Cam ymlaen i ailagor gweithfeydd copr Mynydd Parys

Ffynhonnell y llun, Anglesey Mining

Disgrifiad o'r llun, Dywed Anglesey Mining PLC y byddai unrhyw fwyngloddio yn digwydd o dan ddaear
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae datblygwyr sy鈥檔 gobeithio ailagor gweithfeydd copr hanesyddol ar Ynys M么n yn dweud eu bod wedi cyrraedd 鈥渃arreg filltir bwysig鈥 ar 么l cyflwyno鈥檙 camau angenrheidiol cyntaf i wireddu cynllun allai greu 120 o swyddi.

Gyda phrofion yn dangos bod yr ardal yn gyfoethog mewn copr, sinc, plwm, arian ac aur "gwerth tua $1bn" (拢755m), mae Anglesey Mining PLC wedi paratoi cam cyntaf asesiad effaith amgylcheddol gyda'r uchelgais o ddechrau cloddio dan ddaear ym Mynydd Parys.

Gyda thystiolaeth o gloddio am gopr yno yn dyddio 鈥檔么l i鈥檙 Oes Efydd ag Oes y Rhufeiniaid, erbyn yr 1780au Mynydd Parys oedd gweithfeydd copr mwyaf y byd, gan arwain at ffyniant economaidd a thyfiant tref Amlwch.

Ond er agor gweithfeydd tanddaearol sylweddol tua 1810, erbyn troad yr 20fed ganrif roedd y mwyafrif llethol o waith mwyngloddio wedi dirwyn i ben.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cam diweddaraf yn "garreg filltir arwyddocaol iawn i Ynys M么n", meddai Rob Marsden

Mae s么n am ailddechrau'r gwaith wedi dod i'r golwg sawl tro dros y degawdau ers hynny.

Ond bellach mae perchnogion y safle, Anglesey Mining, wedi cyflwyno adroddiad 220 tudalen sy'n ffurfio rhan o'r broses gynllunio angenrheidiol.

Dywed y cwmni y byddai unrhyw fwyngloddio yn digwydd o dan ddaear, o bosib gan ddefnyddio siafft bresennol a gafodd ei adeiladu yn y 1990au.

Maen nhw'n dweud y gallai greu tua 120 o swyddi uniongyrchol mewn ardal sydd wedi ei disgrifio'n ddiweddar gan Gyngor M么n fel un o bryder economaidd.

Tua 拢75m er mwyn ailddechrau

Cafodd y cam diweddaraf ei ddisgrifio gan Rob Marsden, prif weithredwr Anglesey Mining, fel 鈥渃arreg filltir arwyddocaol iawn i Ynys M么n鈥, ond y byddai ailddechrau mwyngloddio ar y safle yn golygu'r angen am fuddsoddiad cyfalaf o tua 拢75m.

鈥淩ydym yn ymwybodol iawn o dreftadaeth Mynydd Parys,鈥 meddai Mr Marsden wrth 大象传媒 Cymru, gyda'r bwriad o allforio'r cynnyrch o Borthladd Caergybi.

鈥淏yddai'r gwaith tua 400 metr o dan ddaear tra roedd y mwyngloddio dyfnaf yn yr 18fed ganrif tua 100 metr o dan yr wyneb."

Mae disgwyl y byddai 鈥渢ua 40%鈥 o鈥檙 refeniw yn dod o鈥檙 copr a thraen o sinc.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cwmni'n dweud y gallai'r gwaith greu 120 o swyddi

Mae鈥檙 adroddiad bellach wedi鈥檌 gyflwyno i Wasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, er y bydd angen caniat芒d cynllunio pellach cyn y gellir cychwyn ar unrhyw waith.

鈥淥es y mwyngloddio ar hyn o bryd yw 12-15 mlynedd," meddai Mr Marsden.

"Rydyn ni鈥檔 obeithiol y bydd yn hirach ac y byddwn yn darganfod mwy o fetelau yno.

鈥淢ae gynnon ni ganiat芒d cynllunio eisoes yn ei le o鈥檙 1980au a鈥檙 hyn rydyn ni wedi鈥檌 ddarganfod ers hynny yw bod yna fwy o fwynau o dan ddaear."

Ychwanegodd bod "technoleg newydd bellach yn ei lle", ac felly eu bod "wedi penderfynu cyflwyno cynllun newydd sbon yn hytrach nag addasu鈥檙 caniatad sydd eisoes yn ei le".

Aeth ymlaen i ddisgrifio Mynydd Parys fel 鈥測 prosiect mwyaf datblygedig o'i fath yn y DU鈥 ac 鈥渨edi ei leoli鈥檔 ffafriol ar safle datblygu gyda seilwaith sylweddol eisoes yn ei le鈥.

鈥淩oedd yr asesiad economaidd yn edrych ar $100m o fuddsoddiad cyfalaf i gychwyn y cloddio a thros y cyfnod hwnnw o 12-15 mlynedd byddai cyfanswm y gwerth a werthir tua $1bn o fetelau, felly dyna beth rydym yn gweithio tuag ato," meddai.

Ychwanegodd: 鈥淩ydyn ni鈥檔 gobeithio, yn amlwg, y gallwn ni leihau鈥檙 gost cyfalaf a gwneud y mwyaf o鈥檙 budd.

鈥淢ae yna elfen lafur fawr felly byddai cryn dipyn o weithgarwch economaidd yn y maes adeiladu - bydd angen sgiliau a chrefftau eithaf penodol yn dod i mewn ond rwy鈥檔 benderfynol o wneud hynny mor lleol 芒 phosib.

鈥淥nd yn sicr lle mae'r sgiliau鈥檔 bodoli ar yr ynys. Dwi鈥檔 benderfynol o gael cymaint o鈥檙 gwariant hwnnw 芒 phosib ar yr ynys.

鈥淧etai cynllunio ac arian ddim yn broblem yna ymhen rhyw ddwy flynedd a hanner efallai y byddwn ni鈥檔 gallu dechrau cloddio, ond rwy'n realydd ac yn deall bydd y gymuned leol eisiau gwneud yn si诺r mai鈥檙 cynlluniau rydyn ni鈥檔 eu rhoi ymlaen fydd y rhai cywir, wedi ei gydbwyso yn erbyn yr angen am gopr ar gyfer y trawsnewid ynni ac yn y blaen.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Cynghorydd Aled Morris Jones yn croeswu'r potensial o greu swyddi

Tra bydd y gymuned leol yn cael datgan barn fel rhan o'r broses gynllunio, mae un cynghorydd lleol yn dweud bod y datblygiad i'w groesawu.

鈥淢aen nhw wedi gwario 拢300,000 ar gynhyrchu鈥檙 cais, o'r hyn dwi'n ddeall, sy鈥檔 dangos bod 'na ymrwymiad yna,鈥 meddai鈥檙 Cynghorydd Aled Morris Jones.

鈥淒wi鈥檔 croesawu鈥檙 newyddion bod 'na ddim opencast am ddigwydd yna, ac os bydd 'na gloddio yna dan ddaear fydd o.

鈥淗efyd fod 'na commitment i weithio hefo鈥檙 cymunedau o gwmpas y mynydd a鈥檙 buddiannau hanesyddol, gan gynnwys hanes diwydiannol yr ardal a鈥檙 dirwedd nodweddiadol ac unigryw i Ynys M么n.

鈥淒wi'n croesawu'r potensial i greu swyddi hefyd ond drwy weithio dan ganllawiau pendant i warchod yr amgylchedd.鈥