Pum munud gyda Bardd y Mis: Esyllt Lewis

Mae hi'n fardd sydd hefyd yn artist gweledol ac yn hoff o fwyd, nofio gwyllt a chwarae p锚l-droed.

Yn un o Graig-Cefn-Parc ger Abertawe yn wreiddiol, mae Esyllt Angharad Lewis bellach yn byw yn Nyffryn Ogwen. Hi fydd Bardd y Mis Radio Cymru drwy gydol Ebrill, felly dyma ambell gwestiwn i ddod i'w hadnabod yn well.

Ffynhonnell y llun, Catrin Menai

Disgrifiad o'r llun, Esyllt Angharad Lewis ar Ynys Enlli ar 么l bod yn y m么r, a lle gwell i fod i rywun sy'n hoffi nofio gwyllt a bwyta mecryll?!

Rydych chi鈥檔 mwynhau teithio. Lle fyddech chi鈥檔 mynd fory petai Cymru Fyw yn talu?

Petai鈥檙 byd ddim mewn picil mor enbyd a bod Cymru Fyw yn talu, fydden i鈥檔 'neud taith o amgylch y byd am flwyddyn neu ddwy, gan weithio mewn ambell le ar hyd y daith er mwyn dod i 'nabod pobl tu hwnt i鈥檙 wedd dwristaidd.

Hoffwn i ddychwelyd i Dde America ryw ddydd ar gyfer y dawnsio, y bwyd a鈥檙 dirwedd, ac i Siapan ar gyfer ei phensaern茂aeth a鈥檌 defodau traddodiadol. Hefyd India, Georgia, Ciwba, Mecsico...

Fel artist gweledol ac awdur, oes un yn dod yn fwy rhwydd i chi neu oes rhai pethau yn arwain at ddefnyddio cyfrwng penodol?

Mae fy ymarfer fel artist gweledol wedi ei wreiddio mewn iaith - fy niddordeb pennaf yw archwilio鈥檙 ffyrdd y gall iaith fod yn beth gweledol a sut all pethau gweledol fod yn iaith, drwy berfformio, argraffu, arlunio a gosodwaith.

Mae bod yn chwareus gyda s诺n iaith yn ganolog. Dwi鈥檔 sgwennu darne o ryddiaith ryfedd ac yn eu perfformio ar fy nghof, gan blethu rhwng s诺n y Gymraeg a鈥檙 Saesneg a鈥檙 tensiynau diwylliannol a seinyddol rhwng y ddwy iaith.

Ffynhonnell y llun, Esyllt Angharad Lewis

Disgrifiad o'r llun, Un o weithiau celf Esyllt - Celc!, Ysgythriad ar bapur, 2023

Fel un sy鈥檔 hoff o fwyd da, be' ydi鈥檙 pryd gorau i chi ei gael erioed?

Wow, y cwestiwn anodda!

Rhywbeth ar 么l bod yn nofio yn y m么r. Arogl barbeciw. Mecryll ffresh a lemwn. Bara twym cartref gyda menyn Shir G芒r. Symla i gyd, gore i gyd go iawn.

Fi鈥檔 caru bod bwyd yn beth bob dydd a bod e鈥檔 rhywbeth i鈥檞 rannu, ffrindie a theulu a dieithriaid yn dod ynghyd, y cyffro tawel a phawb yn mwynhau gyda鈥檌 gilydd.

Pam sefydlu clwb p锚l-droed Titws Taf?

Alla i ddim cymryd y clod am sefydlu鈥檙 t卯m p锚l-droed yn anffodus: mae鈥檙 diolch i fy ffrindie Non Williams a Bethan Mai Morgan Ifan (Rogue Jones), ond roeddwn i鈥檔 rhan o鈥檙 criw cychwynnol ac mi wnes ddylunio鈥檙 logo gyda Bethan.

Ro鈥檔 i鈥檔 chware p锚l-droed drwy gydol fy mhlentyndod gyda fy mrodyr h欧n ac ar iard Ysgol Gynradd Felindre, ac i d卯m p锚l-droed iau Penllergaer lle mai fi a Katie fy ffrind o鈥檙 ysgol oedd yr unig ferched! Ond unwaith i fi fynd i鈥檙 ysgol fawr, g锚m i fechgyn yn unig oedd hi.

