'Talwch iawndal yn fuan i is-bostfeistri allu symud ymlaen'

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd Dewi Lewis ei garcharu ar gam yn 2011 ond ni chafodd yr euogfarn ei diddymu tan eleni
  • Awdur, Janet Ebenezer
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae cyn is-bostfeistr o Wynedd wedi apelio ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod iawndal yn cael ei dalu i'r holl is-bostfeistri gafodd eu heffeithio gan sgandal system gyfrifiadurol Horizon cyn gynted 芒 phosib.

Aeth Dewi Lewis i'r carchar am bedwar mis yn 2011 ar 么l cael ei gyhuddo ar gam o ddwyn dros 拢50,000 gan Swyddfa'r Post.

Bu'n rhaid aros tan fis Awst eleni cyn i'w euogfarn gael ei dileu.

Ddydd Mawrth bydd Mr Lewis yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Busnes T欧'r Cyffredin ac yn y cyfamser mae'n galw ar y llywodraeth i sicrhau bod y taliadau'n cael eu gwneud ar frys.

Dywed Llywodraeth y DU eu bod "yn gweithio'n ddiflino... i sicrhau iawndal llawn, teg a chyflym" i is-bostfeistri fel Mr Lewis.

Dywedodd Mr Lewis: "Ma' rhai teuluoedd dal yn dioddef a'r ap锚l ydy i'r llywodraeth r诺an 'neud yn si诺r bod nhw'n cael y taliadau allan i bawb mor fuan 芒 phosib er mwyn i bawb symud ymlaen efo'u bywydau mor fuan 芒 phosib.

"Ma' hynny'n ap锚l go iawn.

"Gobeithio y bydd 'na wersi mawr yn cael eu dysgu, ond ma' rhywun yn bryderus bod yr Ysgrifennydd Iechyd ishe digideiddio popeth a bod gwybodaeth meddygaeth pawb yn mynd i fod yn nwylo'r cyfrifiadur.

"Gobeithio na fyddan nhw'n 'neud yr run un camgymeriadau eto."

'Teuluoedd wedi dioddef yn enbyd'

Dywedodd Mr Lewis ei fod yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor yr wythnos ddiwethaf yn clustnodi 拢1.8bn ar gyfer y rhai sydd wedi'u heffeithio gan sgandal Swyddfa'r Post.

Ond ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y broses nawr yn symud yn gynt, ac y bydd 'na amserlen i dalu pawb cyn gynted 芒 phosib.

"Mae llawer iawn ohonyn nhw'n h欧n na fi ac ma' 'na deuluoedd wedi dioddef yn enbyd," meddai.

Mae Mr Lewis yn disgwyl iawndal ers mis Awst ac ar 么l "tipyn o gwyno gan gyfreithwyr ac aelodau seneddol" dywedodd bod y taliad cyntaf newydd grrraedd ei gyfrif banc.

Ychwanegodd ar raglen Dros Frecwast bod y swm mae e'n gobeithio ei derbyn "yn gymesur 芒 ryw 拢600,000" a'i fod wedi penderfynu "peidio cwffio am fwy er mwyn symud ymlaen gyda'i fywyd".

"Dwi isio tynnu llinell o dan yr holl beth. Gallai cwffio am fwy o bres gymryd dwy neu dair blynedd arall. Digon 'di digon.

"Dwi eisiau symud ymlaen gyda phethau fel datblygu economaidd, heddwch a chynaladwyedd er budd pobl eraill."

Disgrifiad o'r llun, Mae AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts yn cefnogi galwad Dewi Lewis am dalu'r iawndal mor fuan 芒 phosib

Yn 么l yr AS lleol, Liz Saville Roberts mae Mr Lewis "wedi dioddef gymaint - pam felly bod rhaid iddo fo frwydro i gael yr arian sy'n ddyledus iddo fo?"

"O un llywodraeth i鈥檙 llall, ar 么l cyllideb, dal yn gorfod brwydro.

"Mi ddyle fo fod yn glir ac yn syml i'r is-bostfeistri sy 'di dioddef: faint o arian mae nhw'n ei gael, yr hyn ma' nhw'n gorfod 'neud i gael o, a bod 'na ddim byd yn cael ei golli ar hyd y ffordd."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Cyn is-bostfeistri o flaen y Llys Ap锚l yn 2021 ar 么l i'w heuogfarnau gael eu dileu, gan gynnwys dau o Ynys M么n - Lorraine Williams a Noel Thomas

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU eu bod yn cydnabod "na fydd unrhyw faint o iawndal fyth yn ddigon" i is-bostfeistri "sydd wedi gorfod dioddef caledi neu hyd yn oed cyfnod mewn carchar, fel Mr Lewis".

Mae'r is-bostfeistri, meddai, "wedi aros yn rhy hir i dderbyn iawndal", ac mae'r llywodraeth "yn gweithio'n ddiflino... i sicrhau iawndal llawn, teg a chyflym" i is-bostfeistri fel Mr Lewis wedi diddymiad eu heuogfarnau.

Ychwanegodd bod 拢363m eisoes wedi ei dalu i dros 2,900 o hawlwyr trwy bedwar o gynlluniau iawndal gwahanol.