大象传媒

Treth etifeddiaeth i effeithio ar 'gyfran fechan iawn' o ffermwyr

Amaeth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 'na anghytuno i ba raddau y bydd y newidiadau treth etifeddiaeth yn effeithio ar ffermydd teuluol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd y newidiadau i reolau treth etifeddiaeth yn effeithio ar "gyfran fechan iawn" o ffermwyr Cymru, yn 么l y Prif Weinidog Eluned Morgan.

Yn y Senedd ddydd Mawrth disgrifiodd arweinydd gr诺p y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, y newid fel "brad creulon".

Dan gynlluniau'r Canghellor, bydd treth etifeddiaeth o 20% yn berthnasol i werth asedau y tu hwnt i'r trothwy o 拢1m o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Fe wnaeth Ms Morgan gyhuddo'r gwrthbleidiau o "godi bwganod" gyda'u beirniadaeth.

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Eluned Morgan mai "cyfran fach iawn o ffermwyr yng Nghymru fydd yn cael eu heffeithio"

Mae cyhoeddiad y Canghellor, Rachel Reeves, yn y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf yn golygu na fydd 拢1m cyntaf unrhyw yst芒d yn cael ei drethu, ond fe fydd yn rhaid talu treth o 20% dros gyfnod o 10 mlynedd ar unrhyw swm ar ben hynny.

Ond oherwydd eithriadau o ran tai a pharau priod yn trosglwyddo asedau i ddisgynyddion uniongyrchol, fe allai olygu bod 拢2m yn cael ei eithrio cyn gorfod talu'r dreth.

Dywedodd Andrew RT Davies fod gwleidyddion Llafur wedi diystyru newid o鈥檙 fath yn flaenorol, a gofynnodd i鈥檙 prif weinidog: 鈥淵dych chi鈥檔 deall y dicter, y pryder a鈥檙 ofn y mae ffermwyr a鈥檙 rhai sy鈥檔 ddibynnol ar y diwydiant amaeth yn ei deimlo pan maen nhw wedi'u bradychu mewn ffordd mor chwerw gan eich plaid?"

Mewn ymateb dywedodd Ms Morgan wrtho am "roi'r gorau i godi bwganod", gan ychwanegu "mewn gwirionedd, cyfran fach iawn o ffermwyr yng Nghymru fydd yn cael eu heffeithio gan y dreth etifeddiaeth".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Andrew RT Davies bod ffermwyr yn teimlo "dicter a phryder"

Dywedodd Delyth Jewell o Blaid Cymru fod ffermwyr yn 鈥渢eimlo wedi eu bradychu鈥, gan honni bod y polisi newydd yn 鈥渂ygwth dyfodol llawer o ffermydd teuluol Cymreig鈥.

Ymatebodd Ms Morgan na fyddai'r "mwyafrif helaeth" o ffermydd Cymru yn gorfod talu'r dreth.

Er gwaethaf y newidiadau gafodd eu cyhoeddi, mae lwfansau treth etifeddiant eraill yn golygu y gallai ffermwyr etifeddu asedau gwerth bron i 拢3m heb dalu treth.

"Mae yna lwfans enfawr pan mae'n dod i'r gymuned amaethyddol, a'r hyn rydyn ni'n s么n amdano yma yw ffermydd hynod o fawr a chyfoethog," ychwanegodd Morgan.