´óÏó´«Ã½

Huw Edwards: 'Trasiedi i'r dioddefwyr, i'w hun, a'r ´óÏó´«Ã½'

Huw EdwardsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Huw Edwards yn gadael Llys Ynadon Westminster ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na feirniadaeth lem o Huw Edwards ar ôl i'r cyn-gyflwynydd gael dedfryd o chwe mis o garchar wedi'i ohirio.

Roedd wedi cyfaddef creu delweddau anweddus o blant.

Dywedodd prif weinidog y DU, Syr Keir Starmer, ei fod wedi "synnu a'n arswydo" gyda'r achos.

Mae NSPCC Cymru wedi rhybuddio bod achosion o gam-drin plant ar-lein ar gynnydd.

Mynnodd dirprwy gyfarwyddwr yr elusen, Carl Harris, y dylai troseddwyr fel Edwards fod yn gwbl glir ynglÅ·n ag effaith troseddau o'r fath ar ddioddefwyr ifanc.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carl Harris bod angen i Edwards ddeall effaith ei droseddau ar ddioddefwyr

Yn dilyn sylwadau bargyfreithiwr Huw Edwards yn y llys, bod nifer y delweddau anweddus o blant yn yr achos hwn - 41 - yn gymharol fach o'i gymharu â'r achosion sy'n dod gerbron llysoedd, dywedodd Carl Harris ei fod yn "frawychus" bod swm o'r fath yn cael ei ystyried yn fach bellach.

Yn eu datganiad nhw, dywedodd y ´óÏó´«Ã½ bod y gorfforaeth wedi'i "arswydo" gan droseddau Edwards, gan ddweud ei fod wedi "bradychu nid yn unig y ´óÏó´«Ã½, ond y cynulleidfaoedd oedd wedi ymddiried ynddo".

Ond mae'r ´óÏó´«Ã½ ei hun yn wynebu cwestiynau ynglÅ·n â'r modd bu'n delio a'r achos.

Cafodd rhai o uwch swyddogion y gorfforaeth wybod fis Tachwedd y llynedd bod Edwards wedi'i arestio, ac roedden nhw'n ymwybodol o natur ddifrifol y troseddau dan sylw.

Ond fe barhaodd Huw Edwards i dderbyn cyflog hyd nes iddo ymddiswyddo fis Ebrill eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ´óÏó´«Ã½ "bron yn ofni ymyrryd" oherwydd statws Huw Edwards, meddai Arwel Ellis Owen

Mae'r ´óÏó´«Ã½ wedi gofyn iddo ad-dalu £200,000, sy'n cyfateb i'w gyflog dros y 5 mis hwnnw

Ond mae 'na feirniadaeth nad oedd y ´óÏó´«Ã½ wedi ymateb yn gynt, meddai Arwel Ellis Owen - fu'n bennaeth yn y ´óÏó´«Ã½ yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.

"O’r dechrau mewn gwirionedd, oeddan nhw bron yn ofni ymyrryd oherwydd statws y cymeriad yma a’i gyfraniad i ddarlledu cyhoeddus dros y 40 mlynedd dwetha'," meddai.

"Yn wir, mae’r cyfarwyddwr cyffredinol wedi derbyn y dyla' bo' nhw wedi bod yn llawer cryfach eu hymateb o’r dechrau."

'Y ´óÏó´«Ã½ yn addoli'r sêr mawr'

Yn ôl Meirion Jones, cyn-gynhyrchydd ymchwiliadau ar raglenni Newsnight a Panorama, fe ddylai'r ´óÏó´«Ã½ fod wedi atal cyflog Edwards yn syth wedi iddo gael ei arestio ym mis Tachwedd y llynedd.

"Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn llawn pobl sy'n gwneud gwaith da iawn, a wir yn poeni am bethau fel hyn," meddai.

"Maen nhw wedi cael eu gadael i lawr gan reolwyr sydd bron yn addoli'r sêr mawr - sy'n cael get away efo beth bynnag maen nhw eisiau."

Disgrifiad o’r llun,

Fe weithiodd Meirion Jones i'r ´óÏó´«Ã½ rhwng 1988 a 2015, ac ef bellach ydy golygydd y Bureau of Investigative Journalism

Mewn datganiad dywedodd bwrdd y ´óÏó´«Ã½ nad oes unrhyw beth pwysicach nag ymddiriedaeth y cyhoedd ynddi, gan ddweud fod Edwards wedi "dwyn gwarth ar y gorfforaeth".

Ychwanegon nhw fod y tîm gweithredol wedi cytuno i edrych ar wersi o'r cyfnod, gan gynnwys ymdriniaeth y rheolau ynghylch taliadau pan fo gweithwyr wedi'u gwahardd, a bod y bwrdd yn cynnal adolygiad annibynnol i ddiwylliant yn y gweithle.

Dywedon nhw hefyd eu bod yn cefnogi'r penderfyniadau a wnaed ar Huw Edwards gan y cyfarwyddwr cyffredinol Tim Davie a'i dîm.

"Roedd y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys: rhwymedigaethau cyfreithiol a chytundebol y ´óÏó´«Ã½; y wybodaeth oedd gan y ´óÏó´«Ã½ ar y pryd; pryderon dyletswydd gofal; a'r atebolrwydd sydd gan y ´óÏó´«Ã½ am arian cyhoeddus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ´óÏó´«Ã½, meddai Karl Davies

Mae Karl Davies, fu'n ysgrifennydd ´óÏó´«Ã½ Cymru ac yn bennaeth llywodraethu ac atebolrwydd, yn dweud bod angen adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gorfforaeth.

Un ffordd o wneud hynny, meddai, yw cyhoeddi casgliadau ymchwiliad mewnol i ymddygiad Huw Edwards, a gafodd ei sefydlu yn dilyn honiadau ym mhapur newydd y Sun y llynedd, arweiniodd at ei atal o'i waith.

Dyw'r honiadau hynny ddim yn gysylltiedig â'r achos fu gerbron llys ddydd Llun.

"Dwi’n meddwl os ydyn ni i deimlo’n gysurus fod y ´óÏó´«Ã½ wedi delio efo hyn yn deg, 'da ni angen gwybod beth oedd canlyniad yr ymchwiliad hwnnw ag a oedd hwnnw’n fodd o rwystro’r hyn ddigwyddodd wedyn."

'Trasiedi'

Yn ôl Arwel Ellis Owen, fe all effaith yr achos hwn yn erbyn un o ddarlledwyr amlyca'r ´óÏó´«Ã½ fod yn bellgyrhaeddol.

"Mae hwn yn drasiedi bersonol i’r dioddefwyr.

"Mae o’n drasiedi fawr i Huw Edwards ei hun – does dim maddeuant a gobeithio’r nefoedd bydd o’n edrych am edifeirwch yn y dyddiau blin sydd o’i flaen o.

"Hefyd mae o’n drasiedi i’r ´óÏó´«Ã½ ei hun."