Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Buddugoliaeth hanesyddol i'r Seintiau Newydd yn erbyn Astana
Fe enillodd y Seintiau Newydd o 2-0 yn erbyn Astana o Kazakhstan nos Iau.
Dyma oedd ail g锚m y t卯m o Gymru yn rownd y gynghrair yng Nghyngres Europa, wedi iddyn nhw golli yn erbyn cewri鈥檙 Eidal, Fiorentina ddechrau鈥檙 mis.
Er bod hon yn g锚m gartref i'r Seintiau Newydd, roedden nhw'n chwarae'r g锚m yn Amwythig.
Mae stadiwm arferol y Seintiau - Neuadd y Parc - yn cydymffurfio 芒 rheolau UEFA ar gyfer gemau rhagbrofol, ond nid ar gyfer gemau yn y brif gystadleuaeth.
Croesiad gan Jordan Williams arweiniodd at y g么l gyntaf, gyda Rory Holden yn llwyddo i benio i gornel uchaf y rhwyd.
Fe orffennodd yr hanner gyntaf gyda鈥檙 Seintiau Newydd ar y blaen.
Daeth cyfle i鈥檙 Seintiau Newydd ddyblu鈥檙 fantais pan ildiodd Astana gic o'r smotyn yn yr ail hanner.
Tarodd Declan McManus y b锚l i gefn y rhwyd i ddyblu mantais y Seintiau.
Y Seintiau yw'r clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel yw hi o eleni ymlaen - yn un o brif gystadlaethau Ewrop.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf y t卯m yn y gystadleuaeth.
Astana oedd y clwb cyntaf o Kazakhstan i gyrraedd rownd y grwpiau yng Nghynghrair y Pencampwyr n么l yn 2015.
Mae gan bencampwyr Cymru bedair g锚m yn weddill yn rownd y grwpiau - a hynny yn erbyn Djurg氓rdens o Sweden, Shamrock Rovers o Weriniaeth Iwerddon, Panathinaikos o wlad Groeg a Celje o Slofenia.