Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
GISDA yn 40: 'Anodd ymdopi â'r galw am gymorth'
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
Wrth i elusen sy'n helpu pobl ifanc digartref yn y gogledd droi'n 40, maen nhw'n dweud eu bod yn cael trafferth ymdopi â’r galw am gymorth.
Mae elusen GISDA yn symud i swyddfeydd newydd yng Nghaernarfon, ond mae staff yn poeni am restrau aros hir ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Reece Moss, 20, symud i hostel GISDA ym mis Tachwedd 2022.
Ym mis Rhagfyr y llynedd symudodd i fewn i fflat ei hun, ond mae'n poeni bod pobl ifanc eraill yn ei chael hi'n anodd cael lle.
“Ar y funud mae cael lle cyngor yng Nghaernarfon yn anodd oherwydd mae 'na fwy o bobl yn cael eu geni bob dydd. Mae pobl angen tai.
"Ti hefyd yn gweld pobl yn gwerthu eu tai fel holiday homes ac mae hynny yn 'neud o yn really anodd i bobl sydd angen tai ac yn trio cael tÅ·.
&±ç³Ü´Ç³Ù;²Ñ²¹±ð’r waiting list yn really hir ac os na ti mewn dire situation 'nan nhw ddim ystyried ti am fflat."
Dywed Cyngor Gwynedd eu bod yn blaenoriaethu ymateb i’r argyfwng costau byw a threchu tlodi.
Person ifanc arall sy'n cael cefnogaeth gan GISDA yw Vex Ellis Vaughan.
Buodd Vex yn disgwyl am chwe mis i gael lle yn hostel GISDA.
Dywed fod symud i’r hostel wedi rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau byw yn annibynnol.
Ar ôl dwy flynedd a hanner yn yr hostel mae Vex nawr wedi cael fflat ac yn aros i symud i mewn.
“O'dd hi'n chwe mis i fi allu cael lle a fuasai 'na bobl mewn sefyllfa lle o' nhw angen o mwy na fi a maen nhw dal yn gorfod aros.
"Dyna’r peth, mae popeth yn limited ond dylse fod endless supply support a llefydd."
Mae Sian Elen Tomos, Prif Weithredwr GISDA, yn dweud bod cyrraedd y 40 yn garreg filltir bwysig i’r elusen ond “dydy o ddim yn rhywbeth i ddathlu ein bod ni dal yn rhoi gwasanaethau i bobl ifanc sy yn ddigartre’ ar ôl yr holl flynyddoedd yna".
Mae'r elusen yn cynnig amrywiaeth eang o brosiectau ond y prif fwriad yw helpu gyda llety a chefnogaeth - gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd, Cymdeithas dai Adra a Grŵp Cynefin.
Ond, mae'r angen am help yn cynyddu, ychwanega Sian Elen Tomos.
“Mae ein rhestrau aros ni yn uchel erbyn hyn.
&±ç³Ü´Ç³Ù;²Ñ²¹±ð’r angen yn ofnadwy o uchel ond beth sy'n waeth yw bod y gyfradd ma' pobl ifanc yn symud yn eu blaen wedi arafu'n ofnadwy yn y ddwy i dair blynedd ddiwethaf.
"Y rheswm am hynny yw bod yna lai o dai ar gael ac felly mae’r bobl ifanc sydd efo ni mewn hosteli ar hyn o bryd yn debygol o fod yn barod i symud mlaen ond 'dyn nhw methu achos does 'na unlle i fynd.
"Mae fel petai'r conveyor belt wedi arafu ac mae nawr yn gridlock."
Beth yw'r sefyllfa yn lleol?
Yn ôl ffigyrau diweddar, mae 1 o bob 10 o weithwyr Arfon yn ennill llai na'r cyflog byw gwirioneddol.
Yn 2021/22, roedd 489 o aelwydydd Arfon wedi gofyn am help drwy system ddigartrefedd Gwynedd.
Rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, fe wnaeth 885 o bobl gyflwyno ei hunain yn ddigartref yng Ngwynedd.
Mae delio â’r sefyllfa o ddydd i ddydd yn anodd yn ôl Llinos Angharad Owen, cadeirydd bwrdd rheoli GISDA.
“Dwi meddwl mai rhwystredigaeth ydi’r gair. Mae 'na gymaint o broblemau tai yma yng Ngwynedd ond mae yn ehangach na hynny.
"Mae 'na broblem diweithdra yma hefyd... mae angen incwm a gwaith â sgiliau sy'n cael eu datblygu fel bod y bobl ifanc wedyn yn symud 'mlaen.
"Mae nhw'n cael y sgiliau gan Gisda. 'Da ni angen wedyn ehangu ar y sgiliau yma fel bod y bobl ifanc yn cael swyddi lle mae yna incwm da yn dod i mewn fel bod nhw wedyn yn gallu fforddio rhentu neu brynu fflat a ma' hynna dwi meddwl yn broblem yn ei hun."
Ar hyn o bryd mae Lyndsey Thomas, Pennaeth Gwasanaethau GISDA yn dweud ei bod hi fel petai'r system ar stop a phobl ifanc yn ei chael hi yn hynod anodd i gael llefydd mewn fflatiau a hosteli.
“Mae gennym ni hosteli ac wedyn fflatiau i symud ymlaen. Beth sy'n digwydd fel arfer yw mae rhywun yn dod mewn i’r hostel i gychwyn a dysgu sgiliau byw yn annibynnol.
"Maen nhw fel arfer yn ifanc yn dod mewn i’r hostel - tua 16, 17 mlwydd oed - a’r syniad yw bod nhw'n dysgu'r sgiliau ac yn symud mewn i fflatiau.
"Maen nhw dal i gael cefnogaeth yn y fflatiau i helpu ychydig bach ac yna'n y diwedd symud i lety eu hunain gydag asiantaethau tai neu efo landlordiaid preifat neu awdurdodau lleol.
"Y broblem yw fod y tai yna mor brin a’r rhestrau aros mor fawr fel bod hi'n anodd iawn i bobl ifanc gael lle.
"Mae hynna'n golygu bod bloc yn y system. Mae’r bobl ifanc sydd yn yr hosteli yn disgwyl i’r bobl ifanc yn y fflatiau symud ond mae nhw'n stuck a wedyn ma’r holl system yn dod i stop sydd yn golygu bod y bobl ifanc digartref yn methu cael lle mewn hosteli."
'Sir ofalgar'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae Cyngor Gwynedd wedi blaenoriaethu ymateb i’r argyfwng costau byw a threchu tlodi yn ei gynllun corfforaethol ar gyfer 2023-28.
"Mae Rhaglen Cefnogi Llesiant Pobl yn ymateb i’r flaenoriaeth honno yn rhan o becyn i sicrhau bod Gwynedd yn sir ofalgar."