Gething i fethu coffa D-Day oherwydd pleidlais diffyg hyder

Ni fydd y Prif Weinidog yn gallu cynrychioli Cymru mewn digwyddiad i goff谩u D-Day ddydd Mercher oherwydd pleidlais o ddiffyg hyder ynddo yn y Senedd yr un diwrnod, medd Llywodraeth Cymru.

Mae digwyddiad yn nodi 80 mlynedd ers yr ymosodiad chwedlonol ar draethau Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cael ei gynnal yn Portsmouth ar yr un diwrnod.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, "yn anffodus ni fydd yn bosib iddo gynrychioli Cymru yn y digwyddiad cenedlaethol".

Ychwanegodd eu bod yn ceisio gweld a fydd yn bosib i Mr Gething gymryd rhan mewn digwyddiad coffa cenedlaethol arall ddydd Iau.

Mae'r digwyddiad yn nodi'r noson cyn ymgyrch Operation Overlord, a welodd filoedd o filwyr yn croesi M么r Udd i ryddhau gogledd orllewin Ewrop, ac fe fydd yn cael ei ddarlledu'n fyw ar 大象传媒 One.

Disgwyl i'r gwrthbleidiau gefnogi'r cynnig

Y Ceidwadwyr Cymreig wnaeth gyflwyno'r cynnig i gynnal pleidlais ynghylch arweinyddiaeth Vaughan Gething.

Ers ennill i ras i olynu Mark Drakeford, mae Mr Gething wedi wynebu ton o feirniadaeth am dderbyn 拢200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan gwmni sy'n eiddo i droseddwr amgylcheddol.

Daeth i'r amlwg fore Llun bod y cwmni yn destun ymchwiliad troseddol pan roddwyd yr arian.

Mae Mr Gething wedi mynnu'n gyson ei fod wedi dilyn y rheolau sy'n ymwneud 芒 rhoddion.

Mewn cyfweliad fore Llun, dywedodd nad oedd yn ymwybodol o'r ymchwiliad troseddol nes iddo glywed gan y 大象传媒.

Mae disgwyl i holl aelodau'r gwrthbleidiau yn y Senedd - gan gynnwys ASau Plaid Cymru ac arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds - gefnogi cynnig y Ceidwadwyr.

Gyda'r Blaid Lafur yn dal union hanner seddi Senedd Cymru mae angen i'r holl ASau Llafur bleidleisio gyda'r llywodraeth i drechu'r cynnig trwy sicrhau pleidlais gyfartal.

Mae yna rwyg o fewn y gr诺p Llafur ers diwedd yr ymgyrch arweinyddol ym mis Mawrth.

Ond yng nghanol ymgyrch etholiad cyffredinol, fe fyddai'n sioc pe byddai yna wrthryfel ymysg aelodau Llafur.

Mae disgwyl i'r bleidlais gael ei chynnal yn gynnar nos Fercher.