Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyn-gadeirydd 大象传媒 yn gwybod amgylchiadau arestio Edwards cyn ei ganmol
- Awdur, Gwyn Loader
- Swydd, Prif ohebydd Newyddion S4C
Roedd cyn-gadeirydd y 大象传媒 wedi cael ei briffio ar amgylchiadau arestio Huw Edwards cyn canmol y cyflwynydd yn gyhoeddus ar Radio Cymru.
Y Fonesig Elan Closs Stephens oedd cadeirydd dros dro'r gorfforaeth pan arestiwyd y cyflwynydd ym mis Tachwedd y llynedd.
Dydd Gwener diwethaf, fe gadarnhaodd ei bod yn ymwybodol i Edwards gael ei arestio pan gyfeiriodd ato fel "Huw druan" ar raglen Beti a'i Phobol recordiwyd ar 2 Gorffennaf eleni.
Dywedodd hefyd nad oedd hi'n ymwybodol o'r "manylion ofnadwy" a ddaeth i'r amlwg yn y llys a'i bod wedi ei "harswydo gan yr holl beth".
Roedd hi wedi gwrthod ateb a oedd hi'n ymwybodol o natur ymchwiliad yr heddlu.
Ond mewn datganiad byr i raglen Newyddion S4C, mae'r 大象传媒 wedi cadarnhau: "Cafodd y cadeirydd dros dro ei briffio ar arestio Mr Edwards gyda'r wybodaeth a roddwyd i'r 大象传媒 gan yr heddlu."
Mewn cyfweliad yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Tim Davie bod y gorfforaeth yn gwybod i'r cyflwynydd gael ei arestio dros y categori mwyaf difrifol o ddelweddau anweddus o blant.
Dywedodd: "Roedden ni'n gwybod bod e'n ddifrifol, doedden ni ddim yn gwybod unrhyw fanylion penodol, heblaw am gategori'r troseddau posibl."
Dywedodd nad oedd rheolwyr yn gwybod beth oedd oedran y plant yn y delweddau.
Fe amddiffynnodd y modd mae'r 大象传媒 wedi delio 芒'r mater, gan ddweud i'r heddlu ofyn iddyn nhw gadw'r manylion yn gyfrinachol a phwysleisio nad oedd Edwards wedi ei gyhuddo'n ffurfiol cyn ymddiswyddo o'i r么l gyda'r 大象传媒.
Yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher diwethaf, plediodd Edwards yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.
Cyfaddefodd bod ganddo 41 delwedd anghyfreithlon ar ei ff么n symudol, gyda saith o'r rheiny yn y categori mwyaf difrifol, a dwy o'r rheiny o blentyn rhwng rhyw saith a naw oed.
Does dim awgrym bod Elan Closs Stephens yn ymwybodol i Edwards gael ei gyhuddo'n ffurfiol gan yr heddlu pan oedd hi'n siarad ar Beti a'i Phobol.
Ar y rhaglen honno, fe gyfeiriodd at y cyflwynydd fel "Huw druan" wrth s么n am honiadau ym mhapur newydd The Sun yngl欧n 芒'i fywyd personol.
Roedd yr honiadau yna ar wah芒n i'r achos troseddol diweddar ac ni arweiniodd y rheiny at erlyniad.
Aeth ati wedyn i ganmol "cyfraniad enfawr" y cyflwynydd.
Mewn ymateb i gais am ymateb i ddatganiad y 大象传媒, dywedodd Elan Closs Stephens: "Fel y dywedais, roedd y manylion a ddaeth allan yn y llys yn frawychus ac yn sioc enfawr i mi fel i weddill pobl Cymru."