Ennill yn regata Henley... ar ôl dim ond tair blynedd o rwyfo

Ffynhonnell y llun, Benedict Tuffnell

Disgrifiad o'r llun, Cedol Dafydd

Prin fyddech chi’n meddwl fod tair blynedd o brofiad yn ddigon i chi lwyddo ar lefel uchel mewn unrhyw gamp.

Ond mae Cedol Dafydd newydd ennill yn un o rasys mwyaf y byd rhwyfo, ac ar fin ymuno â thîm rhwyfo Prydain yn llawn amser, lle bydd yn rhwyfo ochr-yn-ochr â phobl fydd wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd, ag yntau ond wedi bod wrthi ers 2021.

O Fangor i Henley

Doedd yna ddim llawer o gyfleoedd rhwyfo yng ngogledd Cymru pan oedd o’n tyfu i fyny, eglurodd Cedol, sy’n dod o Fangor yn wreiddiol, felly doedd o ddim yn rhywbeth roedd yn gwybod llawer amdano.

Nofio oedd ei gamp o, tan iddo fynd i’r brifysgol yng Nghaerfaddon, a rhoi cynnig ar rwyfo. Ac mae’r penderfyniad wedi talu ar ei ganfed, eglurodd wrth Aled Hughes ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.

Yn Henley Royal Regatta ddechrau Gorffennaf, roedd Cedol, sy’n 23 oed, ymhlith 780 o gychod o ryw 30 gwlad wahanol a oedd yn cystadlu yn y ras fyd-enwog.

"Llynedd, 'naethon ni golli’r rownd gynta, felly dwi ddim wedi cael lot o brofiad o Henley tan flwyddyn yma," meddai. "'Naethon ni golli flwyddyn dwytha, a do’n i’m yn licio’r teimlad yna o gwbl, so aethon ni yna eleni i ‘neud o’n iawn!"

Ac mi gadwodd at ei addewid, wrth iddo ef a’i bartner, Jamie Gare ennill y fedal aur yn y categori Double Sculls, a churo dau a oedd o fewn trwch blewyn i gynrychioli UDA yn y Gemau Olympaidd eleni.

Ffynhonnell y llun, AllMarkOne

Disgrifiad o'r llun, Cedol a'i bartner Jamie Gare yn ennill yn Henley

Curo pencampwyr Tokyo 2020

Ychydig wythnosau cyn hynny, roedd Cedol a’i gyd-rwyfwyr Prydeinig wedi cael ras dda yn Poznań yng Ngwlad Pwyl yng Nghwpan Rhwyfo’r Byd.

"O’dd o un o’r rasys mwyaf cyffrous dwi erioed wedi bod yn rhan ohono fo," eglurodd. "O’dd y chwech cwch i gyd o fewn tair eiliad i’w gilydd.

"Iwerddon, Yr Almaen a Seland Newydd oedd gyntaf, ac o’ddan ni eiliad wedyn, a 'nathon ni guro pencampwyr Olympaidd Tokyo, ar y llinell, o 0.4 eiliad, sef y dwbl o Ffrainc.

"O’dd hi’n eitha’ swrreal gallu dweud, 'nathon ni ddim medalu, ond waw!'. Doedden ni ddim yn siŵr bo’ ni’n mynd i 'neud hynny cyn dechrau rasio... O’ddan ni’n dau yn ifanc, yn erbyn y gorau yn y byd, a heb ddim byd i’w golli.

"Er 'sa medal yn neis, dwi’m yn gallu bod yn rhy siomedig efo ffordd 'nathon ni rasio. Am ras anhygoel!"

Ffynhonnell y llun, Benedict Tuffnell

Disgrifiad o'r llun, Cedol a Stephen Hughes yn Poznań, Gwlad Pwyl

Addasu er mwyn gwella

Does gan Cedol ddim partner rhwyfo parhaol, ag yntau wedi rasio gyda dau bartner gwahanol yn y ddwy ras fawr ddiwethaf. Mae hyn yn rhywbeth sydd yn cael ei benderfynu gan hyfforddwyr y tîm rhwyfo, ac er fod yna lot o fudd o gael cysondeb, eglura, mae gallu addasu i bartner gwahanol yn fuddiol hefyd, meddai.

"Yn Poznań, fy mhartner i oedd Stephen Hughes, yn Henley o’n i efo Jamie Gare, sy’n ei wneud o bach yn anodd weithiau.

"Pan 'da chi’n edrych ar rwyfo, mae o i’w weld fod pawb yn rhwyfo yr union 'run peth. Ond pan ti yn y cwch ma’n deimlad hollol wahanol; mae’n rhaid i ti ²¹»å²¹±è³Ù¾±´Ç‵µ gyflym iawn i ffordd mae’r boi arall yn rhwyfo, ar ôl rhwyfo efo’r boi cynta.

"Ddeuddeg diwrnod cyn mynd i Poznań, 'naeth Stephen a fi jympio fewn i’r cwch efo’n gilydd am y tro cynta ac ymarfer o fana tan Gwlad Pwyl.

"'Swn i’n licio mwy o amser ond ma’n sgil dda iawn i allu rhwyfo efo pobl wahanol yn gyflym, achos dyna sy’n dy 'neud di’n rwyfwr gwell."

Er mai dim ond yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn rhwyfo, mae ei brofiad o wneud chwaraeon pan oedd o’n iau wedi helpu tuag at ei lwyddiant heddiw, meddai.

"O’n i’n nofiwr efo academi Swim Gwynedd ers o’n i’n blentyn. O ran y ffitrwydd, mae o wedi helpu lot.

"Y gwahaniaeth ydi, os dwi yn y cwch, dwi ddim isho nofio!"

Ffynhonnell y llun, Cedol Dafydd

Disgrifiad o'r llun, Cedol yn dathlu gyda'i rieni ar ôl cynrychioli ei wlad ac ennill yn y ras Single Sculls mewn regata ryngwladol yn Iwerddon

Â'i fryd ar LA

Ag yntau wedi bod yn rhan o raglen ddatblygu gan y tîm rhwyfo Prydeinig am y dair blynedd ddiwethaf, bydd yn ymuno gyda’r prif dîm ym mis Medi er mwyn hogi ei grefft a dysgu gan ei gyd-rwyfwyr, gan edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd nesaf yn Los Angeles yn 2028.

"Dwi wastad 'di deud, os mai ti ydi’r person gorau yn y squad, ti’m yn y squad iawn; ti wastad angen gweithio efo rhywun sy’n well na ti.

"Dwi’n edrych 'mlaen i weld pa hwyl byddan nhw’n ei gael yn Paris eleni, a gobeithio pan dwi’n ymuno mod i’n adio at y tîm a chael mwy o fedalau i Brydain.

"Gobeithio rŵan ffeindio partner sy’n gweithio’n dda efo fi, bod y ddau ohonan ni’n gallu ymarfer efo’n gilydd yn dda am flynyddoedd, ac y g’na i’i dal hi yn LA!"