'Nid Hannah Blythyn oedd ffynhonnell y stori' medd gwefan

Ffynhonnell y llun, SENEDD CYMRU

Disgrifiad o'r llun, Mae Hannah Blythyn yn gwadu'n gryf yr honiad ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau

Nid Hannah Blythyn oedd ffynhonnell y stori a鈥檌 sbardunodd i gael ei diswyddo o鈥檙 llywodraeth, yn 么l y wefan newyddion a gyhoeddodd yr erthygl.

Mae Nation.Cymru wedi gwadu mai AS Delyn oedd y tu 么l i stori a ddatgelodd fod y prif weinidog wedi dweud ei fod yn dileu negeseuon oddi ar gr诺p sgwrsio gweinidogion ym mis Awst 2020.

Dywedodd Vaughan Gething wrth y Senedd ddydd Mercher fod tystiolaeth yn dangos bod y neges yn amlwg wedi dod o'i ff么n.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "y fersiwn heb ei olygu o鈥檙 sgrinlun a anfonwyd at Lywodraeth Cymru gan newyddiadurwr yn nodi perchennog y ff么n y daeth y sgrinlun ohono".

鈥淢ae鈥檙 Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir dro ar 么l tro nad oedd yn fodlon rhyddhau鈥檙 fersiwn sydd heb ei golygu oni bai bod pob unigolyn y gellir ei adnabod drwy鈥檙 negeseuon yn cytuno i鈥檞 ryddhau.鈥

'Dim cysylltiad 芒 hi'

Dywedodd prif weithredwr Nation.Cymru Mark Mansfield "nad ydym wedi cael unrhyw gysylltiad 芒 hi ar unrhyw adeg cyn nac ers ei chyhoeddi".

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei bod 鈥渂ron yn amhosibl credu fersiwn y prif weinidog o鈥檙 digwyddiadau鈥.

Ffynhonnell y llun, SENEDD CYMRU

Disgrifiad o'r llun, Mr Gething yn gwrando ar ddatganiad personol gan Ms Blythyn, lle gwadodd iddi erioed ryddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.

Ddydd Mercher, dywedodd Mr Gething bod y negeseuon yn amlwg wedi dod o ff么n y gweinidog a'i fod ef wedi rhoi "buddiannau'r wlad" o flaen rhai ei hun wrth wneud y penderfyniad i'w diswyddo.

Mae nifer o ffynonellau wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod ff么n Ms Blythyn wedi鈥檌 adnabod oherwydd bod ei manylion yn absennol o鈥檙 rhestr o gyfranogwyr a restrir ar y llun.

Roedd Mr Gething yn ymateb i ddatganiad personol gan Ms Blythyn o'r diwrnod cynt, lle gwadodd iddi erioed ryddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.

Gwnaeth hi gyfres o gyhuddiadau yn erbyn Mr Gething, gan gynnwys na ddangoswyd unrhyw dystiolaeth iddi cyn iddi gael ei diswyddo, na ddywedwyd wrthi ei bod o dan ymchwiliad, a bod y sefyllfa wedi ei gadael 芒 phryder a straen difrifol.

Yn ystod datganiad Mr Gething roedd modd gweld Ms Blythyn yn ysgwyd ei phen.

Ar wefan Nation.Cymru, dywedodd Mark Mansfield: 鈥淥 ystyried diddordeb cyhoeddus cryf a phwysigrwydd y stori hon ac allan o bryder am les Hannah Blythyn, rydym wedi penderfynu mai鈥檙 peth iawn i鈥檞 wneud yw datgan yn gyhoeddus nad hi oedd ffynhonnell ein stori ac nad ydym wedi bod mewn unrhyw gysylltiad 芒 hi ar unrhyw adeg cyn nac ers ei chyhoeddi.鈥