Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lle oeddwn i: Nia Ben Aur 1974
Mae'r opera roc Nia Ben Aur yn cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a hynny hanner canrif ers y perfformiad cyntaf.
Heather Jones oedd yn chwarae rhan Nia, ac yma mae hi'n hel atgofion am y cyfnod a'r perfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1974 a oedd yn bell o fod yn berffaith...
'Braint ac anrhydedd'
Roedd hi’n fraint i chwarae rhan Nia yn Nia Ben Aur ac mae gen i atgofion melys iawn. Anrhydedd i mi, merch fach o Gaerdydd oedd ddim yn siarad Cymraeg yn dda iawn ar y pryd.
Roedd hi’n hyfryd i fod yn y sioe, gyda lot o bobl hyfryd. ‘Nes i lot o ffrindiau da. Roedd lot o bobl o’r Coleg Cerdd a Drama yn y corws, a dwi dal i sgwennu gyda un ohonyn nhw, Dot sy’n byw yn Lancashire.
Wrth gwrs, dwi’n dal yn ffrindiau mawr gyda Sioned Mair – ni’n canu lot dros y blynyddoedd. Dwi’n cofio Sioned Mair a Caryl Parry Jones yn gofyn os oedden nhw’n gallu dod i fy nhŷ i gael cawod – dwi’n meddwl falle bo’n nhw’n gwersylla.
O’n i’n dod ymlaen gyda bechgyn Ac Eraill a Sbardun a phobl fel yna. Roedden nhw’n fy neall i, er dwi ddim yn meddwl fod fy Nghymraeg i mor dda bryd hynny.
‘Nes i fwynhau, achos o’n i ar ben fy hun drwy’r amser, jest fi a’r gitâr yn mynd o gwmpas Cymru. Roedd bod mewn sioe gyda phobl eraill jest yn hyfryd i fi.
Pam fi? Wel, doedd neb arall o gwmpas, roedd pawb yn y coleg. Roeddwn i wedi gadael y coleg, er mwyn bod yn gantores Gymraeg. Roedd merched fel Sioned Mair a Caryl Parry Jones yn lot ifancach na fi, felly fi oedd yr unig un mewn ffordd, a gyda gwallt melyn hefyd – dyna lwcus!
Helynt ar y noson
Beth dwi’n ei gofio ydi’r police escort... Digwydd bod, o’n i mewn sioe arall o’r enw Beca a’i Phlant yng Nghaerfyrddin yn rhywle, ac roedden nhw’n poeni fydden i ddim yn cyrraedd Nia Ben Aur mewn pryd.
Wrth gwrs, doedd yna ddim byd ar yr hewlydd yr adeg yna o’r nos, felly roedd e’n dda i ddim; dim traffic, dim byd, dim trwbl o gwbl! Ond roedd yn gwneud i mi chwerthin, cael police escort am y tro cyntaf yn fy mywyd!
Ro’n i’n hoffi beth o’n i’n ei wisgo. Yn anffodus ar y noson, doedd y meicroffôns ddim yn gweithio’n iawn, ac roedd rhaid i Cleif Harpwood ganu i lawr ffrynt fy ffrog i, achos mai dim ond fy mic i oedd yn gweithio! Roedd hwnna’n ddiddorol...
Roedd y sain yn wael, ac yn y papurau newydd roedd sôn fod pawb yn siomedig eu bod nhw methu’n clywed ni.
Dyna pam ei bod hi wedi bod mor bwysig bod Huw Jones wedi gofyn i ni wneud recordiad yn Sain yn 1975. Roedd y sain a’r harmonïau yn iawn, a phopeth yn ffantastig.
Helo Osh! Helo Nia!
Ro’n i wrth fy modd yn ei wneud, yn fwy nag unrhyw sioe arall. Nia Ben Aur oedd top of the list; safon y caneuon, stori wych, ac roedd y bechgyn mor lyfli gyda fi.
O’n i’n lwcus iawn, dwi’n meddwl, i chwarae rhan Nia.
Wrth gwrs, dwi dal i ganu rhai o’r caneuon, yn enwedig Cwsg Osian – cân hyfryd Alun 'Sbardun Huws', sy’n deyrnged lyfli iddo.
A phan mae Cleif a fi yn tecstio ein gilydd, ry’n ni’n dal i alw’n gilydd yn Nia ac Osh!
Ddigwyddodd e wythnos diwetha': ‘Helo Osh!’
‘Helo Nia, ydi dy wallt dal yn aur?’
‘Ydi, dydi e heb fynd yn llwyd eto!’