Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tata'n gwrthod cynllun cadw ffwrnais ym Mhort Talbot
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd Busnes 大象传媒 Cymru
Bydd Tata Steel yn bwrw ymlaen gyda'u cynlluniau i gael gwared 芒鈥檙 ffwrneisi chwyth ar eu safle ym Mhort Talbot erbyn mis Medi.
Mae'r cwmni wedi gwrthod cynllun amgen yr undebau i gadw un ffwrnais i fynd yno wrth drosglwyddo i ddulliau glanach o gynhyrchu dur ar y safle.
Doedd y cynnig hwnnw, yn 么l rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, TV Narendran, ddim "yn gynaliadwy yn ariannol nac yn weithredol", ac fe ddywedodd wrth yr undebau ddydd Iau bod "y rhan yma o'r sgwrs ar ben".
Mae angen nawr, meddai, i'r undebau siarad eto gyda'u haelodau, a bydd y cwmni'n treulio'r wythnosau nesaf yn trafod y ffordd ymlaen ac "uchelgeisiau'r busnes".
"Byddwn ni'n cynnig diswyddiadau gwirfoddol ar gyfer gweddill y cwmni ar 15 Mai," ychwanegodd, gan ddisgrifio'r cynnig hwnnw fel un "hael".
"Rydym eisiau bod mor deg 芒 phosib i ein holl weithwyr sydd wedi eu heffeithio."
Dywedodd hefyd y bydd yna "gryn weithgaredd economaidd" ar y safle dros y blynyddoedd nesaf yn sgil codi ffwrnais arc drydanol newydd.
Y disgwyl oedd y byddai'r cwmni'n dod 芒'u cyfnod ymgynghori i ben a bwrw ymlaen 芒'u cynlluniau gwreiddiol ailstrwythuro'r safle wrth i gynrychiolwyr gyfarfod 芒 swyddogion undeb yn Llundain ddydd Iau.
Mae'r cwmni eisiau cael gwared 芒鈥檙 ffwrneisi chwyth yn ne Cymru, gan adeiladu ffwrnais trydan gwerth 拢1.25bn er mwyn troi at ddulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu dur.
Mewn datganiad i'r 大象传媒 cyn y cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran Tata: "Ein cynllun ni ar gyfer ffwrnais arc drydan newydd sbon ym Mhort Talbot, sydd werth 拢1.25bn, fyddai'r buddsoddiad mwyaf yn y diwydiant dur yn y wlad hon ers degawdau a byddai'n diogelu dyfodol cynhyrchu dur y DU."
Dywedodd Matthew Hill, trefnydd gydag undeb Unite, fod gweithwyr yn "ofidus ac yn grac" gyda phenderfyniad Tata i fwrw ymlaen 芒'r cynlluniau.
"Mae yna gwestiynau sydd dal heb eu hateb a dwi'n meddwl bod pobl eisiau gwybod mwy," meddai.
鈥淢ae eu dyfodol yn dal yn ansicr iawn - dyna pam y gwnaethon nhw bleidleisio dros weithredu diwydiannol.鈥
Dywedodd Mr Hill eu bod yn gobeithio streicio tua diwedd mis Mai.
Wrth ymateb i fygythiad Tata i dynnu pecynnau diswyddo "uwch" yn 么l os bydd gweithwyr yn streicio, dywedodd nad oedd aelodau "am gael eu bwlio" gan y cwmni.
Yn 么l undebau, mae disgwyl i gwmni Tata gau Ffwrnais chwyth 5 erbyn mis Mehefin a rhoi'r gorau i gynhyrchu dur yn Ffwrnais chwyth 4 ym mis Medi.
Roedd yr undebau'n ceisio cadw ffwrnais 4 yn agored, gan ddadlau y byddai hynny'n rhan bwysig o'r gwaith o droi'r safle ym Mhort Talbot yn fwy gwyrdd.
Fe wnaeth y Bwrdd Trawsnewid - sy'n cadw golwg ar y gwaith o gefnogi gweithwyr - gyfarfod ym Mhort Talbot brynhawn Iau wrth aros am ganlyniad y trafodaethau yn Llundain.
Mae Tata am drawsnewid y ffordd maen nhw'n cynhyrchu dur yn Ne Cymru wrth iddyn nhw geisio ymateb i golledion ariannol a defnyddio dulliau mwy gwyrdd.
Ond mae undebau'n galw ar y cwmni i beidio diswyddo gweithwyr ac maen nhw eisioes wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.
Dywedodd cwmni dur Tata ar y pryd eu bod wedi cyflwyno pecyn cymorth 鈥渃ynhwysfawr鈥 i鈥檙 staff ac wedi bygwth y byddai pecynnau diswyddo gwell yn cael eu tynnu'n 么l pe bai streicio.
Yn y cyfamser, mae aelodau undeb Community a undeb y GMB wedi agor pleidlais i aelodau, fydd yn penderfynu a fyddan nhw'n gweithredu鈥檔 ddiwydiannol ai peidio.
Bydd gan yr aelodau tan 9 Mai i fwrw鈥檜 pleidlais.
Llywodraeth yn gwneud 'popeth o fewn eu gallu'
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y prif weinidog, Vaughan Gething ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Jeremy Miles, mai'r dur sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru yw "sylfaen economaidd llawer o gymunedau ledled Cymru" a'i fod yn "hanfodol i economi a diogelwch y DU."
Fe wnaethon nhw ychwanegu eu bod wedi "dadlau'n gyson bod bargen well i'r diwydiant a gweithwyr Tata y gellid ac y dylid ei tharo" gan arwain at "gynhyrchu dur yn fwy gwyrdd yng Nghymru".
Fe wnaethon nhw nodi y bydden nhw'n parhau i gyflwyno'r achos dros y trawsnewid gan "wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r gweithlu medrus a ffyddlon a'r rhai yn y gadwyn gyflenwi".
Ymateb Tata
Dywedodd llefarydd ar ran Tata y byddai'r cynllun ar gyfer ffwrnais newydd "yn gwarchod y mwyafrif o swyddi, yn lleihau allyriadau carbon y DU o 5m o dunelli'r flwyddyn ac fe allai fod yn ddechrau ar chwyldro gwyrdd yn y diwydiant yn Ne Cymru.
"Rydym wedi bod yn ymgynghori gyda'r undebau ers saith mis ac wedi derbyn nifer o argymhellion, ond mae'r hyn sydd wedi ei gyflwyno gan yr undebau yn dangos y byddai eu hawgrym nhw yn costio o leiaf 拢1.6bn yn ychwanegol i'r cwmni mewn cyfnod lle'r ydyn ni eisioes colli 拢1m o bunnau'r diwrnod.
"Mae eu cynlluniau nhw hefyd yn rhai risg uchel a byddai'n peryglu'r gwaith o gynhyrchu dur drwy ddefnyddio dulliau gwyrdd."