大象传媒

'Gallwn wneud mwy fel gwlad i hybu'r sector busnes'

Llyr Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o'r rhwystrau i fusnesau Cymru, medd Llyr Roberts, yw cyllidebau tymor byr ar gyfer prosiectau tymor hir

  • Cyhoeddwyd

Mae angen "arweiniad a chynllun clir" ar Gymru a "strategaeth economaidd uchelgeisiol", ym marn arbenigwr busnes blaenllaw.

Dyna oedd neges prif weithredwr y cwmni datblygu busnes annibynnol Mentera, Llyr Roberts, wrth draddodi araith goffa EG Bowen ar faes yr Eisteddfod.

"Dwi鈥檔 methu helpu teimlo y gallwn wneud mwy fel gwlad," dywedodd wrth gyflwyno ei weledigaeth.

Dywed Llywodraeth Cymru bod sawl cam a phartneriaeth ar waith i sicrhau swyddi a busnesau newydd ynghyd 芒 biliynau o bunnoedd o ran buddsoddiad.

Dywedodd Llyr Roberts ei fod yn falch o gyflwyno'i neges mewn ardal fel Pontypridd, oedd 芒 hanes a rhan bwysig yn y chwyldro diwydiannol.

Mae angen "arweiniad a chynllun clir ar Gymru", meddai, a ffocws ar yr economi.

Wrth edrych i'r dyfodol mae'n dadlau dros drawsnewid yr economi o鈥檙 tu mewn a mabwysiadu persbectif rhyngwladol, a chydweithio mwy gyda phartneriaid Ewropeaidd.

"Mae angen edrych yn fwy eang na jyst ar yr economi ei hun," meddai.

"Mae cyfle i edrych ar ddiwylliant ac iaith a gwahanol sectorau yn gallu cyfrannu at yr economi."

'Rhaglenni sy'n mynd a dod'

Er gwaethaf sialensau cyfnod o heriau economaidd, dywed Mr Roberts fod mwy o gyfle nag erioed i "gyd-blethu meysydd gwaith a meddwl sut gall byd amaeth, bwyd a diod, ynni a thwristiaeth, er enghraifft, ddod at ei gilydd a chreu cyfleoedd".

Wrth s么n am broblemau ym myd busnes mae'n cyfeirio'n benodol at sefyllfa ble mae "rhaglenni yn mynd a dod - cysyniadau yn datblygu a diflannu, cyllidebau byr dymor i weithredu cynlluniau hir dymor".

Ei bryder yw fod cyllidebau byr dymor yn rhwystr i fusnesau ar hyn o bryd.

"Ers refferendwm Brexit i adael yr UE - ac efallai ei bod hi yn anodd ffeindio buddsoddiad oherwydd toriadau mewn cyllidebau - petaen ni'n gwybod yn union faint o amser sy' gyda ni i 'neud pethau fe alle busnesau fod yn llawer mwy effeithiol."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae digon o syniadau da yng Nghymru, medd Steve Dimmick, ond dim digon o amser i'w gwireddu

Mae Steve Dimmick wedi rhedeg nifer o fusnesau llwyddiannus, ac yn gyn-brif weithredwr cwmni Doopoll.

Mae nawr yn gweithio fel cyfarwyddwr masnachol i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

"Mae yr amserlenni o ran grantiau mor dynn y dyddiau yma mae yn anodd iawn i ddelifro," dywedodd.

"Mae lot o bwysau arnom ni. Ry'n ni wedi gwneud gwaith gwych, ond os bydden ni yn cael tamed bach mwy o amser, pethau mwy yn yr hir dymor, fe fydden ni yn gallu gneud pethe cymaint yn well."

Ychwanegodd Mr Dimmick: "Rwy' 'di sylwi bod digon o syniadau da gyda ni yng Nghymru, ond ry'n ni yn stryglo gyda chefnogeth a buddsoddiad mewn i fusnesau.

"Bydde tipyn bach mwy o amser yn gwneud cymaint o wahaniaeth."

'Cenhadaeth economaidd' Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Wrth i'r economi fyd-eang newid a'r ras am sero net gyflymu, mae ein Cenhadaeth Economaidd yn canolbwyntio ar dwf busnes a gwaith sefydlog, sy'n talu'n dda ledled Cymru.

"Mae ein huchelgais ar gyfer diwydiannau yng Nghymru wedi helpu i ddenu cannoedd o filiynau mewn buddsoddiad newydd ar gyfer clwstwr lled-ddargludyddion yn ne Cymru.

"Mae ein partneriaeth gyda chwmn茂au fel Siemens a Rocket Science wedi sicrhau swyddi newydd mewn gwyddorau bywyd a gemau - o Wynedd i Gaerdydd; ac mae busnesau newydd rydyn ni wedi'u cefnogi ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn busnes ar 么l pum mlynedd o gymharu 芒'r farchnad gyfan.

"Mae ein cynllun ARFOR yn rhoi hwb sylweddol i ffyniant economaidd yng nghadarnleoedd y Gymraeg."

Pynciau cysylltiedig