大象传媒

Caernarfon yn colli'n drwm yn erbyn Legia Warsaw

Chwaraewyr CaernarfonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid chwarae'r g锚m tu 么l i ddrysau cae毛dig yn sgil cosb dros ymddygiad rhai o gegnogwyr Legia Warsaw

  • Cyhoeddwyd

Cafwyd perfformiad dewr a llawn cymeriad gan Gaernarfon nos Iau er iddyn nhw golli o 6-0 oddi cartref yn erbyn Legia Warsaw yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Roedd peniad Marc Gual a chynnig Ryoya Morishita 鈥 yn dilyn camgymeriad erchyll gan y golwr ifanc Stephen McMullan - wedi rhoi cewri Gwlad Pwyl 2-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Cafodd Danny Gosset a Zack Clarke gyfleoedd i鈥檙 Caneris, sy'n cystadlu yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Ffynhonnell y llun, Mabon Rowlands

Sgoriodd Gual ddwywaith yn rhagor i gwblhau ei hat-tric yn yr ail hanner cyn i Blaz Kramer sgorio鈥檙 bumed, a hynny wedi iddo fethu cic o鈥檙 smotyn.

Daeth g么l olaf y noson trwy ergyd o bellter gan Claude Gon莽alves yn yr amser a ychwanegwyd ar ddiwedd y g锚m ar gyfer anafiadau.

Fe gafodd y g锚m ei chwarae tu 么l i ddrysau cae毛dig ar 么l i Legia gael eu sancsiynu gan UEFA am i鈥檞 cefnogwr arddangos baner 鈥渂ryfoclyd鈥 gyda 鈥渘atur sarhaus鈥 mewn g锚m yn erbyn Molde fis Chwefror.

Fe fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae nos Iau 1 Awst.