Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Efydd i dair Cymraes ar y trac seiclo ym Mharis
Mae tair Cymraes wedi ennill medal efydd i Brydain yn y Gemau Olympaidd ar y trac seiclo nos Fercher.
Fe wnaeth Elinor Barker, Anna Morris a Jess Roberts - ynghyd 芒 Josie Knight - drechu'r Eidal er mwyn sicrhau'r trydydd safle yn y ras cwrso t卯m.
Yr Unol Daleithiau enillodd aur, tra mai Seland Newydd sicrhaodd yr arian.
Roedd Barker eisoes wedi ennill aur yng ngemau Rio 2016 ac arian yn Tokyo, tra mai dyma'r Gemau Olympaidd cyntaf i Morris a Roberts.
Fe wnaeth Emma Finucane o Gaerfyrddin ennill aur i Brydain ddydd Llun yn y ras wib i dimau.
Bydd hi'n ceisio sicrhau medal arall ddydd Iau, a hynny yng nghystadleuaeth y Keirin.