Felly mae Titws Taf yn gyfle anhygoel i ferched allu dod at ei gilydd i chwarae a chefnogi ei gilydd mewn awyrgylch hyfryd, cynhwysol a sili. Mae鈥檙 un peth yn wir am y t卯m yr oeddwn i鈥檔 rhan ohono yn Glasgow, Cathkin Blazes - mae鈥檙 gymuned yn gynhaliaeth, fel paned o de ar 么l bod mas yn y glaw.

Rydych wedi dechrau doethuriaeth ar waith celf Paul Davies a Gr诺p Beca. Dywedwch fwy am yr artistiaid a beth ydi鈥檙 ap锚l i chi.

Casgled llac o artistiaid oedd Gr诺p Beca, wedi ei arwain gan yr artist Paul Davies, oedd yn wreiddiol o Abertawe ond wedi colli鈥檙 iaith. Roedd e鈥檔 awyddus i feithrin diwylliant gweledol unigryw Gymreig a Chymraeg sosialaidd, ac roedd celf y gr诺p yn eistedd tu allan i鈥檙 鈥榮efydliad鈥 traddodiadol, yn heriol yn weledol ac yn wleidyddol.

Mae Paul Davies fwyaf enwog am ei berfformiad byrfyfyr ar faes Eisteddfod Wrecsam 1977, pan fu鈥檔 dal trawst rheilffordd uwch ei ben gyda鈥檙 llythrennau WN (Welsh Not) wedi eu hysgythru arno, mewn protest yn erbyn diffyg presenoldeb artistiaid o Gymru yn y pafiliwn celf a chrefft.

Ffynhonnell y llun, Reuteurs

Disgrifiad o'r llun, Y cerddor a'r artist o Ganada Joni Mitchell yn perfformio yn Los Angeles fis Chwefror 2024

Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Ma' sawl un o fy hoff feirdd wedi cael bywyde cythryblus neu letchwith; Frank O鈥 Hara, TH, Eileen Myles, ond dwi鈥檔 meddwl bydden i鈥檔 hoffi camu i feddwl Joni Mitchell am damaid, am ei gallu rhyfeddol fel cantores, sgwenwraig ac artist gweledol, ac am orfod bod - a llwyddo bod - bedair gwaith yn well na鈥檙 dynion er mwyn ennill ei bara.

Athrylith! 鈥I am a lonely painter, I live in a box of paints.

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Dwi鈥檔 hoffi cerddi sydd ar yr olwg gyntaf yn edrych fel rhywbeth y bydde unrhyw un wedi gallu sgwennu, ond sy鈥檔 trafod rhywbeth bob dydd mor syml a chain, yn sylwi ar harddwch y cyffredin, fel ei fod yn eich bwrw chi cyn i chi gael cyfle i holi pam.

Ond ar hyn o bryd Pa beth yw dyn? gan Waldo fydde raid iddi fod os ydym yn credu mewn grym geiriau.

鈥楤eth yw trefnu teyrnas? Crefft sydd eto鈥檔 cropian.

A鈥檌 harfogi? Rhoi鈥檙 cyllyll

Yn llaw鈥檙 baban.鈥

Ffynhonnell y llun, Ren Faulks

Disgrifiad o'r llun, Bwa, perfformiad Esyllt Angharad Lewis ac Emma Lewis-Jones yn Arcade Campfa Caerdydd, Mawrth 2023

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

Dwi鈥檔 creu fy ngwaith celf fy hun fel rhan o ymchwil y ddoethuriaeth, a dwi newydd ddechre (!) felly ma' na ddigon i nghadw i鈥檔 brysur.

Fydda i鈥檔 cyhoeddi pamffled gyda Chyhoeddiadau鈥檙 Stamp yn yr haf a bydd yna hefyd flodeugerdd o sgwennu gan fenywod Cymru wedi ei olygu gennyf i a fy modryb Catrin Beard yn cael ei chyhoeddi.

Dwi newydd symud i Fethesda ac ma' crwydro鈥檙 mynyddoedd a nofio鈥檙 afonydd wrth i鈥檙 Gwanwyn flaguro yn gynllun braf. Mae鈥檔 lle hudolus.