Herio'r penderfyniad i ryddhau llofrudd Lynette White

Disgrifiad o'r llun, "Mae鈥檔 teimlo fel bod rhywun wedi rhoi ei llaw yn fy stumog a鈥檌 rwygo," meddai John Actie

Mae dyn a gafodd ei gyhuddo ar gam o lofruddio Lynette White yng Nghaerdydd wedi dweud wrth y 大象传媒 ei fod wedi cyfarwyddo ei gyfreithwyr i apelio yn erbyn y penderfyniad i ryddhau鈥檙 llofrudd o鈥檙 carchar.

Daeth cadarnhad ddydd Iau y bydd Jeffrey Gafoor yn cael ei ryddhau ar bar么l wedi 21 mlynedd yn y carchar am lofruddio Ms White yn 1988.

Cafodd pum dyn eu cyhuddo ar gam o lofruddio Lynette White, gyda thri ohonyn nhw yn cael dedfryd o garchar, cyn cael eu rhyddhau ar ap锚l.

Fe gafodd Gafoor ei garcharu am oes gyda gorchymyn iddo dreulio o leiaf 13 mlynedd dan glo. Daeth y cyfnod yna i ben yn 2016.

Dywedodd y Bwrdd Par么l fod panel wedi ystyried 鈥測stod eang o dystiolaeth鈥 cyn dod i'r casgliad ei bod hi'n ddigon saff i ryddhau Gafoor.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn nociau Caerdydd

Ni fydd Gafoor yn cael ei ryddhau yn syth gan fod cyfnod o 21 diwrnod lle mae modd cyflwyno cais i'r bwrdd ailystyried y penderfyniad.

Pe bai cais o'r fath yn cael ei gyflwyno, bydd Gafoor yn parhau yn y ddalfa tan fod penderfyniad yn cael ei wneud yngl欧n 芒'r cais hwnnw.

Wrth siarad 芒'r 大象传媒 dywedodd John Actie yn gynharach, un o'r pum dyn gafodd eu cyhuddo ar gam, ei fod yn gobeithio apelio yn erbyn y penderfyniad i'w ryddhau.

鈥淒oes neb yn dweud dim byd wrthym ni, dy鈥檔 ni byth yn cael gwybod unrhywbeth fel dioddefwyr,鈥 meddai.

鈥淒wi ddim yn hapus o gwbl. Alla i ddim dychmygu sut mae teulu Lynette White yn mynd i deimlo am y peth.

鈥淢ae鈥檔 teimlo fel bod rhywun wedi rhoi ei law yn fy stumog a鈥檌 rwygo.鈥

'Mae'n rhaid bod rhywbeth wedi mynd o'i le'

Ychwanegodd Mr Actie: "Dwi'n gobeithio y gwnaiff rywun [cyfreithiwr] gysylltu 芒 mi a chawn weld beth allwn ni ei wneud".

"Efallai wnaiff teulu Lynette White apelio a gwneud rhywbeth am y sefyllfa hefyd. Nhw fyddai鈥檙 bobl orau i wneud hyn.

鈥淕obeithio y gallwn ei gadw yn y carchar am 鈥榗hydig yn hirach. Mae鈥檔 haeddu bod yn y carchar am dipyn hirach na鈥檙 hyn mae wedi bod o鈥檙 hyn dwi鈥檔 ei ddeall."

Aeth ymlaen i gwestiynu pam fod cais Jeffrey Gafoor am bar么l wedi cael ei dderbyn y tro hwn ar 么l cael ei wrthod sawl tro yn y gorffennol.

"Mae'n rhaid bod rhywbeth wedi mynd o'i le iddo gael ei wrthod gan bobl yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf," meddai.

Wrth s么n am y cyfnod a'r profiad ei hun, dywedodd: "mae wedi byw gyda mi am y 36 mlynedd ddiwethaf" gan ychwanegu "dyw e byth am fynd i ffwrdd. Mae'n iselder sy'n glynu atoch o hyd."

Dywedodd ei fod yn rhan o'r "camweinyddiad cyfiawnder mwyaf yn hanes Prydain, a dydyn nhw heb roi gwybod i ni [am ryddhau Gafoor]. Fe ffeindion ni allan wrth y 大象传媒 ddoe."

Ffynhonnell y llun, Media Wales

Disgrifiad o'r llun, Cyfaddefodd Gafoor iddo drywanu Ms White mewn ffrae dros 拢30

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Alun Michael, cyn-Aelod Seneddol Caerdydd a Phenarth a chyn-gomisiynydd yr heddlu fod y penderfyniad yma yn un "cymhleth iawn".

Roedd o'r farn y bydd na "deimladau cryf" ymhlith pobl leol am y penderfyniad oherwydd "y ffaith fod pobl leol wedi mynd i garchar gyda dim cysylltiad o gwbl gyda be wnaeth Jeffrey Gafoor".

"Mae bywydau y rhai oedd yn y carchar yn hollol ddieuog, mae eu bywydau nhw wedi cael eu taflu allan o drefn," meddai.

"Dwi'n meddwl fod o'n bwysig iawn i lais John Actie, a llais pobl arall yn y gymuned leol gael eu clywed, ac mae'r system ap锚l yn gwneud hynny'n bosib."

Mae Gafoor wedi鈥檌 gadw mewn carchar agored ers 2020 a chafodd ryddhad undydd ym mis Ionawr 2023.

Mewn cyfarfod yn gynharach yn y mis fe ddaeth Bwrdd Par么l i鈥檙 casgliad ei bod hi'n ddigon saff i ryddhau Gafoor.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd fod y penderfyniad ei wneud 鈥渨rth ganolbwyntio ar ba risgiau gall y carcharor wneud i鈥檙 cyhoedd os yw鈥檔 cael ei ryddhau ac os yw鈥檙 gymuned yn medru delio 芒'r risg yna".

Dywedon nhw fod 'na banel wedi ystyried 鈥測stod eang o dystiolaeth鈥 ac wedi clywed tystiolaeth gan bobl fel 鈥渟wyddogion y gwasanaeth prawf, seiciatryddion a seicolegwyr, swyddogion oedd yn goruchwylio鈥檙 troseddwr yn y carchar鈥 ac roedd modd i ddioddefwyr gyflwyno datganiad personol.

鈥淢ae鈥檔 drefn arferol fod y carcharor a鈥檙 tystion yn cael eu holi yn faith yn ystod y gwrandawiad - sy鈥檔 aml yn cymryd diwrnod cyfan neu fwy.

鈥淢ae'r Bwrdd Par么l yn adolygu ac yn gwneud penderfyniadau gyda gofal eithriadol. Gwarchod y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae'n meddyliau ni yn parhau gyda theulu a ffrindiau Lynette White, yn ogystal 芒'r dynion a gafodd eu cyhuddo ar gam o'r drosedd ofnadwy yma.

"Blaenoriaeth yr Arglwydd Ganghellor yw cadw'r cyhoedd yn ddiogel. Mae hi (Shabana Mahmood AS) wedi gofyn i swyddogion ystyried a ddylai'r Bwrdd Par么l ailystyried y penderfyniad."