈥檙 trafodaethau hynny," meddai ar Dros Frecwast.
Ychwanegodd: 鈥淢ae pobl wedi pigo fyny ar y frawddeg ble maen nhw鈥檔 deud bod disgwyl i bob awdur wedi gwneud eu gwaith ymchwil yn drwyadl.
"Wedyn mae pobl yn gofyn, os nad oedd yr ymchwil iawn, pam bo' nhw wedi gwobrwyo yn lle cyntaf?鈥
Beth yw'r cefndir?
Y dasg ar gyfer y Fedal Ddrama oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Daeth cyhoeddiad o'r llwyfan bod yr Eisteddfod wedi canslo'r gystadleuaeth eleni, a hynny ychydig funudau cyn yr oedd disgwyl i'r seremoni - prif seremoni'r dydd - gychwyn.
Ni roddodd yr Eisteddfod unrhyw fanylion pellach am y rheswm dros ganslo'r fedal ar y pryd.
Ond fe wnaeth yr Eisteddfod gadarnhau bod y penderfyniad wedi ei wneud "ar 么l cwblhau鈥檙 broses o feirniadu", a bod "rhaid" atal y wobr.
Arweiniodd hynny at alwadau am rannu rhagor o fanylion, yn cynnwys gan gyn-enillwyr ac un oedd wedi cystadlu eleni.
Dywedodd yr Eisteddfod bod rhaid "parchu'r broses a hefyd parchu cyfrinachedd".
Y datganiad yn llawn
Datganiad gan y beirniaid a Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Yn dilyn y trafodaethau a鈥檙 dyfalu ar y Maes ac yn arbennig yn y wasg a鈥檙 cyfryngau dros y dyddiau diwethaf, mae beirniaid cystadleuaeth y Fedal Ddrama wedi rhyddhau datganiad sy鈥檔 egluro鈥檙 broses a鈥檙 hyn a arweiniodd at benderfyniad Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama eleni.
鈥淔e ddaethon ni fel beirniaid i鈥檙 broses o ddarllen a dewis y ddrama fuddugol eleni yn hollol ddall. Dewiswyd drama roedden ni i gyd yn gytun oedd yn lais cyffrous ac yn safbwynt ffresh a newydd i theatr yng Nghymru. Roedden ni鈥檔 disgwyl i bob awdur fod wedi gwneud eu gwaith ymchwil yn drwyadl. Mae hyn yn hollbwysig i ddilysrwydd ac uniondeb y dramau.
鈥淲rth i鈥檙 broses fynd yn ei blaen, daeth yn amlwg i'r Eisteddfod nad oedd modd i鈥檙 gystadleuaeth barhau. Nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm 芒鈥檙 gystadleuaeth a鈥檙 gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli. Penderfyniad Bwrdd yr Eisteddfod oedd hi i atal y gystadleuaeth ar y pwynt yma.
鈥淥 fod yn rhan o鈥檙 broses feirniadu eleni, rydyn ni鈥檔 ni鈥檔 hyderus bod llawer o dalent ysgrifennu sy鈥檔 werth ei ddathlu ac rydyn ni鈥檔 gwerthfawrogi鈥檙 gwaith caled a aeth mewn i bob un drama. Gobeithio y daw cyfle i ni weld rhai o鈥檙 dramau ddaeth i law ar ein llwyfannau yn y dyfodol.
鈥淒iolch i鈥檙 Eisteddfod am ein gwahodd i feirniadu, ond mae ein gwaith ni o feirniadu鈥檙 dramau wedi ei wneud, a phob cystadleuydd wedi derbyn beirniadaeth yn unigol am eu gwaith. Ni fyddwn yn gwneud sylwadau pellach yn gyhoeddus ar benderfyniad yr Eisteddfod i atal y gystadleuaeth, gan nad ydym yn rhan o broses penderfynu Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod.
鈥淏yddwn ni鈥檔 hapus i fod yn ran o drafodaethau pellach o fewn y sector pan fydd canllawiau newydd yr Eisteddfod yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn, gan ei bod hi'n sgwrs bwysig i'w chael, gan obeithio y daw newidiadau positif i'r gystadleuaeth yn y dyfodol.鈥
Ychwanegodd Ashok Ahir, Llywydd Llys a Chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, 鈥淢ae gan yr Eisteddfod gyfrifoldeb i warchod pawb sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檔 cystadlaethau, gan gynnwys y rheini sydd wedi cystadlu a鈥檙 beirniaid. Dyna fu鈥檙 nod drwy gydol y broses hon.
鈥淢ae鈥檔 rhaid pwysleisio fod y beirniaid yn cytuno 芒 phenderfyniad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a bod yr Eisteddfod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd 芒 hwy drwy gydol y trafodaethau dros yr wythnosau diwethaf.
鈥淩ydyn ni eisoes wedi dweud y byddwn yn edrych ar y prosesau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檔 cystadlaethau cyfansoddi dros y misoedd nesaf, gan sicrhau bod ein holl amodau a rheolau yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn dechrau yng nghyfarfodydd ein panelau canolog ddiwedd Medi.
鈥淩ydyn ni鈥檔 cytuno bod angen sgwrs am yr hyn sydd wedi codi eleni, fel rhan o鈥檙 gystadleuaeth ei hun, ynghyd 芒鈥檙 sylwadau a鈥檙 dyfaliadau diddiwedd sydd wedi鈥檜 gwyntyllu drwy鈥檙 wasg a鈥檙 cyfryngau dros y dyddiau diwethaf. Rydyn ni鈥檔 fodlon iawn i arwain y drafodaeth ar y cyd gyda鈥檙 sector yn yr hydref.
鈥淩ydyn ni鈥檔 ymwybodol fod rhai鈥檔 teimlo鈥檔 gryf iawn am y mater hwn, ac rydyn yn falch fod pobl yn teimlo perchnogaeth am yr Eisteddfod a鈥檔 cystadlaethau. Mae hyn yn elfen hollbwysig o ethos ein prifwyl. Mae鈥檙 dyddiau diwethaf wedi bod yn rhai anodd i bawb, ac rwy鈥檔 gobeithio y bydd cyfle am drafodaeth adeiladol ac aeddfed am hyn oll yn yr hydref.鈥