Llenyddiaeth yn bwysig 'tu hwnt i鈥檙 'stafell ddosbarth'

Disgrifiad o'r llun, Mae gweithdai'r Sgriblwyr Cymraeg yn teithio鈥檙 wlad ar hyn o bryd
  • Awdur, Dafydd Morgan
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae鈥檔 bwysig dangos bod modd defnyddio "llenyddiaeth fel adloniant" ac nad yw鈥檙 Gymraeg ond yn "rhywbeth chi鈥檔 dysgu ar gyfer arholiadau", yn 么l Bardd Plant Cymru.

Fe ddaw sylwadau Nia Morais wrth i weithdai Y Sgriblwyr Cymraeg, sydd wedi'u trefnu gan 糯yl y Gelli, deithio鈥檙 wlad.

Bwriad y cynllun, sydd wedi ei ariannu鈥檔 rhannol gan Lywodraeth Cymru, yw ysbrydoli ac annog cenhedlaeth newydd i adrodd straeon ac ysgrifennu鈥檔 greadigol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth bu dros 200 o blant o wahanol ysgolion yn cwrdd i gymryd rhan yn y gweithdy.

Mae鈥檔 gynllun ar gyfer plant blwyddyn 7 i 9 sy鈥檔 cael ei gynnal ym mhrifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Wrecsam.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Nia Morais ei bod eisiau dangos i blant "bod nhw鈥檔 gallu joio llenyddiaeth"

"Dwi鈥檔 teimlo bod lot o blant dyddiau yma yn swil o gwmpas llenyddiaeth achos maen nhw鈥檔 credu bod e jest yn rhywbeth chi鈥檔 dysgu ar gyfer arholiadau," medd Nia Morais.

"Wedyn chi鈥檔 gadael e ar ddiwedd y dydd ac yn mynd 'n么l adre a dydych chi ddim rili yn defnyddio llenyddiaeth fel adloniant.

"Felly dwi eisiau dangos bod nhw鈥檔 gallu joio llenyddiaeth, ond hefyd bod nhw鈥檔 gallu ysgrifennu eu hunain a bod nhw鈥檔 gallu defnyddio'u dychymyg eu hunain i greu bydoedd newydd."

Disgrifiad o'r llun, "Ma' disgyblion yn aml yn s么n bod dim cyfleon gyda nhw i ddefnyddio鈥檙 iaith," yn 么l Aneirin Karadog

Y bardd a'r perfformiwr Aneirin Karadog yw cyflwynydd y daith.

Mae e鈥檔 gweld taith Sgriblwyr Cymraeg fel llwyfan i roi cyfle i bobl ifanc, yn enwedig wrth geisio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae鈥檔 hollbwysig, dwi鈥檔 meddwl, i ni roi cyfleon i ddisgyblion, achos ma' disgyblion yn aml yn s么n bod dim cyfleon gyda nhw i ddefnyddio鈥檙 iaith.

"Dyma gyfle iddyn nhw weld bob 鈥榥a bobl yn 'neud bywoliaeth yn defnyddio鈥檙 iaith mewn ffordd greadigol, ac mae鈥檔 gyfle gwych felly i, gobeithio, allu dylanwadu ar ddisgyblion mewn ffordd gadarnhaol."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Casi Wyn ei bod yn bwysig fod plant yn teimlo'r gallu i "berchnogi" yr iaith

Ymhlith y rhai sy鈥檔 cynnal sesiynau mae鈥檙 gantores ar awdures Casi Wyn.

Wedi dwy flynedd fel Bardd Plant Cymru rhwng 2021 a 2023 mae hi鈥檔 hen gyfarwydd 芒 dal dychymyg pobl ifanc ym maes llenyddiaeth a ch芒n.

"Mae鈥檔 andros o bwysig bod gan blant gyswllt tu hwnt i鈥檙 'stafell ddosbarth hefo鈥檙 Gymraeg yn enwedig," meddai.

"Ei hiaith nhw ydy hi, ac mae鈥檔 bwysig bod nhw鈥檔 gallu ei pherchnogi hi ym mha bynnag fodd y maen nhw鈥檔 dymuno gwneud hynny.

"Mae鈥檔 andros o bwysig bod 鈥榥a deimlad o ryddid o fewn cymunedau lle mae鈥檙 Gymraeg yn amlwg neu鈥檔 lled amlwg, achos bod hi鈥檔 iaith sy鈥檔 gallu bod yn gallu bod yn gymharol frau yn ei phresenoldeb mewn ambell gymuned.

"Mae鈥檔 bwysig bod pobl ifanc yn gallu mwynhau鈥檙 amryw o fersiynau sy鈥檔 bodoli ohoni hi."