大象传媒

Ethan Ampadu yn symud i Leeds o Chelsea am 拢7m

Ethan AmpaduFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ethan Ampadu wedi ennill 44 o gapiau dros Gymru, ac yntau ond yn 22 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae Leeds United wedi arwyddo chwaraewr Cymru, Ethan Ampadu, o Chelsea ar gytundeb pedair blynedd.

Credir bod Leeds wedi talu ffi o tua 拢7m am y chwaraewr 22 oed, ond gall hynny gynyddu yn dibynnu ar ei berfformiad.

Fe wnaeth Ampadu, sydd 芒 44 o gapiau rhyngwladol, arwyddo i Chelsea o Gaerwysg yn 2017, ond ni lwyddodd i dorri trwodd i'r t卯m cyntaf.

Dros y pedwar tymor diwethaf mae wedi bod ar fenthyg yn Sheffield United, RB Leipzig yn Yr Almaen, a Venezia a Spezia yn Yr Eidal.

Bydd Ampadu felly yn gobeithio sefydlu ei hun yn nh卯m Leeds yn y Bencampwriaeth, wedi i'r clwb ddisgyn o'r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.