Plaid Cymru: Angen cyllid teg i Gymru cyn cefnogi cyllideb Llafur

Ffynhonnell y llun, PA

  • Awdur, Cemlyn Davies
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru sicrhau cyllid teg i Gymru - gan gynnwys arian o ganlyniad i reilffordd HS2 - cyn y bydd Plaid Cymru'n ystyried cefnogi ei chyllideb, yn 么l arweinydd y blaid.

Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd wedi clywed unrhyw awgrym bod hynny ar fin digwydd.

Heb fwyafrif yn Senedd Cymru, bydd angen i Lywodraeth Cymru ddod i gytundeb gydag o leiaf un o'r gwrthbleidiau er mwyn pasio'i chyllideb.

Daeth sylwadau Rhun ap Iorwerth ar ail ddiwrnod cynhadledd ei blaid yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o'r llun, Bu Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan yn cyfarfod 芒 Keir Starmer yng Nghaeredin

Mae'r ffrae dros arian i Gymru'n sgil HS2 yn un gyfarwydd, gyda phob plaid yn Senedd Cymru'n dadlau bod Cymru ar ei cholled.

Yn dilyn cyfarfod gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig yng Nghaeredin ddydd Gwener dywedodd Prif Weinidog, Eluned Morgan ei bod hi wedi dadlau'r achos eto dros gael arian o'r Trysorlys yn San Steffan ond nad oedd hi'n disgwyl cyhoeddiad ar hynny gan y Canghellor yn ei chyllideb ddiwedd y mis.

"Mae angen mwy o amser ar gyfer hynny," meddai Ms Morgan.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Fydd trenau HS2 ddim yn dod i Gymru

Mae cynllun HS2 wedi ei glustnodi fel prosiect ar gyfer Cymru a Lloegr sy'n golygu nad oes rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi ceiniog i Lywodraeth Cymru.

Ond gan nad oes modfedd o'r rheilffordd i gael ei hadeiladu yng Nghymru, mae'r pleidiau yn Senedd Cymru yn dweud nad yw hynny'n deg.

Yn y gorffennol mae gweinidogion Cymru wedi dweud y dylai Cymru gael 拢4bn.

Ond erbyn hyn mae Llywodraeth Cymru o鈥檙 farn taw 拢350m yw'r swm sy'n ddyledus i Gymru o ganlyniad i HS2.

O ganlyniad mae Rhun ap Iorwerth yn cyhuddo Eluned Morgan o beidio a brwydro dros ddigon o arian.

"Wedi methu Cymru mae Llywodraeth Cymru drwy stopio mynnu yr hyn sy'n gyfiawn ar gyfer Cymru," meddai.

Boicot ar Israel

Yn y gynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn hefyd, fe gefnogodd aelodau Plaid Cymru o blaid cynnig am foicot diwylliannol ac economaidd ar Israel yn sgil y rhyfel yn Gaza.

Bu'r prif lysgennad Palesteinaidd yn y Deynas Unedig, Husam Zomlot, yn siarad yn y gynhadledd hefyd, gan alw ar Gymru i roi pwysau ar Lywodraeth y DU.

Dywedodd bod yn rhaid "gorfodi" Israel i gadw at gyfreithiau rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

Disgrifiad o'r llun, Husam Zomlot ydi'r prif lysgennad Palesteinaidd yn y Deynas Unedig

Galwodd Husam Zomlot ar wledydd eraill i roi'r gorau i werthu arfau i Israel gan ddweud bod y wlad yn gyfrifol am "hil-laddiad".

Dywedodd: "Mae'n dorcalonnus mai marwolaeth yn Gaza ydi'r opsiwn gorau erbyn hyn, yr opsiwn hawsaf."

Cafodd tua 1,200 o bobl - y mwyafrif yn ddinasyddion Israel - eu lladd yn ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref 2023.

Ers hynny, mae tua 42,000 o bobl wedi cael eu lladd wrth i Israel ymateb i'r sefyllfa yn Gaza, yn 么l Hamas.

Mae'r Palesteiniaid wedi cyhuddo Israel o hil-laddiad yn Gaza ond mae'r wlad yn gwrthod hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dynes a phlentyn yng nghanol adeiladau wedi eu dinistrio yn Gaza

Mae'r cynnig gan aelodau'r blaid yng Ngheredigion, sydd wedi cael s锚l bendith aelodau'r blaid yn beirniadu "yn y termau cryfaf posib... llofruddiaeth degau ar filoedd o Balesteiniaid, gan gynnwys dros 10,000 o blant gan Israel".

Mae hefyd yn beirniadu "ymddygiad treisgar Hamas yn erbyn pobl ddiniwed yn Israel."

Mae'r cynnig yn dweud y dylai "Llywodraeth y DG wahardd llysgennad Israel hyd nes y bydd Llywodraeth Israel yn rhoi terfyn ar apartheid a鈥檜 gweithredoedd anghyfreithlon", gwahardd gwerthiant arfau i wladwriaeth Israel a chefnogi "boicot economaidd a diwylliannol".

Byddai hynny'n golygu y byddai timau chwaraeon cenedlaethol Cymru yn boicotio'r wlad.

Disgrifiad o'r llun, Mae arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth wedi gwrthod dweud a ydi o'n cefnogi'r cynnig

Dywedodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake, wrth y gynhadledd: "Ddylen ni ddim cynnig unrhyw gymorth i wledydd sy'n torri rheolau Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a dyfarniadau'r Llys Troseddau Rhyngwladol.

"Rydyn ni angen setliad gwleidyddol a dylai hynny gynnwys cydnabyddiaeth o Balesteina fel gwladwriaeth."

Mewn cyfweliad gyda'r 大象传媒, awgrymodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod gwahaniaeth barn ar y mater, gan wrthod cadarnhau a yw'n bersonol yn cefnogi'r boicot.

"Bydd gan unigolion deimladau gwahanol ar faterion fel boicotiau," dywedodd.

"Roedd yr ymosodiadau yna flwyddyn yn 么l yn warthus, ac rydym yn eu condemio nhw. Rydyn ni angen gweld y gwystlon yn cael eu rhyddhau."