Aled Glynne Davies wedi marw'n ddamweiniol ar 么l syrthio i afon - cwest

Disgrifiad o'r fideo, Afryl Davies, gweddw Aled Glynne Davies, yn siarad ar ddiwedd y cwest
  • Awdur, Owain Evans
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae cwest i farwolaeth cyn-olygydd Radio Cymru wedi dod i'r casgliad iddo farw'n ddamweiniol ar 么l syrthio i Afon Taf yng Nghaerdydd.

Cafodd corff Aled Glynne Davies, 65, ei ddarganfod ger canolfan hwylio Bae Caerdydd ar 4 Ionawr 2023, wedi iddo fynd ar goll o ardal Pontcanna ar Nos Galan.

Ym Mhontypridd ddydd Llun, daeth y crwner Kate Robertson i'r casgliad ei fod wedi disgyn i'r afon tra'n pasio d诺r.

Achos ei farwolaeth oedd boddi.

Beirniadu ymateb yr heddlu

Clywodd y cwest fod y teulu鈥檔 anfodlon gydag ymateb yr heddlu ar 么l i Mr Davies fynd ar goll.

Fe wnaeth heddwas gydnabod wrth y cwest nad oedd yr ymchwiliad i'w ddiflaniad yn ddigon da.

Ychwanegodd fod yr achos wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Clywodd y cwest hefyd fod ei deulu yn credu na fyddai Mr Davies wedi mynd i Afon Taf yn fwriadol, ac nad oedd mewn hwyliau isel ar y pryd.

Dywedwyd ei fod ar feddyginiaeth cryf am nifer o gyflyrau, gan gynnwys sarcoidosis ac osteoporosis, a bod yna bosibilrwydd y gallai ei gyflyrau a鈥檙 feddyginiaeth achosi iselder.

Ond dywedodd ei weddw, Afryl, er ei fod weithiau鈥檔 flinedig ac yn s芒l ar 么l cymryd meddyginiaeth, nad oedd Mr Davies yn teimlo'n isel.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Aled Glynne Davies gyda'i deulu

Ychwanegodd ei feddyg teulu nad oedd yna awgrym fod gan Mr Davies iselder pan fu farw.

鈥淩oedd rhai cyffuriau鈥檔 gwneud iddo deimlo鈥檔 wan neu鈥檔 s芒l,鈥 meddai Dr Sherif Khalifa.

"Ond roedd e dal yn edrych 'mlaen i weithio ar ei sioe fore Sul, mynd i鈥檙 p锚l-droed a gweld y聽plant.鈥

Ychwanegodd ei fod wedi s么n llawer ei fod yn edrych ymlaen at briodas ei fab, Gruff, y tro diwethaf iddyn nhw siarad ddechrau mis Rhagfyr 2022.

'Roedd yn bwriadu dod adre'

Clywodd y cwest fod Mr Davies wedi ei weld ar gamera cylch cyfyng tafarn y Brewhouse yng Ngerddi Soffia yn mynd i gyfeiriad Parc Bute.

Roedd yn gyfarwydd iawn 芒鈥檙 parc, meddai ei wraig, a byddai鈥檔 mynd yno am dro yn aml, ond roedd yn berson gofalus a fyddai o ddim yn mynd yno am dro wedi iddi nosi.

Roedd hynny鈥檔 anarferol, meddai Afryl Davies, ond ychwanegodd ei fod yn gadarnhaol ei feddwl ar y noson dan sylw.

Dywedodd ei bod hi鈥檔 meddwl ei fod wedi llithro i鈥檙 afon ar ddamwain, ac na fyddai wedi mynd i鈥檙 d诺r yn fwriadol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

鈥淩oedd o wedi mynd 芒鈥檌 oriadau,鈥 meddai Ms Davies.

"Roedd hynny鈥檔 profi i fi ei fod yn bwriadu dod adref y noson honno.

"Roedd o ofn d诺r ac yn teimlo鈥檙 oerfel yn ofnadwy oherwydd ei gyflwr."

Clywodd y cwest fod lefel yr afon yn uchel iawn ar y pryd.

Llithro i鈥檙 afon tra鈥檔 pasio d诺r

Dywedodd Dr Meleri Morgan, patholegydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, wrth y cwest fod Mr Davies yn fyw pan aeth i鈥檙 d诺r.

"Doedd dim digon o alcohol yn ei gorff i鈥檞 atal rhag gyrru,鈥 meddai, "felly fyddai hynny ddim wedi cael effaith ar sut roedd e鈥檔 meddwl ac yn bihafio."

Cyfeiriodd y patholegydd at 鈥渇oddi sych鈥 - lle mae sioc mynd i鈥檙 d诺r yn achosi rhywun i gael ataliad ar y galon a marw鈥檔 sydyn, cyn i'r ysgyfaint lenwi gyda d诺r.

