Nyrs dementia, 84, yn dal i ofalu am gleifion ym M么n

Ffynhonnell y llun, Gwobrau Gofal Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Daisy Richards wedi gweithio fel nyrs ers 1958

Mae nyrs 84 oed o F么n, y nyrs hynaf ym Mhrydain mae'n debyg, wedi ei henwebu am wobr am ei gwasanaeth.

Fe wnaeth Daisy Richards o Langefni gymhwyso fel nyrs ym 1958 ac mae'n dal i weithio鈥檔 llawn amser mewn cartref gofal dementia yn Llanfairpwllgwyngyll.

Mae hi wedi cyrraedd rhestr fer gwobr gwasanaeth eithriadol yng Ngwobrau Gofal Cymru - seremon sy'n cael ei chynnal yng Nghaerdydd wythnos nesaf.

"Bob dydd dwi'n dod i'r gwaith, dwi'n mwynhau fy ngwaith, mae'n rhaid," meddai.

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones Gwobrau Gofal Cymru

Disgrifiad o'r llun, 鈥淩haid i mi ddweud bod miloedd o nyrsys yn yr un sefyllfa 芒 fi ac yn gwneud y math hwn o waith,鈥 meddai

鈥淢ae鈥檔 wir fy mod yn gofalu am bobl iau na fi, a dwi'n mwynhau.

"Dros y blynyddoedd mae nyrsio wedi esblygu, ond mae rhai pethau'n aros yr un peth ac mae hynny'n cynnwys sut rydyn ni'n gofalu am bobl mewn cartrefi gofal.

"Eu cartref nhw ydi o, ac rydyn ni yna i'w helpu, ac mae hynny'n golygu bod rhaid i'r gofal fod yn ardderchog," ychwanegodd.

Cafodd Ms Richards ei henwebu am wobr gan Rebekah Charles, rheolwr y cartref gofal.

鈥淢ae ei hagwedd yn adlewyrchu gwerthoedd metron hen deip, lle mae disgwyl gwasanaeth rhagorol wrth ddarparu gofal - o鈥檙 manylion lleiaf fel gwneud gwelyau i weinyddu meddyginiaeth,鈥 meddai Ms Charles.

鈥淢ae ymroddiad Daisy i safonau uchel yn gosod nod ar gyfer y t卯m cyfan, gan sicrhau fod preswylwyr yn derbyn gofal o鈥檙 ansawdd gorau.鈥

Dechreuodd Ms Richards ei gyrfa yn ne Lloegr a symudodd i Ynys M么n yn 1972, gan weithio mewn ysbyty ym Mangor gerllaw.

Ar 么l cyfnod yn gweithio fel nyrs ardal ar Ynys M么n symudodd i ofalu am gleifion h欧n.

Tra bod eraill o'i hoedran wedi ymddeol ers amser maith mae hi'n dal i weithio tair shifft 12 awr yr wythnos.

Dywedodd Ms Richards ei bod yn anrhydedd cael ei henwebu ar gyfer y wobr.

鈥淥nd rhaid i mi ddweud bod miloedd o nyrsys yn yr un sefyllfa 芒 fi ac yn gwneud y math hwn o waith,鈥 meddai.