Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
O Las Vegas i Landaf
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae Catrin Turner yn dod o Las Vegas ac yn siarad Cymraeg.
Symudodd Catrin i Gymru yn 2021 ac mae hi wedi chwarae rygbi yn Stadiwm y Principality yn barod.
Ond sut mae merch o Las Vegas yn siarad Cymraeg yn rhugl?
Bywyd yn Las Vegas
Cafodd Catrin ei magu yn Las Vegas, yn un o bump o blant. Mae Catrin, ei dwy chwaer a鈥檌 dau frawd yn siarad Cymraeg ers eu bod yn blant.
鈥淢ae Mam yn dod o Aberystwyth. Roedd Mam yn siarad Cymraeg gyda ni, roedd hi鈥檔 bwysig iawn iddi hi ein bod ni鈥檔 siarad Cymraeg,鈥 meddai Catrin.
鈥淎r 么l graddio o Brifysgol Caerdydd, gwnaeth Mam gyfarfod Dad pan roedd hi鈥檔 teithio yn Arizona.
鈥淒yw hi ddim wedi symud 鈥檔么l i Gymru ers priodi Dad.鈥
Gwyliau haf yng Nghymru
Mae gan Catrin atgofion melys o fynd ar wyliau i Gymru dros yr haf.
Meddai: 鈥淩oedden ni鈥檔 dod 鈥檔么l i Gymru bob haf. Weithiau gyda Dad, weithiau ddim.
鈥淩oedden ni鈥檔 mynd i wersylla, mynd i鈥檙 Bala, Casnewydd, Caerdydd ac Aberystwyth.
鈥淩o鈥檔 i鈥檔 caru mynd i Aberystwyth.鈥
Oeddech chi鈥檔 siarad Cymraeg fel teulu bob tro?
鈥淒w i鈥檔 siarad Cymraeg gyda Mam bob tro. Mae Dad yn ychydig o genius, mae e wedi dysgu Cymraeg hefyd. I fi, mae hynny yn anhygoel.
鈥淒w i鈥檔 siarad mwy o Saesneg gyda Dad ond pan mae pawb gyda鈥檌 gilydd, 'dyn ni鈥檔 siarad Cymraeg.鈥
鈥淧an o鈥檔 i鈥檔 mynd i鈥檙 siop gyda fy mrodyr a fy chwiorydd, roedd pawb yn meddwl ein bod ni鈥檔 dod o Sweden achos 'dyn ni i gyd yn blonde!鈥
Symud i Gymru
Mae Catrin wedi teimlo cysylltiad gyda Chymru erioed.
Meddai: 鈥淢ae Las Vegas 10 awr i ffwrdd ar awyren, ond dw i wastad wedi teimlo cysylltiad gyda Chymru.鈥
Dyna pam gwnaeth Catrin benderfynu symud i Gymru yn 2021.
鈥淩o鈥檔 i yn gwybod fy mod i isio byw yng Nghymru fel oedolyn.
鈥淥nd pan wnes i symud yma, do鈥檔 i ddim yn bwriadu byw yma am amser hir. Ond nawr mae hi鈥檔 2024 a dw i yma o hyd. Dw i鈥檔 byw yng Nghaerdydd ac yn joio!鈥
Chwarae rygbi
Un o鈥檌 diddordebau yw chwarae rygbi ac mae hi wedi ymuno 芒 th卯m merched Ystum Taf.
鈥淕wnes i ddechrau chwarae rygbi yn Las Vegas. Ro鈥檔 i鈥檔 chwarae i Las Vegas Rugby pan o鈥檔 i yn y brifysgol. Dyw llawer o Americanwyr ddim yn gwybod beth yw rygbi, ond ro鈥檔 i, fel hanner Cymraes yn gwybod.
Yn ddiweddar, chwaraeodd Catrin yn erbyn t卯m Blaendulais yn Stadiwm y Principality. Y sg么r derfynol oedd 85 i Ystum Taf, 14 i Blaendulais.
鈥淩oedd e鈥檔 gyfle anhygoel. Roedden ni鈥檔 hyderus yn mynd mewn i鈥檙 g锚m ond do鈥檔 ni ddim yn disgwyl ennill gyda chymaint o bwyntiau!
鈥淒w i wedi dod yn ffrindiau da gyda鈥檙 merched rygbi. Ry鈥檔 ni鈥檔 cael cymaint o hwyl.鈥
Un peth arall sy鈥檔 rhoi hwyl i Catrin yw gweld ymateb pobl yng Nghymru pan fydd hi鈥檔 siarad Saesneg.
Meddai wrth chwerthin: 鈥淧an dw i鈥檔 siarad Cymraeg mae pawb yn meddwl fy mod i'n dod o Gymru, felly pan dw i鈥檔 siarad Saesneg maen nhw鈥檔 cael cymaint o sioc!鈥
Geirfa
rhugl/fluent
chwaer/sister
brawd/brother
graddio/graduate
atgofion melys/sweet memories
haf/summer
gwersylla/to camp
brodyr/brothers
chwiorydd/sisters
cysylltiad/connection
oedolyn/adult
bwriadu/intend
Cymraes/Welsh-woman
sg么r derfynol/final score
cyfle/opportunity
hyderus/confident
disgwyl/expectation
cymaint/as many
ymateb/reaction