Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhuddo Mark Drakeford o dorri鈥檙 cod gweinidogol
- Awdur, Elliw Gwawr
- Swydd, Gohebydd Gwleidyddol
Mae Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, wedi鈥檌 gyhuddo o dorri鈥檙 cod gweinidogol drwy wneud sylw gwleidyddol mewn datganiad ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ar ddiwrnod Cyllideb llywodraeth y Deyrnas Unedig, cafodd datganiad ei gyhoeddi yn enw'r ysgrifennydd cyllid yn dweud ei fod yn nodi "y camau cyntaf i'r cyfeiriad cywir ar 么l 14 mlynedd o gamreoli economaidd gan lywodraethau blaenorol y DU".
Yn 么l yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Laura Anne Jones, mae cyhoeddi "datganiad gwleidyddol o'r fath ar wefan sy'n cael ei hariannu'n gyhoeddus, ac sy'n cael ei rheoli gan weision sifil" yn mynd yn erbyn y cod ymddygiad ar gyfer gweinidogion.
Mae llefarydd ar ran y llywodraeth wedi ymateb gan ddweud bod gan 鈥淲einidogion Cymru yr hawl i fynegi eu barn am weithredoedd llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig, a鈥檙 cyd-destun y maen nhw鈥檔 gwneud eu penderfyniadau鈥.
Mae aelod Dwyrain De Cymru wedi codi鈥檙 mater gyda鈥檙 prif weinidog ac wedi gofyn i Eluned Morgan i gael cyngor ynghylch a yw'r cod wedi ei dorri neu beidio.
Yn ei llythyr mae Ms Jones yn dweud bod y datganiad i鈥檞 weld yn mynd yn groes i ganllawiau鈥檙 llywodraeth ac mae'n nodi 鈥測 dylai cyfathrebu fod yn wrthrychol ac yn esboniadol, gan osgoi rhagfarn neu d么n feirniadol a allai danseilio perthnasoedd adeiladol gyda'r gwrthbleidiau鈥.
Mae鈥檔 rhaid i weinidogion Cymru ddilyn y cod ymddygiad ac mae'n dweud 鈥測 dylai cyfathrebu鈥檙 llywodraeth geisio egluro penderfyniadau llywodraeth y dydd mewn ffordd gytbwys a gwrthrychol.
"Ni ddylai cyfathrebu'r llywodraeth ymosod ar grwpiau a allai wrthwynebu penderfyniad neu bolisi na bod yn feirniadol ohonynt".
Roedd datganiad Drakeford, a gafodd ei bostio ar wefan Llywodraeth Cymru gan weision sifil, yn canmol cyhoeddiad y Canghellor fel cam cyntaf tuag at "atgyweirio'r difrod a achoswyd dros y 14 mlynedd diwethaf gan lywodraethau blaenorol y DU".
Dywedodd hefyd ei fod "yn nodi'r camau cyntaf i'r cyfeiriad cywir ar 么l 14 mlynedd o gamreoli economaidd gan lywodraethau blaenorol y DU a'r effaith y mae ei benderfyniadau wedi'i chael ar bobl a chymunedau".
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod 鈥済an weinidogion Cymru鈥檙 hawl i fynegi eu barn ar weithredoedd llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig, a鈥檙 cyd-destun y maen nhw鈥檔 gwneud eu penderfyniadau.
鈥淏ydd yr aelod yn cael ymateb i鈥檞 llythyr maes o law.鈥