Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Disgwyl diweddariad am y Ffair Aeaf yn sgil feirws Tafod Glas
Mae prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi dweud ei fod yn "disgwyl diweddariad" gan d卯m milfeddygol Llywodraeth Cymru i weld a fydd y Ffair Aeaf yn cael ei chynnal eleni.
Cyhoeddodd trefnwyr Ffair Aeaf Lloegr fore Iau na fydd y ffair yn digwydd eleni oherwydd achosion o'r feirws Tafod Glas.
Dywedodd Aled Rhys Jones fod y "sefyllfa yng Nghymru i weld yn well na Lloegr ac mae Ffair Aeaf Cymru yn mynd ymlaen fel arfer" ddiwedd mis Tachwedd.
Mae achosion o'r feirws wedi ei ganfod mewn anifeiliaid yn y gogledd orllewin yn ddiweddar.
Dyma oedd y tro cyntaf i fath 3 o'r Tafod Glas gael ei ddarganfod yng Nghymru.
Mae'r feirws yn cael ei ledaenu gan rai mathau o wybed sy'n brathu, ac yn effeithio ar anifeiliaid fel gwartheg, geifr, defaid, ceirw, alpacas a lamas.
Nid yw鈥檔 effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.
'Monitro鈥檙 sefyllfa鈥檔 agos iawn'
Dywedodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru mewn datganiad fod paratoadau ar gyfer y Ffair Aeaf yn parhau, ond eu bod yn cadw llygaid ar y datblygiadau diweddaraf.
"Roeddem yn drist o glywed bod Ffair Aeaf Lloegr wedi鈥檌 chanslo oherwydd sefyllfa barhaus y Tafod Glas ac ni allwn ond cydymdeimlo 芒 threfnwyr y digwyddiad a鈥檙 holl arddangoswyr dan sylw.
"Ar hyn o bryd, nid oes parthau cyfyngol ar waith yng Nghymru ac mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn mynd ymlaen fel y cynlluniwyd.
"Rydym, wrth gwrs, yn monitro鈥檙 sefyllfa鈥檔 agos iawn ac yn cymryd cyngor gan ein milfeddygon proffesiynol.
"Wrth i ni ddechrau ar gamau olaf y paratoi at ein digwyddiad, byddwn yn ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb."