Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dim digon o drenau ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr'
- Awdur, David Grundy
- Swydd, Gohebydd Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae paratoadau Trafnidiaeth Cymru ar gyfer digwyddiadau mawr yn "annigonol" ac mae teithwyr yn "cael eu siomi gan wasanaeth is-safonol", yn 么l gr诺p o Aelodau o'r Senedd.
Mae angen gwelliannau ar gyfer digwyddiadau mawr fel cyngerdd Bruce Springsteen yn Stadiwm Principality ddydd Sul, yn 么l y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Gyda s锚r fel Taylor Swift a'r Foo Fighters yn perfformio yn y stadiwm a Manic Street Preachers yng Nghastell Caerdydd yr haf hwn, maen nhw'n galw am baratoi gwell.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod yn "ystyried yr argymhellion" ac y byddan nhw yn "ymateb yn ffurfiol maes o law."
Mae'r adroddiad yn dweud nad oes digon o drenau'n gadael y brifddinas gyda'r hwyr ar 么l i'r cyngherddau ddod i ben.
Roedd yna feirniadaeth am y gwasanaeth ar ddiwrnodau gemau p锚l-droed Cymru pan oedd y tr锚n olaf yn aml yn gadael ychydig funudau ar 么l y chwibaniad olaf.
Yn sgil hyn, trefnodd Trafnidiaeth Cymru drenau hwyr ar gyfer y gemau ail-gyfle yn erbyn y Ffindir a Gwlad Pwyl.
"Mae hynny'n arwydd o be ellid ei gyflawni," meddai cadeirydd y pwyllgor, Llyr Gruffydd AS, gan ychwanegu: "Mae 'na ormod o bobl yn cael eu gadael i lawr."
Dywed y pwyllgor bod angen i Drafnidiaeth Cymru drafod yn well gyda Network Rail yngl欧n ag ail-drefnu gwaith peirianyddol pan mae yna gyngherddau neu gemau mawr.
Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar Drafnidiaeth Cymru i dalu am dacsis i deithwyr os bydd eu trenau'n cael eu canslo a bod dim gwasanaeth bws wedi'i drefnu yn lle hynny.
Rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2023, gan orsafoedd yng Nghymru oedd y gyfradd uchaf o wasanaethau wedi eu canslo ym Mhrydain.
Trafnidiaeth Cymru oedd ar waelod y rhestr mewn arolwg o ran bodlonrwydd defnyddwyr rheilffyrdd gan Transport Focus, sy'n cynrychioli teithwyr.
"Mae teithwyr wedi croesawu trenau newydd sy'n cynyddu capasiti ac yn dechrau cael effaith ar faint o drenau sy'n cael eu canslo," meddai David Beer o Transport Focus.
"Mae'r adferiad yma yn dechrau dangos yn ein gwaith ymchwil ni."
Fe fydd amserlenni newydd yn cael eu cyflwyno ar draws rhwydwaith Metro De Cymru o 2 Mehefin.