Eluned Morgan yn gwahodd Plaid Cymru i'w helpu i basio'r gyllideb

Ffynhonnell y llun, Senedd

Disgrifiad o'r llun, Mae angen o leiaf un Aelod o'r Senedd o鈥檙 gwrthbleidiau ar Lafur i naill ai ymatal neu gefnogi'r gyllideb

Mae prif weinidog Cymru wedi gofyn i Blaid Cymru ei helpu i basio'r gyllideb eleni.

Dywedodd Eluned Morgan yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd fod "gwahoddiad" agored i'r blaid.

Gydag union hanner 60 sedd y Senedd, mae angen o leiaf un Aelod o'r Senedd o鈥檙 gwrthbleidiau ar Lafur i naill ai ymatal neu gefnogi'r gyllideb er mwyn iddi basio.

Ar hyn o bryd does dim cytundeb, er i Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ddweud ar y penwythnos fod yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn siarad 芒 phob gwrthblaid, gan gynnwys hi.

Mae鈥檙 Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud fodd bynnag nad eu gwaith nhw yw helpu Llafur Cymru i basio eu cyllideb.

'Cyllid teg i Gymru'

Bydd Mark Drakeford yn cyflwyno ei gyllideb i'r Senedd ar 10 Rhagfyr. Bydd pleidlais dyngedfennol arni - un y bydd Llafur angen cymorth - yn cael ei chynnal yn y flwyddyn newydd.

Mae 大象传媒 Cymru wedi dysgu bod cyfarfod wedi ei gynnal yn ddiweddar rhwng cynrychiolydd Plaid Cymru a'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford.

Dywedodd ffynhonnell Plaid Cymru fod y cyfarfod yn sesiwn friffio ffeithiol am y gyllideb, ac nad oedd "unrhyw drafodaethau ar gytundeb cyllidebol" yn cael eu cynnal.

Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, am weld Llafur yn sicrhau "cyllid teg i Gymru" - gan gynnwys dros reilffyrdd cyflym HS2 - cyn y byddai ei blaid yn ystyried cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Senedd

Disgrifiad o'r llun, Galwodd Heledd Fychan ar Lywodraeth Cymru "i sicrhau dyfodol hyfyw i gyhoeddi yng Nghymru".

Daeth sylwadau Eluned Morgan wedi i Heledd Fychan, llefarydd cyllid Plaid Cymru, gwyno am doriadau i Gyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd fod y Cyngor Llyfrau wedi datgan bod eu cyllid wedi gostwng 40% mewn termau real yn y deng mlynedd diwethaf. Roedd nifer o gyhoeddwyr fel Y Lolfa, meddai, yn ansicr a fydden nhw鈥檔 gallu parhau i weithredu.

Mewn ymateb, dywedodd Eluned Morgan fod pwysau ariannol ar y llywodraeth.

Meddai, "fel lot o ardaloedd eraill yn y gyllideb, gwelon ni doriadau er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi'r arian yna i ddiogelu pethau fel iechyd, sydd hefyd yn flaenoriaeth i bobl Cymru.

"Mae hwnna'n rhan o'r ffaith bod yna gamreoli'r economi wedi digwydd - effaith chwyddiant hefyd.

"Wrth gwrs, ry' ni yn y broses ar hyn o bryd o wneud penderfyniadau ar y gyllideb. Mae gwahoddiad i chi i drafod gyda ni.

"Mae yna reswm i chi efallai drafod gyda ni, os yw hwn yn rhywbeth sy'n bwysig i chi, efallai i'n helpu ni gyda'r cyllid. Mae hwnna'n wahoddiad i chi drafod gyda ni, os mai hwn yw'r wir flaenoriaeth sydd gyda chi."

Roedd Plaid Cymru mewn cytundeb cydweithio gyda gweinidogion Llafur Cymru tan yr haf, pan ddaeth y blaid 芒鈥檙 cytundeb i ben yn gynnar.