Techneg achub bywyd o鈥檙 1940au dal i gael ei ddysgu yn Aberdyfi

Ffynhonnell y llun, Outward Bound

Mae 鈥榥a dechneg achub bywyd gafodd ei ddatblygu yn Aberdyfi ar gyfer morwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd dal i gael ei ddysgu yno bob haf.

Mae鈥檙 techneg Jog a Dip yn golygu dal breichiau yn y d诺r gyda鈥檙 bobl o鈥檆h amgylch 鈥 rhywbeth wnaeth gychwyn gael ei ddysgu i forwyr fel techneg achub bywyd os oedd torpido yn suddo eu llong.

Sefydlwyd y ganolfan gweithgareddau allanol Outward Bound cyntaf yn Aberdyfi yn 1941 er mwyn hyfforddi morwyr yn y dechneg.

Ac mae鈥檙 adeilad gwreiddiol dal i gael ei ddefnyddio heddiw ynghyd 芒鈥檙 hen gloch a鈥檙 hen polyn fflag.

Ffynhonnell y llun, Outward Bound

Dywedodd Iain Sime, sy鈥檔 uwch hyfforddwr yn Aberdyfi: 鈥淩oedd llongau Prydeinig yn cael eu targedu gan longau tanfor Hitler ym M么r Iwerydd ac roedd morwyr profiadol yn gwybod, os oedd rhaid iddynt adael y llong, y dylent gysylltu breichiau yn y d诺r.

鈥淥nd roedd y rhuthr i gael dynion ifanc i鈥檙 lluoedd arfog yn aml yn golygu bod hyfforddiant sylfaenol ddim yn digwydd 鈥 ac yn drasig iawn bu farw llawer o recriwtiaid llyngesol newydd oedd yn ddibrofiad ac yn aml yn ddihyder ar y m么r oherwydd diffyg hyfforddiant.

鈥淔elly cr毛wyd y dechneg Jog a Dip ymhlith ymarferion eraill 鈥 ac mae鈥檔 parhau hyd heddiw fel traddodiad yn y ganolfan yn Aberdyfi.

鈥淗eddiw mae pobl ifanc sy鈥檔 dod yma yn rhedeg i lawr i鈥檙 traeth, yn cysylltu breichiau 芒鈥檌 gilydd mewn cylch, ac yn cerdded yn araf i mewn i鈥檙 d诺r hyd at eu canol.

鈥淢ae wedi dod yn draddodiad Outward Bound sy鈥檔 lot o hwyl.鈥

Ffynhonnell y llun, Outward Bound

Agoriad

Sefydlwyd canolfan Outward Bound Aberdyfi gan y dyn busnes Lawrence Holt, oedd wedi bod yn faer Lerpwl, ynghyd 芒鈥檙 arbenigwr addysg Almaenig Kurt Hahn, oedd wedi ffoi o鈥檙 Almaen ar 么l gwrthwynebu Hitler yn gyhoeddus.

Agorwyd y ganolfan yn 1941, fel mae Al Crisp, pennaeth y ganolfan, yn esbonio wrth Cymru Fyw: 鈥淩oedd Kurt Hahn, oedd hefyd wedi sefydlu ysgol Gordonstoun, wedi dod i Gymru cyn yr Ail Rhyfel Byd ac mi wnaeth bartneru gyda Lawrence Holt i hyfforddi morwyr oedd yn dod o ar draws y Deyrnas Unedig.

鈥淩oedd Lawrence wedi bod mewn llong ddwywaith oedd wedi cael ei daro gan torpido ac yn ystod y profiadau yma mi welodd e mai鈥檙 morwyr ifanc oedd y rhai oedd yn ildio gyntaf a鈥檙 morwyr h欧n oedd y rhai oedd yn goroesi.

鈥淩oedd e鈥檔 credu fod hynny am fod y morwyr h欧n wedi cael bach mwy o brofiad bywyd ac roedd ganddynt mwy i fyw amdano. Ac felly mi benderfynodd fod e eisiau ffeindio ffordd o roi cyfle i bobl ifanc i herio a datblygu eu hunain ac i roi eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd er mwyn dysgu sut i ymdopi.

鈥淎 dyma dechreuad y jog a鈥檙 dip 鈥 roedd yn dechneg i ddod a phobl at ei gilydd fel gr诺p i weithio drwy her. Ac mi oedd yn cael ei defnyddio fel techneg i beidio boddi er mwyn goroesi鈥檙 heriau oedden nhw鈥檔 wynebu yn y m么r.

鈥淩ydyn ni dal i ddilyn yr ethos yna yn Outward Bound er fod y byd yn wahanol iawn nawr.鈥

Ffynhonnell y llun, Al Crisp

Man geni

Felly mae pwysigrwydd Aberdyfi fel man geni jog a dip yn bwysig iawn, fel mae Al yn dweud, ac mae鈥檔 dweud fod tirwedd Cymru yn ddelfrydol ar gyfer y math yma o hyfforddiant: 鈥淢ae鈥檙 lleoliad o ran yr aber, y m么r a鈥檙 mynyddoedd 鈥 dyma鈥檙 math o amgylchedd oedden nhw eisiau defnyddio.鈥

Erbyn hyn mae rhyw 500 o bobl ifanc yn dod i鈥檙 ganolfan ar gyfer gwersylloedd haf dros y gwyliau ysgol.

Ac yn selar y ganolfan mae 鈥榥a drysorfa o filoedd o adroddiadau am y bobl sydd wedi bod yn dod i'r ganolfan yn Aberdyfi ers y 1940au.