Newid posib i system barcio Caerdydd yn 'annheg' ar fyfyrwyr

Watch Moments
Disgrifiad o'r fideo, Eleri Davies, Deio Owen ac Elain Edwards fu'n s么n am eu pryderon gyda Cymru Fyw
  • Awdur, Annell Dyfri
  • Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw

Mae newid posib i system barcio Caerdydd yn "annheg", meddai myfyrwyr, gan na fyddan nhw'n gymwys am drwydded.

Bwriad y cyngor sir yw "lleihau effaith cerbydau myfyrwyr ar drigolion lleol" a "hyrwyddo'r defnydd o deithio llesol a chynaliadwy".

Ond mae rhai myfyrwyr yn poeni am effaith hyn ar eu cyrsiau a'u ffordd o fyw.

Mae llywydd undeb cenedlaethol i fyfyrwyr wedi'i alw'n gynnig "gwleidyddol i gefnogi鈥檙 boblogaeth leol" a bod myfyrwyr wedi'u "rhoi i un ochr".

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor na fyddai unrhyw newid yn dod i rym tan o leiaf Hydref 2026, a bod hynny'n rhoi "digon o amser i fyfyrwyr ystyried trefniadau amgen".

Mae gan bobl Caerdydd - gan gynnwys myfyrwyr - tan 1 Rhagfyr i leisio'u barn ar y cynnig.

'Pawb yn flin a siomedig'

Mae un fyfyrwraig sy'n astudio meddygaeth wedi disgrifio'r cynnig fel un "anghyfleus ac annheg".

I Elain Edwards sy'n wreiddiol o Fangor, bydd y cynnig hwn yn "effeithio'n fawr" ar ei gallu i gyrraedd sesiynau addysgu mewn gwahanol ysbytai.

Er ei bod yn cydnabod bod y brifysgol yn darparu bysys i gyrraedd y lleoliadau, dywedodd nad yw rheiny'n "addas oherwydd yr amseroedd maen nhw'n mynd" gan ychwanegu fod 'na "ddiffyg hyblygrwydd".

Aeth ymlaen i ddweud bod "meddygaeth yn gwrs sydd wedi ei ddylunio i bobl sydd efo car, yn enwedig yn ne Cymru" a bydd yr anallu i barcio ei char yn Cathays yn broblem.

"Ma' pawb yn flin a siomedig oherwydd dwi鈥檔 teimlo bod y cyngor ddim yn rhoi priority i鈥檙 myfyrwyr.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Elain Edwards wedi disgrifio'r cynnig fel un "anghyfleus ac annheg"

Dywedodd Eleri Davies, myfyrwraig ar ei thrydedd flwyddyn, fod gallu parcio car yn 鈥渁llweddol鈥 i fyfyrwyr yn y brifddinas.

Ag hithau鈥檔 gobeithio mynd ymlaen i astudio鈥檙 cwrs TAR Cynradd y flwyddyn nesaf, dywedodd y gallai鈥檙 cynnig yma effeithio ar ei phenderfyniad yn y pen draw.

鈥淏yddwn ni鈥檔 mynd ar placement am hanner y flwyddyn, felly bydd angen bod yn yr ysgol am 08:20,鈥 meddai.

Ychwanegodd y byddai鈥檔 rhaid iddi 鈥渁dael mor gynnar yn y bore, ac mae hynny os mae鈥檙 trenau neu鈥檙 bysys yn rhedeg鈥.

Roedd o鈥檙 farn nad yw trafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd yn 鈥渄dibynadwy iawn鈥 gan nodi fod 鈥渃ymaint o鈥檙 trenau eleni yn rail replacement buses鈥.

Disgrifiad o'r llun, Mae parcio yn gallu bod yn anodd mewn ardaloedd yng Nghaerdydd - fel yn y Waun Ddyfal, neu Cathays - hyd yn oed gyda thrwydded

Dywedodd ei bod yn teimlo鈥檔 鈥渞hwystredig am y sefyllfa barcio 'ma, mae鈥檔 'neud i fi ailfeddwl neud y cwrs TAR cynradd鈥.

