Cyfarfod Llafur heb drafod pleidlais diffyg hyder Gething

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r 大象传媒 yn deall na wnaeth aelodau Llafur Senedd Cymru drafod digwyddiadau ddydd Mercher yn eu cyfarfod cyntaf ers hynny.

Fe wnaeth Vaughan Gething golli pleidlais o ddiffyg hyder ar 么l i ddau o aelodau'r blaid beidio 芒 chymryd rhan oherwydd salwch.

Dywed ffynhonnell wrth 大象传媒 Cymru fod y cyfarfod, oedd yn canolbwyntio ar faniffesto Llafur, yn "swreal".

Dywed un arall - a oedd yn gefnogol o Gething - mai'r unig bleidlais a gafodd ei thrafod oedd "y bleidlais ar 4 Gorffennaf".

Dywedon nhw fod llawer o ffocws y cyfarfod "ar yr etholiad cyffredinol wrth i aelodau Llafur wybod fod yr agenda yn canolbwyntio ar gael gwared 芒'r Tor茂aid".

Er hyn, fe wnaeth aelod gwahanol o'r blaid Lafur ddisgrifio'r cyfarfod fel un oedd yn dangos "byd gwahanol Llafur Cymru", wrth Newyddion S4C.

Dywed ffynhonnell arall ei fod yn "pathetig".

Dywedodd ffynhonnell o鈥檙 Blaid Lafur wrth Newyddion S4C hefyd: 鈥淒yw sylwadau Vikki Howells a Ken Skates sy鈥檔 awgrymu y byddai Lee Waters a Hannah Blythyn wedi cefnogi鈥檙 Prif Weinidog ddim yn cael eu trin fel rhai difrifol gan aelodau o gr诺p Llafur ac mae鈥檔 gwneud iddyn nhw edrych yn wirion.鈥

Y gred yw fod yr aelodau Llafur wedi trafod maniffesto'r blaid cyn cyfarfod arall yr oedd Mr Gething yn ei fynychu.

Dywed ffynhonnell a oedd yn ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd yn y cyfarfod fod Mr Gething wedi diolch i'r gr诺p am eu cefnogaeth ddydd Mercher, ond nad oedd unrhyw drafodaeth bellach ynghylch y bleidlais.

"Roedd y rhan fwyaf o bobl yn eistedd yno yn meddwl fod hyn yn swreal," meddai'r ffynhonnell.

Yn 么l y ffynhonnell roedd digwyddiadau diweddar fel "wythnos fwyaf tywyll Llafur Cymru ers 2000", wrth gyfeirio at y digwyddiadau arweiniodd at ymddiswyddiad Alun Michael.

Fe wnaethon nhw ychwanegu nad yw'r sefyllfa bresennol "yn sefydlog", gan ddweud nad yw'r gr诺p wedi dod i delerau gyda'r hyn sydd wedi digwydd.

Fe ddaw'r cyfarfod wedi i Jenny Rathbone, AS ar gyfer Canol Caerdydd, ddweud ei fod yn "ansicr" a fyddai Mr Gething yn medru parhau ar 么l y bleidlais.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Hannah Blythyn a Lee Waters yn absennol yn ystod y bleidlais hyder

Mae'r Blaid Lafur wedi bod yn llawn ffraeo mewnol ers i Mr Gething dderbyn y rhodd ariannol o 拢200,000 gan gwmni gwastraff amgylcheddol, a oedd yn cael ei rhedeg gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

Mae Mr Gething wedi dweud drwy gydol y broses ei fod wedi dilyn y rheolau.

Fe gollodd y prif weinidog y bleidlais hyder o 29 o bleidleisiau i 27, wrth i'r gwrthbleidiau uno i drechu'r prif weinidog.

Roedd Lee Waters, cyn-ysgrifennydd trafnidiaeth sydd wedi beirniadu'r rhodd ariannol yn gyhoeddus, a Hannah Blythyn, cyn-ysgrifennydd a gafodd ei diswyddo gan Mr Gething ar honiad o ryddhau gwybodaeth, i absennol o'r bleidlais.

Dywed cadeirydd y gr诺p Llafur, Vikki Howells, y byddai'r ddau wedi cefnogi鈥檙 prif weinidog petawn nhw wedi bod yn bresennol.