Gweithiwr iechyd yn gwadu gweld ward brysur fel 'cyfle' cam-drin

Disgrifiad o'r llun, Ieuan Crump, sy'n gwadu naw o gyhuddiadau, yn gadael y llys wedi gwrandawiad blaenorol
  • Awdur, Iolo Cheung
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae gweithiwr iechyd cynorthwyol sydd wedi鈥檌 gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes wedi gwadu defnyddio ward brysur fel 鈥渃yfle鈥 i鈥檞 cam-drin heb i unrhyw un sylwi.

Mae Ieuan Crump, 26 o Gilfach, Sir Caerffili, yn wynebu naw cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes.

Fe wnaeth dau o gleifion yn Ysbyty鈥檙 Faenor, Cwmbr芒n gyhuddo Ieuan Crump o鈥檜 cyffwrdd yn amhriodol wrth iddo wneud archwiliadau meddygol ym mis Awst 2021.

Roedd Mr Crump yn astudio am radd nyrsio adeg yr ymosodiadau honedig.

Mae鈥檔 gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Wrth groesholi, dywedodd yr erlynydd Matthew Roberts fod gan Mr Crump 鈥渙bsesiwn gyda chynnal sganiau ar bledren y ddwy ddynes er nad oedd eu hangen鈥.

Dywedodd wrth y llys mai dyma sut yr aeth ati i鈥檞 cham-drin.

Ond gwrthododd Mr Crump yr honiadau hynny, gan ddweud ei fod ond wedi cynnal archwiliadau yr oedd nyrs arall wedi gofyn amdanynt.

Clywodd y llys fod y ddwy ddynes ond ar yr un uned am tua phum awr a hanner ar 13 Awst, ac mewn ystafelloedd gwahanol.

鈥淔e wnaeth y ddwy ddynes gwynion annibynnol ar wah芒n amdanoch chi,鈥 meddai Mr Roberts. 鈥淵dych chi鈥檔 dweud eu bod nhw wedi cydweithio i鈥檆h fframio chi?鈥

Atebodd Mr Crump: 鈥淒wi ddim yn gwybod os wnaethon nhw.鈥

Gwadodd ei fod wedi dweud wrth un claf ei fod eisiau aros yn ei hystafell tra bod nyrs arall yn gosod cathetr ynddi, gan ei fod yn nyrs dan hyfforddiant.

Fe wnaeth hefyd wadu cynnal archwiliadau mewnol, a cheisio gosod cathetr wedi i nyrs arall adael yr ystafell.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y troseddau honedig wrth i Ieuan Crump weithio yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor

Roedd gan Mr Crump bythefnos cyn iddo raddio mewn Nyrsio Oedolion, pan gafodd ei arestio.

Yn gynharach, dywedodd wrth y llys fod ei brifysgol wedi dal ei radd yn 么l nes i鈥檙 achos llys yn ei erbyn dod i ben.

Nid yw鈥檔 gallu gweithio fel cynorthwyydd iechyd felly, na pharhau gyda鈥檌 waith gwirfoddol i Ambiwlans Sant Ioan.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Crump fod yr uned yn Ysbyty鈥檙 Faenor fel 鈥渂elt symudol鈥, gyda phrinder staff yno.

Ychwanegodd nad oedd yn gwybod fod gan y ddwy ddynes broblemau iechyd meddwl, a bod un ohonyn nhw ddim eisiau bod mewn ystafell ar ei phen ei hun gyda dyn.

Wrth gyfeirio at honiadau鈥檙 ddwy ddynes, dywedodd Mr Roberts: 鈥淯n ai maen nhw鈥檔 dweud y gwir, neu maen nhw鈥檔 dweud celwydd.

鈥淒ydy hi ddim yn wir fod hyn yn rhywbeth allai fod wedi digwydd ar ddamwain.鈥

Dywedodd Mr Crump: 鈥淩wy鈥檔 cytuno. Wnaeth e ddim digwydd.鈥

Disgrifiad o'r llun, Roedd y ddau glaf yn Ysbyty'r Faenor yn Awst 2021

Fe glywodd y llys fod un o鈥檙 cleifion wedi honni bod Mr Crump wedi gofyn iddi am ei bywyd carwriaethol, gan gynnwys gyda faint o bobl oedd hi wedi cael rhyw.

Roedd y claf yn ddeurywiol. Dywedodd wrth yr heddlu fod Mr Crump wedi gofyn iddi ai dyn neu ddynes oedd y person diwethaf iddi gysgu gyda.

Gwadodd Mr Crump fod y sgwrs honno wedi digwydd, gan ddweud: 鈥淐yn belled a dwi yn y cwestiwn mae hi wedi dyfeisio hynny. Mae bywyd personol claf yn amherthnasol.鈥

Dywedodd Mr Roberts: 鈥淩oedd hon yn berson yr oedd gennych chi ddiddordeb rhywiol ynddi?鈥

鈥淣a,鈥 atebodd Mr Crump.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r achos yn Llys y Goron Caerdydd yn parhau

Clywodd y llys fod y claf wedi dod i鈥檙 ysbyty 芒 chyflwr difrifol ar y coluddyn, a鈥檌 bod hi mewn poen.

Dywedodd Mr Roberts fod y claf wedi cynhyrfu cymaint ei bod hi eisiau gadael cyn cael ei gweld gan feddyg, a鈥檌 bod wedi rhedeg at ei mam.

Ychwanegodd fod y claf wedi dweud wrth yr heddlu ei bod hi鈥檔 cofio Ieuan Crump yn ei chyffwrdd hi mewn mannau preifat heb wisgo menig.

鈥淩oedd eich dwylo鈥檔 ysgwyd. Gofynnodd hi oeddech chi鈥檔 iawn. Fe ddwedoch chi eich bod chi wedi cael gormod o gaffein,鈥 meddai Mr Roberts. 鈥淲naethoch chi erioed ddweud hynny?鈥

鈥淣a,鈥 atebodd Mr Crump.

Creu arwyddion 'peidiwch 芒 dod i mewn'

Clywodd y llys fod Mr Crump wedi creu arwyddion 鈥榩eidiwch 芒 dod i mewn鈥 ar gyfer yr uned, ar ei ddiwrnod i ffwrdd, ar 么l cael y syniad o wardiau eraill yn yr ysbyty.

Mae gan ystafelloedd yr uned fleindiau metel y mae modd eu cau er mwyn rhoi preifatrwydd i gleifion yn ystod archwiliadau sensitif.

鈥淒oedd dim angen creu鈥檙 arwyddion,鈥 meddai Mr Roberts. 鈥淲naeth neb ofyn i chi wneud yr arwyddion.

鈥淥edd hyn er mwyn rhoi urddas i鈥檙 claf, neu sicrhau bod modd i chi gam-drin heb i unrhyw un eich dal?

鈥淔e wnaethoch chi gymryd mantais lwyr, dyna鈥檙 gwir ynte?鈥

Atebodd Mr Crump: 鈥淣a.鈥

Mae鈥檙 achos yn parhau.