大象传媒

Gething wedi ceisio rhwystro rhyddhau manylion ei lob茂o

Vaughan Gething Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Vaughan Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru geisio rhwystro rhyddhau manylion ei lob茂o ar ran cwmni oedd wedi torri'r gyfraith, cyn i uwch-gwmni cysylltiedig roi miloedd i'w ymgyrch Llafur Cymru.

Yn 么l e-byst sydd wedi'u rhyddhau i Newyddion S4C, fe wnaeth Mr Gething geisio perswadio Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i beidio rhyddhau gwybodaeth wedi i gais gael ei wneud dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Mae Mr Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder ddydd Mercher ac wedi bod dan bwysau cynyddol wedi i fanylion ddod i'r golwg am rodd o 拢200,000 i'w ymgyrch i arwain Llafur Cymru gan gwmni Dauson Environmental Group, sy'n cael ei redeg gan David Neal.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru nad oedd "unrhyw awgrym nad oedd Vaughan Gething am weld y wybodaeth yn cael ei ryddhau".

Fe wnaeth 大象传媒 Cymru ddatgelu ym mis Mawrth i Mr Gething lob茂o CNC i lacio cyfyngiadau ar un arall o gwmn茂au David Neal, Atlantic Recycling, yn 2016.

Cafodd Atlantic Recycling Ltd, a'r cyfarwyddwr David Neal, eu herlyn yn 2013 am waredu 芒 gwastraff yn anghyfreithlon, ac yn 2017 am beidio glanhau'r llanast.

Derbyniodd Mr Neal ddirwy o 拢10,000 a dedfryd o dri mis o garchar wedi'i ohirio yn 2013 a 18 wythnos o garchar wedi'i ohirio yn 2017, ynghyd 芒 dirwyon a chostau gwerth 拢230,000.

Mae cwmn茂au o dan reolaeth Mr Neal wedi rhoi degau o filoedd o bunnoedd i ymgyrchoedd Vaughan Gething i arwain Llafur Cymru.

Yn gynharach yr wythnos hon, datgelodd rhaglen 大象传媒 Wales Investigates bod ymchwiliad troseddol i un arall o gwmn茂au Mr Neal pan roddwyd 拢200,000 i ymgyrch Vaughan Gething gan Dauson Environmental Group.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Neal i "bob rhodd ddod o gyfrif ar wah芒n i'r rhai sydd yn cael eu defnyddio at ddatblygu ein busnes; dydyn ni erioed wedi gofyn am na disgwyl unrhyw beth oherwydd y rhoddion".

'Trip pysgota'

Ar awgrym ffynhonnell, gofynnodd Newyddion S4C am unrhyw gyfathrebu rhwng Mr Gething a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cais gwreiddiol 大象传媒 Cymru am lob茂o Vaughan Gething ar ran cwmn茂au David Neal.

Mae'r e-byst gafodd eu rhyddhau yn dangos i Gyfoeth Naturiol Cymru gysylltu gyntaf gyda Mr Gething ar 4 Mawrth eleni, gan ofyn am unrhyw reswm na allai'r wybodaeth oedd wedi ei gasglu ganddyn nhw gael ei ryddhau dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Fe wnaeth Vaughan Gething ateb yn gyntaf ar 5 Mawrth, gan labelu'r cais yn "drip pysgota" a dweud y byddai ei etholwyr yn disgwyl i unrhyw gyfathrebu ar eu rhan gan aelod etholedig aros yn gyfrinachol.

Gofynnodd hefyd a fyddai rhyddhau'r wybodaeth yn torri deddfau diogelu data.

Fe wnaeth cynrychiolydd CNC ymateb gan ddweud bod rhyddhau'r wybodaeth yn gyfreithiol ac yn hanfodol dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Atebodd Mr Gething, sydd yn gyn-gyfreithiwr, unwaith eto, gan ddweud nad oedd yn deall "sut mae fy nghyfathrebu, yn llawn neu yn rhannol, yn gyfystyr 芒 gwybodaeth amgylcheddol".

Dywedodd y byddai rhyddhau'r wybodaeth yn effeithio ar y ffordd mae'n gweithredu ar ran ei etholwyr.

Cafodd y wybodaeth ei ryddhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar 8 Mawrth.

Cafodd Vaughan Gething ei gadarnhau fel arweinydd Llafur Cymru ar 16 Mawrth.

'Brwydro am ei fywyd gwleidyddol'

Mae gwrthbleidiau'r Senedd wedi beirniadu ymatebion y Prif Weinidog.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru: "Mae'r datgeliad diweddaraf yn brawf pellach o atgasedd Vaughan Gething o sgrwtini a thryloywder."

"Petai dim byd gan y Prif Weinidog i'w guddio ac nad yw e'n poeni am unrhyw ganfyddiad ei fod yn gweithredu ar ran noddwr mawr, does bosib y byddai e wedi bod yn falch o gydweithio 芒 chais rhesymol am wybodaeth."

Yn 么l llefarydd ar ran gr诺p y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Mae'r canfyddiad bod yna wrthdaro buddiannau yn gysylltiedig 芒 Vaughan Gething yn un o'r prif resymau ei fod e'n brwydro am ei fywyd gwleidyddol."

Cafodd yr e-byst eu disgrifio fel "datguddiad pryderus" gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, gan ddweud eu bod yn "codi cwestiynau pellach am allu'r Prif Weinidog i weithredu".

Gwadu bod Mr Gething am rwystro'r wybodaeth rhag cael ei ryddhau wnaeth Llafur Cymru, gan fynnu ei fod yn hytrach yn "ceisio cadarnhau egwyddor rhyddhau gwybodaeth a sut allai hynny amharu ar waith Aelodau'r Senedd".