Teuloedd eisiau atebion ynghylch achosion namau geni

Disgrifiad o'r llun, Roedd doctoriaid yn rhoi Primodos ar presgripsiwn fel prawf beichiogrwydd yn y 1960au a'r 1970au

Mae "camddefnyddio grym" 40 mlynedd yn 么l wedi gadael teuluoedd yn brwydro am y gwir ynghylch achosion namau geni, yn 么l y cyn-Brif Weinidog Theresa May.

Dywedodd Y Fonesig May bod y gwasanaeth iechyd a'r llywodraeth ar y pryd wedi "amddiffyn eu hunain, yn lle cheisio canfod y gwir i bobl" lle oedd beichiogrwydd hormonaidd (HPT) yn achosi camffurfiadau (malformations), marw-enedigaethau ac erthyliadau.

Mae'r cwmni perthnasol wedi gwadu unrhyw gysylltiad rhwng Primodos a namau geni, ac mae'r Uchel Lys wedi gwrthod achosion cyfreithiol ond mae teuluoedd yn parhau i lob茂o am gydnabyddiaeth a chefnogaeth.

Dywedodd Y Fonesig May: 鈥淢ae rhai plant wedi dioddef yn ofnadwy yn ystod eu bywydau - sawl llawdriniaeth, sawl problem o ganlyniad, ac mae hyn yn dal yn mynd yn ei flaen. Dyw ddim ar ben."

'Dim cysylltiad achosol'

Roedd y cyffur Primodos yn cynnwys hormonau synthetig ac yn cael ei ddefnyddio rhwng y 1950au a'r 1970u fel prawf beichiogrwydd.

Cafodd cais am iawndal ei wrthod yn yr Uchel Lys yn 2023 wedi i farnwr ddyfarnu bod dim tystiolaeth newydd i gysylltu'r profion gyda niwed ffetysol a "dim gwir siawns o lwyddiant"

Ond mae'r cyn-brif weinidog yn dadlau nad yw'r mater yn hollol glir.

Yn 2017, dywedodd adolygiad arbenigwyr ar ran y llywodraeth bod dim digon o dystiolaeth i brofi cysylltiad rhwng profion HPT a namau geni.

Yn 么l y Fonesig May, yr hyn a ddywedodd y gweithgor oedd bod "dim cysylltiad achosol, at ei gilydd, rhwng Primodos a namau geni".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Credai Theresa May bod yna dystiolaeth i gefnogi dwy ochr y ddadl dros y defnydd o Primodos fel prawf beichiogrwydd

Ychwanegodd: "Roedd hynny'n golygu bod yna dystiolaeth ar y ddwy ochr a'u bod wedi penderfynu ar ochr yna'r ddadl, felly rwy'n meddwl bod angen edrych ar hynny eto."

Dywed y cwmni fferyllol Bayer eu bod yn "cydymdeimlo gyda'r teuluoedd, o ystyried yr heriau y bu'n rhaid iddyn nhw eu hwynebu".

Ychwanegodd: "Daeth asesiadau blaenorol i'r casgliad bod dim cysylltiad rhwng defnyddio Primodos ac achosion o'r fath namau genedigol, a does dim gwybodaeth wyddonol newydd wedi ei gyhoeddi a fyddai'n tanseilio dilysrwydd y casgliad hwnnw," ychwanegodd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.

'Awgrym o risg uwch'

Cafodd y Farwnes Cumberlege ei chomisiynu gan y Fonesig May i adolygu'r defnydd o Primodos, yn ogystal 芒'r defnydd o fewnblaniadau rhwyll yn y fagina (vaginal mesh) a sodiwm falproad.

Cafodd ei hadroddiad ei gyhoeddi yn 2020, gan arwain at ymddiheuriadau gan Lywodraethau Cymru a'r DU.

Daeth i鈥檙 casgliad y dylid fod wedi stopio profion HPT yn 1967 wedi "awgrym o risg uwch" gan ymchwilwyr.

Ychwanegodd bod cyfleoedd gweithredu pellach wedi eu colli yn 1970, 1973 a 1974.