Dywedodd hefyd fod diffyg gwybodaeth am yr ymgynghoriad yn broblem ymhlith ei chyd-fyfyrwyr.

鈥淥'n i ddim yn gwybod bod e鈥檔 digwydd nes i fi weld neges鈥

"Dyw Cyngor Caerdydd heb roi dim byd lan, maen nhw wedi rhoi rhywbeth lan ar wefan nhw ond faint o bobl sydd actually yn checo鈥檜 gwefan nhw."

Disgrifiad o'r llun, Mae Deio Owen wedi'i alw'n gynnig "gwleidyddol i gefnogi鈥檙 boblogaeth leol"

Fe ddisgrifiodd Deio Owen, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymru, y sefyllfa fel un 鈥渂ryderus iawn鈥 gan ddweud fod 鈥渕yfyrwyr yn dibynnu lot arnyn nhw [ceir] ar gyfer pethau fel siopa, mynd ar brofiad gwaith, mynd i leoliad鈥.

Dywedodd ei bod hi鈥檔 鈥渂roblem bod hyn hyd yn oed yn cael ei ystyried鈥 gan ddweud ei fod yn 鈥渂ryder bo' ni鈥檔 gweld myfyrwyr yn cael eu rhoi i un ochr mewn cymunedau fel 'ma鈥.

鈥淢ae o i weld wedi ei dargedu ac ella yn benderfyniad gwleidyddol i gefnogi鈥檙 boblogaeth leol," meddai.

Mae鈥檔 annog myfyrwyr i ymateb i鈥檙 ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod hyn ddim yn cael effaith arnyn nhw.

Beth yw'r ymgynghoriad?

Mae ymgynghoriad cyngor y brifddinas yn rhan o gynllun i gynnig "fframwaith newydd ar gyfer rheoli parcio yng Nghaerdydd".

Mae'r ymgynghoriad eisoes wedi agor a bydd yn dod i ben wedi chwe wythnos ar 1 Rhagfyr 2024.

Mae'n nodi mai bwriad creu'r ardaloedd o reoli parcio yw "rhoi cyfle gwell i breswylwyr barcio ar eu stryd, neu ar ffyrdd cyfagos at eu cartref - tra'n lleihau'r cyfleoedd i barcio ar gyfer cymudwyr".

Dywed un o gynigion yn yr ymgynghoriad na fydd "eiddo 'myfyrwyr yn unig鈥 yn gymwys i gael trwyddedau parcio" - a dyma sydd wedi cythruddo nifer o fyfyrwyr.

"Bydd peidio 芒 darparu'r Trwyddedau Parcio i'r eiddo hyn yn lleihau effaith cerbydau myfyrwyr ar drigolion lleol ac yn hyrwyddo'r defnydd o deithio llesol a chynaliadwy gan fyfyrwyr," meddai'r cynnig.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys cyflwyno parthau parcio a chynigion.

"Ni fydd gan eiddo yn ardal allanol y ddinas hawl i drwyddedau parcio," meddai.

"Bydd unrhyw drwyddedau presennol yn cael eu diddymu'n raddol pan fydd deiliad y drwydded yn symud allan."

Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Caerdydd na fyddai newid o'r fath yn dod i rym tan Hydref 2026 "ar y cynharaf, gan roi digon o amser i fyfyrwyr ystyried trefniadau amgen".

鈥淗yd yn hyn mae 15% o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn fyfyrwyr ac mae ymgysylltu pellach yn digwydd gyda'r tair prifysgol i gynyddu'r gyfradd ymateb hon ymhellach," meddai llefarydd.

Maen nhw'n annog myfyrwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad gan ddweud eu bod wedi cyhoeddi "taflen wybodaeth sydd wedi'i hanelu at fyfyrwyr, sy'n cynnwys cod QR ar gyfer mynediad rhwydd i fynegi eu barn".

"Rhan o nod y cyngor yw edrych ar ffyrdd y gallwn hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy yn well yn y ddinas."