Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Chwaraewr Fiji yn pledio'n euog i ymosodiadau rhyw
Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol Fiji wedi pledio'n euog i ymosodiadau rhyw, yn dilyn digwyddiadau'n ymwneud 芒 thair menyw yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth Api Ratuniyarawa, 37, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun wedi ei gyhuddo o ymosod drwy dreiddiad, ac o ymosodiad rhyw.
Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud ag ymosodiadau yn erbyn tair dynes ym mar Revolution yng nghanol y ddinas rhwng 31 Hydref a 1 Tachwedd.
Roedd Ratuniyarawa wedi ei enwi yng ngharfan y Barbariaid i herio Cymru ar 4 Tachwedd yng Nghaerdydd.
Clywodd y llys y bu Ratuniyarawa yn chwarae i Wyddelod Llundain cyn i'r clwb fynd i'r wal, ac nad oes ganddo glwb ar y funud.
Fe dderbyniodd y barnwr Tracey Lloyd Clarke ei gais am fechn茂aeth, gan osod sawl amod.
Bydd gan Ratuniyarawa gyrffyw rhwng 19:00 a 07:00 pob dydd, ac mae'n rhaid iddo fynychu gorsaf heddlu Northampton yn ddyddiol.
Nid yw chwaith yn cael dod i Gymru oni bai am ar gyfer ei ddedfrydu ar 9 Ionawr.