Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Graddau uchaf TGAU yng Nghymru yn 么l i lefel 2019
Fel y disgwyl, mae canlyniadau TGAU yng Nghymru wedi gostwng yn 么l i lefel 2019 ar 么l i鈥檙 cymorth ychwanegol i fyfyrwyr yn dilyn y pandemig ddod i ben.
Ond yn wahanol i ganlyniadau lefel A yr wythnos diwethaf oedd yn uwch na rhai 2019, mae canlyniadau A*-C TGAU ychydig yn is na鈥檙 flwyddyn cyn y pandemig.
Derbyniodd 62.2% o ymgeiswyr raddau A* i C, o gymharu 芒 62.8% yn 2019. Y llynedd roedd y ffigwr yn 64.9%.
Dywedodd yr Ysgrifenydd Addysg, Lynne Neagle, bod y canlyniadau "le yr ydym ni鈥檔 disgwyl iddyn nhw fod gyda chanlyniadau yn debyg i rai 2019鈥".
Fe ddechreuodd y plant sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU eleni yr ysgol uwchradd yn 2019, dim ond i gael eu hanfon adref am gyfnod amhenodol chwe mis yn ddiweddarach oherwydd y pandemig.
Doedd dim cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr fu'n sefyll arholiadau yn 2024 ac mae'r marcio hael yn dilyn y pandemig wedi dod i ben.
Dywedodd pennaeth Ysgol Lewis Pengam, a llywydd undeb y prifathrawon NAHT Cymru, Chris Parry bod hi'n bwysig i'r drefn fynd n么l i'r arfer.
Mae'n anodd cymharu o flwyddyn i flwyddyn ar hyn o bryd, meddai, ac mae canlyniadau yn "fesur allweddol" o sefyllfa'r gyfundrefn addysg, ond mae ysgolion yn dal i weld sgil-effeithiau'r pandemig meddai - fel presenoldeb is.
"Dwi'n credu ar ryw bwynt roedden ni wastad yn mynd i orfod mynd n么l i ble'r oedden ni yn 2019 ac mae'n iawn ein bod ni'n gwneud hynny eleni," meddai.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig pwysleisio bod y myfyrwyr yma wedi colli llawer o amser ac mae heriau'n dal i fodoli o fewn y system."
Wrth gwrdd 芒 disgyblion yn Ysgol Gyfun Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr fore Iau, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle, ei bod yn llongyfarch pawb sy'n cael eu canyniadau ac yn ddiolchgar i'w hathrawon.
"Mae'n si诺r bod y pandemig wedi effeithio arnoch chi i gyd, ond mae cael eich canlyniadau heddiw yn garreg filltir fawr," dywedodd.
"Eleni yw ein cam olaf yn 么l at y trefniadau arholi a oedd gyda ni cyn y pandemig. Ac mae canlyniadau heddiw yn adlewyrchu'r hyn roedden ni'n ei ddisgwyl, sef eu bod yn debyg i ganlyniadau 2019."
Dansoddiad ein gohebydd addysg a theulu, Bethan Lewis
Roedd disgyblion a staff Ysgol Pencoed yn bles gyda鈥檙 canlyniadau bore 'ma.
Mae鈥檙 penawdau am y graddau Cymru-gyfan yn teimlo鈥檔 amherthnasol i鈥檙 rheiny sydd dim ond eisiau gwybod bod eu canlyniadau yn adlewyrchiad teg o鈥檜 gwaith.
Ond mae newidiadau i ganrannau yn adlewyrchu newidiadau ar lefel ysgol hefyd.
Mae pob ysgol yn wahanol ond maen nhw wedi sylwi yma bod cael C mewn rhai pynciau wedi bod yn anoddach eleni.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle 鈥 oedd yma i longyfarch myfyrwyr 鈥 y byddai鈥檔 cymryd golwg agosach ar y data.
Ac wrth ymateb i鈥檙 pryder cynyddol sydd wedi bod am safonau yn y drefn addysg yng Nghymru, fe wnaeth hi addo mesurau cyn hir i wella cyrhaeddiad.
'Gwnes i fy ngorau'
Ceisio aros yn bositif cyn cael ei chanlyniadau roedd Millie, 16 o'r Porth yn Rhondda Cynon Taf, sydd "bendant yn nerfus".
Roedd hi'n disgwyl cymysgedd o raddau ddydd Iau ar 么l amryw o dreialon yn ystod y cyfnod arholi - gan gynnwys gadael y neuadd ynghanol arholiad Saesneg gan nad oedd yn teimlo'n dda.
Roedd sefyll arholiadau gyda ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd) yn anodd oherwydd y newid i'r drefn arferol, felly i Millie "nid y gwaith rwy'n poeni amdano fe, ond sut ddes i i ben 芒'r arholiadau".
Ei bwriad yw mynd n么l i'r chweched dosbarth i ddilyn cyrsiau Lefel A, ac o bosib ailwneud rhai pynciau TGAU.
Ond beth bynnag y canlyniadau, mae hi'n falch "achos gwnes i fy ngorau".
Gwnaed bron i 323,000 o geisiadau TGAU yr haf hwn.
Yng Nghymru, mae ymgeiswyr yn derbyn graddau o A* i G - y drefn yn Lloegr yw marcio wrth rif o 9 i 1.
Fe fydd newidiadau sylweddol i'r cwrs TGAU yng Nghymru o fis Medi 2025 pan fydd cymwysterau newydd yn cael eu cyflwyno i gydfyd 芒'r Cwricwlwm i Gymru, ddechreuodd gael ei ddysgu yn 2023.
Mae cael gwared ar radd ar wah芒n mewn Cemeg, Ffiseg a Bioleg er mwyn creu un cymhwyster TGAU gwyddoniaeth dwbl wedi profi'n ddadleuol.
Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru'n gynharach eleni y bydd y TGAU gwyddoniaeth yn cael ei ddysgu o fis Medi 2026 yn hytrach na Medi 2025 - y cynllun gwreiddiol.