Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwilio i negeseuon staff carchar am ddefnydd 'gormodol' o rym
Mae ymchwiliad ar y gweill i negeseuon honedig a gafodd eu rhannu rhwng staff Carchar y Parc oedd yn trafod y defnydd o rym i ddelio 芒 charcharorion.
Mewn llythyr at Bwyllgor Materion Cartref a Chyfiawnder Llywodraeth y DU, dywedodd y Gweinidog Carchardai fod uned arbenigol yn edrych ar weithgaredd gweithwyr yn y carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd pedwar o bobl eu harestio ym mis Medi ar amheuaeth o ymosod a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ar 么l i bryderon gael eu codi am "gyfres o ddigwyddiadau" yn y carchar.
Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc fod "mwyafrif eu staff yn weithwyr caled a gonest" a'u bod yn benderfynol o fynd i'r afael ag unrhyw gamymddwyn.
Mae 17 o garcharorion wedi marw yng Ngharchar y Parc hyd yma eleni - y nifer uchaf mewn unrhyw garchar ym Mhrydain.
Dywedodd G4S - y cwmni diogelwch sy'n rheoli'r safle - fod wyth o'r bobl hynny wedi marw o achosion naturiol.
Yn ogystal, fe gafodd tri o garcharorion eu cludo i'r ysbyty yn dilyn anrhefn yn y carchar ym mis Mehefin.
'Mater difrifol iawn'
Dywedodd y Gweinidog Carchardai, yr Arglwydd James Timpson fod G4S yn gweithio gyda'r heddlu a'u bod yn barod i wahardd staff pe bai'r angen yn codi.
"Mae'r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru ar 么l darganfod negeseuon rhwng staff ar wefannau cymdeithasol oedd yn cyfeirio at y defnydd o rym gormodol ar garcharorion, a honiadau difrifol eraill," meddai.
Ychwanegodd nad oedd yr honiadau yn ymwneud 芒 throseddwyr ifanc yng Ngharchar y Parc, a bod y mwyafrif helaeth o staff yn "weithwyr caled a gonest".
Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc: "Mae mwyafrif ein staff yn weithwyr caled a gonest. Ry'n ni wedi ymroi yn llwyr i ganfod a chael gwared o unrhyw gamymddwyn.
"Rydyn ni'n trin yr honiadau hyn fel mater difrifol iawn, a byddwn yn llwyr gefnogi'r heddlu gyda'u hymchwiliad."