Athro chwaraeon yn euog o ymosod ar ddisgybl 16 oed ar noson allan

Disgrifiad o'r llun, Llyr James yn gadael y llys ddydd Mawrth wedi ei euogfarn

Mae athro chwaraeon wedi'i ganfod yn euog o ymosod ar ddisgybl ysgol ar noson allan yn Sir G芒r.

Roedd Llyr James, 31, wedi ei gyhuddo o ymosod ar Ll欧r Davies, 16, yng Nghastellnewydd Emlyn ar 9 Mawrth eleni.

Bu farw'r bachgen dridiau wedi'r digwyddiad, ond fe glywodd yr achos llys nad oedd cysylltiad rhwng yr ymosodiad a'r farwolaeth.

Roedd James, fu'n dysgu yn Ysgol Bro Teifi, wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Mynnodd ei fod yn 鈥渃hwarae dwli鈥 pan afaelodd yn y bachgen ar noson y digwyddiad, a bod ganddo berthynas 鈥渃hwareus鈥 gyda Ll欧r Davies.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Ll欧r Davies dridiau wedi'r ymosodiad, mewn digwyddiad ar wah芒n

Wrth roi tystiolaeth yn Llys Ynadon Llanelli yn gynharach ddydd Mawrth, dywedodd James bod Ll欧r Davies yn un 鈥渙 gymeriadau hoffus iawn鈥 Ysgol Bro Teifi a'i fod yn ei adnabod ers iddo ddechrau fel disgybl ym mlwyddyn 7.

Yn 么l James Ashton, ar ran yr erlyniad, roedd James wedi llusgo'r bachgen i ali ac ymosod arno.

Daeth yr ynadon i'r casgliad ddydd Mawrth fod James yn euog ac fe gafodd yr achos ei ohirio tan 25 Hydref ar gyfer adroddiadau cyn dedfrydu.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion nad yw Llyr James bellach yn cael ei gyflogi gan Ysgol Bro Teifi.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr erlyniad fod Llyr James fod y wedi llusgo Ll欧r Davies i'r ali yma ac ymosod arno

Fe welodd y llys luniau CCTV o'r digwyddiad.

Penderfynodd yr ynadon fod y fideo hwnnw yn dangos fod y digwyddiad yn "ymosodiad direswm", a achosodd anaf i law Ll欧r Davies.

Dywedon nhw fod y fideo yn "dangos yr hyn ddigwyddodd... yn ei gyfanrwydd", a'i fod yn "allweddol" yn y penderfyniad i ganfod James yn euog.

Cafodd James ei weld ar y fideo yn "rhedeg ar gyflymder tuag at Ll欧r Davies" cyn iddo "ei orfodi i ali".

Fe wnaethon nhw ymddangos rhyw 10 eiliad yn ddiweddarach "gyda'r diffynnydd yn dal i afael yn Ll欧r Davies".

Dywedodd yr ynadon hefyd fod tystiolaeth fod Ll欧r Davies wedi anafu ei law yn y digwyddiad.

"Roedd gweithredoedd y diffynnydd... yn unochrog, a doedd dim gweithred gan Ll欧r Davies," meddai'r ynadon.

"Nid chwarae oedd hyn - roedd yn ymosodiad direswm."