Roedd hi鈥檔 debygol fod hynny wedi digwydd yn achos Mr Davies, meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Cafodd corff Aled Glynne Davies, 65, ei ddarganfod ger canolfan hwylio Bae Caerdydd ar 4 Ionawr 2023

Ychwanegodd y patholegydd fod zip trowsus Mr Davies yn agored pan gafodd ei ganfod, a bod hynny鈥檔 awgrymu yr hyn yr oedd ei deulu鈥檔 ei gredu, sef ei fod wedi llithro i鈥檙 afon tra鈥檔 pasio d诺r.

Ychwanegodd na allai ddiystyried iddo gael ei daro鈥檔 wael, neu iddo lewygu o ganlyniad i arrhythmia a syrthio i鈥檙 d诺r.

Cadarnhaodd mai boddi oedd achos ei farwolaeth.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Aled Glynne Davies yn olygydd 大象传媒 Radio Cymru rhwng 1995 a 2006

Cyfeiriodd y crwner Kate Robertson at adroddiad mewnol gan Heddlu鈥檙 De yngl欧n 芒鈥檜 hymchwiliad ar 么l i Mr Davies fynd ar聽goll.

Roedd hi eisiau gwybodaeth rhag ofn bod yna wersi i鈥檞 dysgu er mwyn atal marwolaethau eraill yn y dyfodol, meddai.

Clywodd y cwest gan DC Christopher Hughes, oedd yn gyfrifol am ymchwilio i achos Mr Davies.

Dywedodd nad oedd yn gallu helpu鈥檙 crwner gyda chwestiynau yngl欧n ag ymateb yr heddlu i'w ddiflaniad, ond fe gytunodd fod yr ymchwiliad wedi bod yn ddi-drefn a heb ei gydlynu鈥檔 ddigon da.

"Mae yna rai gwersi wedi eu dysgu,鈥 meddai DC Hughes, 鈥渁 bydd profiad Afryl yn rhan o鈥檙 dysgu hwnnw."

Ychwanegodd fod adroddiad wedi ei anfon at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), ac nad oedd modd i Heddlu'r De weithredu ymhellach tan iddyn nhw gael ymateb ganddyn nhw.

Brynhawn Llun cadarnhaodd yr IOPC eu bod wedi derbyn adroddiad gan Heddlu'r De ond eu bod o'r farn nad oedd angen iddyn nhw fod yn rhan o'r ymchwiliad.

'Ddim digon da'

Ar ddiwedd y cwest dywedodd Afryl Davies, gweddw Aled Glynne Davies: "Mi gawsom ni ac Aled wasanaeth gwael ac amhroffesiynol.

"Dydw i ddim wedi cael dim gwybodaeth. Yr unig beth ma' nhw [Heddlu De Cymru] 'di 'neud ydy ateb fy nghwestiynau i.

"Pam bod hi 'di cymryd gymaint o amser iddyn nhw i gynnal y cwest 'ma yn y lle cyntaf? Dydy beio Covid a phwysau gwaith ddim digon da," meddai.

"Ond heddiw, llais Aled ydw i."

Ychwanegodd: "Diolch o waelod calon i bob un a ddangosodd gariad tuag atom ni fel teulu, i Aled a finnau.

"Fel y dywedodd rhyw fardd rhyw dro, mae cariad yn dragwyddol. Gorwel yn unig yw marwolaeth ac nid yw gorwel yn ddim ond terfyn eithaf llygad dyn."

Yna dywedodd: "'Sen i jyst yn hoffi dweud wrth aelodau'r cyhoedd pan mae rhywun mewn sefyllfa fath 芒 ni - byddwch yn ofalus, a byddwch gariadus a gofalgar.

"Peidiwch 芒 deud nac awgrymu pethau pan nad ydach chi'n gwybod dim byd yn eu cylch nhw."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd ei wraig Afryl nad oedd Aled Glynne Davies yn teimlo'n isel ar y pryd

Wrth gyhoeddi ei chasgliadau fe wnaeth y crwner ohirio cyhoeddi adroddiad yngl欧n ag osgoi marwolaethau yn y dyfodol, er mwyn cael mwy o wybodaeth am brosesau'r heddlu wrth ymchwilio i bobl sydd ar goll.

Doedd hi ddim yn glir pa welliannau sydd wedi eu gweithredu, meddai'r crwner Kate Robertson.

Dywedodd y byddai'n ysgrifennu at yr heddlu am ddiweddariad am ei bod hi eisiau sicrwydd y byddai'r gwelliannau yn cael eu cyflwyno.

Roedd Aled Glynne Davies yn olygydd 大象传媒 Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.

Bu'n gweithio hefyd ar wasanaeth Newyddion y 大象传媒 ar S4C, ac arwain y t卯m a sefydlodd wefan Gymraeg gyntaf y 大象传媒, Cymru'r Byd.

Yn fwy diweddar fe sefydlodd gwmni cynhyrchu Goriad gyda'i wraig Afryl, gan weithio ar nifer o gynyrchiadau teledu a radio, gan gynnwys rhaglen wythnosol Bore Sul i Radio Cymru.

Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd ei ddisgrifio fel "golygydd mwyaf beiddgar Radio Cymru" a "dyn doeth, hawddgar, llawn hiwmor".