大象传媒

Marathon Eryri i ddefnyddio enw Cymraeg yn unig

Callum Rawlinson a dyn lleol, Tom Roberts yn cyrraedd Pen-y-Pas yn ras 2019Ffynhonnell y llun, SportPicturesCymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Marathon Eryri wedi cyhoeddi y byddan nhw'n defnyddio eu henw Cymraeg yn unig o hyn ymlaen, gan adlewyrchu cyrff eraill sydd wedi gwneud penderfyniad tebyg.

Mewn neges ar Facebook, fe ddywedodd y trefnwyr na fyddan nhw'n defnyddio'r enw 'Snowdonia Marathon' bellach.

Ychwanegodd y neges fod hynny'n dilyn penderfyniad Parc Cenedlaethol Eryri i ddefnyddio eu henw Cymraeg yn unig o hyn ymlaen, yn hytrach na Snowdonia hefyd.

"Yr un ras anhygoel, yr un golygfeydd gwych, yr un cyfranogwyr anhygoel, enw dilys newydd," meddai'r trefnwyr.

'Dod i gael profiad Cymreig'

Mae'r penderfyniad yn adlewyrchu newid tebyg ymhlith sawl corff cyhoeddus yn ddiweddar, gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd nawr ond yn cyfeirio at gopa uchaf Cymru fel Yr Wyddfa yn hytrach na Snowdon.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wneud cyhoeddiad tebyg - er bod hynny wedi codi gwrychyn rhai o fusnesau'r ardal.

Dywedodd cydlynydd y ras, Jayne Lloyd, ei bod hi'n gwneud "synnwyr llwyr" i ddefnyddio enw Eryri o hyn ymlaen, gan annog eraill i wneud hynny hefyd.

"Mae Snowdonia yn air Saesneg, un gafodd ei osod yno," meddai.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig edrych ar ddilysrwydd yr enw."

Ffynhonnell y llun, SportPicturesCymru

Ychwanegodd ei bod hi'n gweld yr iaith Gymraeg yn "hanfodol" i hunaniaeth y ras.

"Mae'n ddigwyddiad Cymreig ac mae pobl yn dod yma i gael profiad Cymreig," meddai.

"Mae'n rhywbeth dydyn nhw methu cael unrhyw le arall yn y DU. Mae hynny'n bwysig iawn i ni.

"Mae pobl sy'n teithio yma wir yn gwerthfawrogi iaith a diwylliant yr ardal.

"Mae'n bwysig eu bod nhw'n gwybod fod iaith a diwylliant Cymru yn ffynnu - dydy o ddim yn iaith farw o gwbl.

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dangos hynny i bobl.

"Croeso iddyn nhw ei alw'n farathon Snowdonia os ydyn nhw eisiau - ond nid dyna ei enw."