Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Neil Foden yn gwadu cysylltiad rhywiol gyda genethod
Mae pennaeth ysgol yng Ngwynedd, sydd wedi'i gyhuddo o gam-drin pum merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd, wedi gwadu ei fod wedi cael unrhyw gysylltiad rhywiol gyda'r rhai sydd wedi gwneud cwyn yn ei erbyn.
Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Mae'n gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud 芒 phum plentyn.
Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys 13 o gyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth dywedodd Neil Foden o Hen Golwyn mai'r unig gysylltiad corfforol rhyngddo fo a merch sy'n cael ei hadnabod fel Plentyn E oedd cofleidiad, braich o amgylch ei hysgwydd a dal ei llaw pan roedd hi'n ofidus.
Pan ofynnwyd iddo gan fargyfreithiwr yr amddiffyniad, Duncan Bould, a oedd wedi mynd "ymhellach na hynny" ac a fu unrhyw gysylltiad rhywiol dywedodd "naddo".
Ychwanegodd Mr Bould bod tystiolaeth Plentyn E yn cyfeirio at gael perthynas rywiol gyda Mr Foden.
"Dydy hynny ddim yn wir," meddai.
Yna cafodd Neil Foden ei holi am y troeon yr oedd hi wedi bod yn ei gar ar deithiau i ymweld 芒 ffrind.
Dywedodd ei fod wedi gwneud y daith gyda hi ddwywaith, ond fe wadodd ei fod wedi stopio yn ystod y daith er mwyn cynnal gweithrediadau rhywiol yn ei gar.
"Ddigwyddodd dim byd," meddai.
Dywedodd iddyn nhw fynd ar ffordd amgen unwaith er mwyn iddo fo wirio lleoliad taith yr oedd yn bwriadu ei cherdded ond nad oedd dim byd rhywiol wedi digwydd.
"Ches i erioed ryw gyda Plentyn E ac ni fyddai hynny yn bosib petawn i'n dymuno," meddai wrth iddo roi manylion i'r llys am ofnau o ganser y prostad a'i anallu rhywiol.
Yn ei ddagrau dywedodd Mr Foden wrth y rheithgor bod profion yn dangos marcwyr canser y prostad uchel ond yna canfuwyd nad oedd ganddo'r afiechyd er bod ei brostad yn llidus.
Cyfaddefodd eu bod wedi trafod gweithred rywiol anarferol a'i fod wedi dweud wrthi ei fod wedi gwneud hynny gyda phartner flynyddoedd yn 么l, ond nad oedd hynny wedi digwydd gyda Phlentyn E.
Gwadodd hefyd fod o a Phlentyn E wedi mynd i ffwrdd i aros i westai y tu allan i Wynedd.
"Roedd hi'n gwybod lle a pham roeddwn i'n mynd i ffwrdd," meddai ond gwadodd ei fod wedi gofyn iddi hi fynd ar y tripiau hynny.
Cafodd Mr Foden ei holi hefyd am yr anrhegion yr oedd Plentyn E wedi dweud iddi eu prynu iddo.
Cadarnhaodd ei bod hi wedi prynu crys p锚l-droed iddo unwaith fel anrheg hwyr.
"Dywedais ddylet ti ddim gwneud hynna. Fyddai i ddim yn cael dim i ti ar gyfer dy ben-blwydd."
Yn ddiweddarach dywedodd ei bod wedi prynu aftershave iddo.
Dywedodd ei bod wedi, ar un achlysur, rhoi 拢900 iddo mewn arian ar gyfer adnewyddu ei ystafell ymlochi.
"Dywedais na fedrwn ei dderbyn. Fe gawson ni ffrae amdano... fe adawodd o gyda mi."
Cyfaddefodd ei fod wedi defnyddio'r arian a'i fod yna wedi ceisio ei thalu'n 么l ond fe wrthododd hi gymryd yr arian.
Yna fe wnaeth Mr Bould holi Mr Foden am yr adeg pan wnaeth athro fynegi pryder ei fod yn cwrdd 芒 Phlentyn E ar ben ei hun.
"Roedd o'n credu fod yna risg y gallwn wynebu honiadau ffug," meddai.
Aeth ymlaen gan ddweud fod Garem Jackson, Cyfarwyddwr Addysg Gwynedd, ar y pryd, yna wedi ei ffonio gan ddweud wrtho i fod "yn ofalus" ond ei "fod yn fodlon nad oedd problem".
Doedd yna "ddim cyfarwyddyd" na "chanllaw", meddai.
Yna cafodd ei holi a oedd yna gysylltiad rhywiol wedi bod gyda merch arall yn ei harddegau sy'n cael ei hadnabod fel Plentyn A.
"Yn bendant ddim," atebodd gan roi yr un ateb i'r un cwestiwn am Blentyn D.
Yn gynharach eglurodd Neil Foden i'r llys ei fod wedi cael ei ddenu i ddysgu wedi i un o'i athrawon Saesneg ei ysbrydoli ac iddo gael ei swydd ddysgu gyntaf yn 1979.
Cafodd ei benodi yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor yn 1989 gan ddod yn bennaeth yn 1997.
Gan wisgo siwmper las tywyll, j卯ns tywyll ac esgidiau hyfforddi glas bu'n s么n am ei yrfa gynnar yn dysgu gan ateb y cwestiynau yn glir a hyderus.
Tra'r oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars ym Mangor dywedodd bod yr ysgol wedi ehangu ac yn ddiweddarach ei bod "yn cael ei hadnabod fel yr ysgol fwyaf llwyddiannus yng ngogledd Cymru".
Cyn i Mr Foden roi tystiolaeth clywodd y llys dystiolaeth gan arbenigwr technegol a fu'n archwilio ff么n symudol Mr Foden fel rhan o'r ymchwiliad i'r honiadau.
Dywedodd ei fod wedi dod o hyd i 17 llun a fideos o Blentyn A a bod rhai ohonyn nhw o natur rywiol.
Clywodd y llys bod y delweddau - 11 llun a chwe fideo - wedi'u cadw mewn ffolder ar ff么n Mr Foden lle roedd angen rhif PIN. Roedden nhw wedi cael eu dileu 45 munud cyn i Mr Foden gael ei arestio ar 6 Medi, 2023 ond yna wedi'u hadfer.
Mae'r achos yn parhau.
Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 大象传媒.