大象传媒

Cymru yn curo Gwlad yr I芒 ac yn ennill dyrchafiad annisgwyl

Liam Cullen yn dathlu sgorio ei ail g么lFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sgoriodd Cullen ddwy g么l, yn ogystal 芒 chreu dwy

  • Cyhoeddwyd

Curodd Cymru Gwlad yr I芒 o 4-1 yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth, gan sicrhau dyrchafiad i haen uchaf y gystadleuaeth.

Mae'r fuddugoliaeth - ynghyd 芒 chanlyniad annisgwyl yn y g锚m rhwng Montenegro a Thwrci - yn golygu fod Cymru wedi ennill eu gr诺p.

Sgoriodd Liam Cullen ddwy g么l yn yr hanner cyntaf, cyn i Brennan Johnson a Harry Wilson ychwanegu g么l yr un yn yr ail hanner.

Roedd colled Twrci i Montenegro o 3-1 ar yr un noson yn golygu fod Cymru wedi cymryd safle cyntaf gr诺p 4 yn yr ail haen.

Ffynhonnell y llun, Action Images/Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw Cymru wedi colli g锚m ers i Craig Bellamy ddod yn rheolwr

Fe wnaeth Bellamy bedwar newid i'r t卯m a gafodd g锚m gyfartal i ffwrdd yn Nhwrci ddydd Sadwrn, gyda Mark Harris yn arwain yr ymosod.

O'r funud gyntaf roedd Orri 脫skarsson yn profi i fod yn llond llaw i amddiffynwyr Cymru, gyda'i gefn at y g么l.

Gwlad yr I芒 oedd y t卯m ar y droed flaen am rannau helaeth o'r hanner cyntaf, a doedd arbediad campus Danny Ward ddim yn ddigon i rwystro Andri Gu冒johnsen rhag sgorio ei wythfed g么l i'w wlad ar 么l saith munud.

Doedd Cymru heb ildio g么l mewn g锚m gartref ers chwarae'r Ffindir fis Mawrth diwethaf.

Ond wedi cyfnod gwell i'r Cymry fe gafon nhw eu gwobrwyo, wedi i Liam Cullen benio croesiad o droed chwith Brennan Johnson i gefn y rhwyd - ei g么l ryngwladol gyntaf.

Ychydig cyn hanner amser roedd Cymru ar y blaen, gyda Cullen unwaith eto yn cosbi Gwlad yr I芒, ar 么l i Harry Wilson ddwyn y meddiant.

Ffynhonnell y llun, PA Wire

Dechreuodd yr ail hanner yn arafach, ond arbedodd Danny Ward yn dda i wthio'r b锚l dros y trawst wedi 51 munud.

Tyfodd Gwlad yr I芒 mewn i'r g锚m gan roi Cymru o dan bwysau mawr am gyfnodau, gyda VAR yn gwirio a gwrthod cic o'r smotyn iddynt ar 么l 60 munud.

Ond pum munud yn ddiweddarach dyblodd Cymru eu mantais i wneud y sg么r yn 3-1, pan saethodd Brennan Johnson i gornel isaf y rhwyd, ar 么l i Cullen ei fwydo trwy fwlch yn yr amddiffyn.

Profodd i fod yn noson dda iawn i Liam Cullen, a dim ond gwella wnaeth pethau wedi 79 munud, pan arweiniodd ei bas i Harry Wilson sgorio o du allan y cwrt cosbi.

Hon oedd g锚m olaf Cymru yn 2024.