Roedd yna newid swyddogol yn 1970 i beidio defnyddio Primodos mwyach i brofi beichiogrwydd.

Er hynny, ysgrifennodd y cwmni oedd yn cynhyrchu鈥檙 cyffur, Schering, yn Hydref 1977 bod Primodos wedi cael ei roi ar bresgripsiwn i filoedd o fenywod fel prawf beichiogrwydd yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Fe gymrodd Margo Clarke, o Ben-y-bont ar Ogwr, dabledi Primodos yn 1970, a gadarnhaodd ei bod hi'n feichiog gyda'i phlentyn cyntaf, Adrian.

Ond, dywedodd ei fod yn blentyn egwan o'i enedigaeth, ac mae'n dweud bod ei gyflwr yn gwaethygu wrth iddo dyfu.

Pan roedd yn chwech oed, bu'n rhaid symud ei frawd iau o'i goets gadair sawl tro gan fod Adrian yn rhy s芒l i gerdded.

"Doedd e ddim yn gallu chwarae, rhedeg o gwmpas, na chwarae p锚l-droed oherwydd bysa fe mas o wynt," meddai, gan ychwanegu bod ei wefusau'n troi'n las.

"Roedd yn dorcalonnus gweld pa mor s芒l oedd e."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Roedd problemau calon mab Margo Clarke, Adrian yn golygu ei fod allan o wynt yn aml, ac yn gorfod cael ei wthio yng ngoets ei frawd bach

Cafodd ei gyfeirio yn y pen draw at arbenigwr a chawl diagnosis twll yn y galon, ond cafodd y teulu wybod nad oedd Adrian yn ddigon s芒l i gael llawdriniaeth.

"Oherwydd bod Adrian yn hil gymysg, dywedodd pobl fod ei wefusau'n las oherwydd ei liw, a'i fod methu rhedeg o gwmpas oherwydd ei dreftadaeth Garib茂aidd..."

Yn y diwedd, fe gafodd Adrian lawdriniaeth ar y galon yn Llundain, ac o fewn mis roedd yn rhedeg ar draeth gyda barcud.

"Dyna'r tro cyntaf i mi ei weld yn mwynhau ei hun a ddim yn gorfod eistedd lawr am ei fod mas o wynt," meddai ei fam,

Erbyn hyn, mae Adrian wedi treulio 30 o flynyddoedd yn gweithio fel nyrs.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Cafodd merch Marie Lyon, Sarah ei geni heb waelod ei braich yn 1970

Marie Lyon yw cadeirydd cymdeithas sy'n ymgyrchu dros blant a gafodd niwed yn sgil profion HTP.

Cafodd ei merch Sarah ei geni yn yr 1970au heb waelod un fraich.

Mae angen cydnabyddiaeth, meddai, bod y menywod ddim ar fai.

"Mae'n rhywbeth rydym ni i gyd yn teimlo - i rywun ddweud bod hi heb wneud dim o'i le, 'wnes di ddim bwyta'r bwyd neu'r ddiod anghywir'.

"Yn ail, mae llawer o'r teuluoedd yn dal yn gofalu am eu plant a dydyn nhw erioed wedi cael help o gwbl.

"Dyw menywod heb gael y cyfle i weithio am eu bod yn gofalu am y plant."

Dywedodd Mrs May: "Er fy mod wedi sefyll yn Nh欧'r Cyffredin a dweud wrth y llywodraeth, 'Rydych angen dweud wrth y menywod yma, 'dach chi ddim ar fai' mae'n bwysig i godi'r synnwyr yna o euogrwydd oddi arnynt.

"Fe wnaethon nhw gymryd rhywbeth roedd doctoriaid wedi rhoi iddyn nhw. Roedd gyda nhw pob hawl i ddisgwyl gallu ymddiried yn eu meddygon.

"Mae yna rai sydd yn dal yn dioddef a menywod sydd, yn anffodus, yn teimlo euogrwydd, er nad oes dim bai arnyn nhw".