拢3m i wella cyfleusterau p锚l-droed y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o 拢3m ar gyfer gwella cyfleusterau yn y gogledd.
Bydd y rhanbarth yn cynnal pencampwriaeth dynion dan 19 UEFA yn 2026, fydd hefyd yn ben-blwydd y gymdeithas b锚l-droed yn 150 oed.
Mae pedwar maes yn y gogledd wedi eu dewis i gynnal gemau pan fydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal yng Nghymru ymhen dwy flynedd.
Yn ogystal 芒'r Cae Ras yn Wrecsam, bydd Central Park yn Ninbych, Stadiwm Dinas Bangor a'r Oval yng Nghaernarfon hefyd yn cynnal gemau.
Gyda Kylian Mbapp猫 ac Erling Haaland ymysg mawrion y gamp sydd wedi chwarae yn y gystadleuaeth yn y gorffennol, bydd yn gyfle i weld rhai o s锚r y dyfodol.
Mae meysydd ym Mae Colwyn, Gresffordd, Bwcle, Rhuthun, Y Rhyl, Caergybi a Phenmaenmawr hefyd wedi eu dynodi fel mannau i'r timau ymarfer yn ystod y bencampwriaeth.
Yn 么l Cymdeithas B锚l-droed Cymru bydd y 拢3m yn cael ei wario ar wella cyfleusterau, ond bydd hefyd yn gadael gwaddol i'r clybiau sy'n chwarae yn y meysydd hyn wedi i'r bencampwriaeth ddod i ben.
Ychwanegodd y gymdeithas bod y buddsoddiad yma鈥檔 ychwanegol i'r 拢6m sydd eisoes wedi ei ddynodi i wella safonau ym mhrif adran y Cymru Premier.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023