Tanau Gwlad Groeg yn 'uffern ac fel ymladd 芒鈥檙 diafol'

Disgrifiad o'r llun, Costas Kotiadis ym mynyddoedd de Ynys Rhodos
  • Awdur, Gwyn Loader
  • Swydd, Prif Ohebydd Newyddion S4C
  • Yn gohebu o Ynys Rhodos

鈥淢ae fel uffern, fel ymladd 芒鈥檙 diafol.鈥

Yn y mynyddoedd yn ne Ynys Rhodos, mae Costas Kotiadis yn disgrifio鈥檙 profiad o ddiogelu ei gymuned rhag tanau sydd yn dal i losgi ychydig fetrau y tu 么l iddo.

鈥淩ydych chi鈥檔 ceisio diffodd t芒n o鈥檆h blaen chi, mae un arall yn codi fan hyn, un arall fan draw. Beth allwn ni wneud?鈥

Ers dyddiau, mae fflamau wedi bod yn llosgi yn y rhan yma o鈥檙 ynys.

Mae miloedd o dwristiaid wedi diflannu o鈥檙 gwestai moethus ar yr arfordir a channoedd yn rhagor wedi gorfod gadael cartrefi hefyd.

'Rhaid i ni fod ar ein gwyliadwraeth'

Ym mhentref Vati, does dim trydan na d诺r. Mae mwyafrif y bobl leol wedi dianc, ond mae 鈥榥a gnewyllyn wedi aros.

Gyda鈥檙 tymheredd yn cyrraedd 40 gradd celsius, mae ambell un yn cael saib mewn taverna yn y pentref ar 么l dyddiau o weithio dan yr haul crasboeth.

Wrth i ludw gwympo o鈥檙 awyr fel plu eira, mae Konstantinos Koutelos yn disgrifio鈥檌 ofid.

鈥淎r hyn o bryd, ry鈥檔 ni wedi鈥檔 hamgylchynu. Mae un t芒n y tu 么l i ni, un ar yr ochr arall.

鈥淏ore 'ma, roedd un ar y chwith. Mae鈥檔 edrych yn iawn nawr. Ond mae鈥檔 rhaid i ni fod ar ein gwyliadwraeth. Gallan nhw ddechrau eto unrhyw bryd.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Konstantinos Koutelos ymhlith cnewyllyn o bobl sydd wedi aros ym mhentref Vati, er y tanau o'u cwmpas

Wrth i ni adael y pentref, mae鈥檙 heddlu鈥檔 dod 芒 ni i stop. Mae鈥檙 t芒n wedi lledu a nawr yn rhwystr ar y brif hewl at yr arfordir.

Am awr, ry鈥檔 ni鈥檔 gwylio wrth i gerbydau t芒n, pobl leol ac awyrennau a hofrenyddion ollwng d诺r ar yr hewl a鈥檙 t芒n sy鈥檔 llosgi o amgylch.

Ar 么l awr o weiddi a seirenau'n sgrechian, maen nhw wedi llwyddo i reoli鈥檙 fflamau - am y tro, o leiaf.

Ry鈥檔 ni鈥檔 gadael i ddiogelwch y gogledd, ond yn Vati o hyd mae Kostas, Konstantinos a haid o bobl eraill yn gwneud eu gorau i amddiffyn eu cymunedau.

Disgrifiad o'r llun, Caleb Swinney, dyn camera gyda 大象传媒 Cymru, yn tynnu lluniau o'r fflamau'n lledu

'Ry鈥檔 ni wedi bod yn lwcus'

Yng Nghymru a Phrydain, mae sylw鈥檙 newyddion wedi canolbwyntio ar y rheiny oedd ar eu gwyliau ar yr ynys pan ddechreuodd y tanau ledu.

Roedd Lowri Jones a鈥檌 merch Ella ymhlith y rhai a deithiodd yma heb wybod am realiti'r sefyllfa.

Gyrhaeddon nhw fyth eu gwesty yn ne鈥檙 ynys.

Am noson, roedd Ella a鈥檌 mam yn cysgu ar lawr teils bar gwesty yng ngogledd yr ynys - ardal na sydd wedi'i heffeithio gan y tanau diweddar.

Disgrifiad o'r llun, Mae pob rhan o Ynys Rhodos mewn stad o argyfwng erbyn hyn

Mae hi鈥檔 rhwystredig gyda鈥檙 diffyg gwybodaeth oedd ar gael wedi iddyn nhw lanio, ond wrth siarad gyda fi y tu fas i westy newydd lle maen nhw wedi cael ystafell erbyn hyn, mae鈥檔 sylweddoli hefyd eu bod nhw鈥檔 lwcus ar un wedd.

鈥淒im ond gwyliau yw e i ni," meddai. "Gall gwyliau gael eu haildrefnu.

"Mae rhai pobl wedi colli bywoliaethau a chartrefi.

鈥淥 weld y darlun mawr, ry鈥檔 ni wedi bod yn lwcus.鈥

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr heddlu wedi cau'r brif ffordd i'r arfordir wrth i Gwyn Loader geisio gadael pentref Vati

Yng Ngwlad Groeg, mae tridiau o alaru cenedlaethol nawr i goffhau dau beilot fu farw wrth geisio diffodd y tanau ar ynys Evia.

Ddydd Mercher mae Ynys Rhodos gyfan wedi ei rhoi mewn stad o argyfwng.

Gyda鈥檙 tanau'n dal i losgi, bydd Costas, Konstantinos a holl bobl yr ynys yn gwedd茂o bod diwedd i鈥檙 trychineb yma yn dod cyn hir.