Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Josh Navidi: 'Mam yn prowd iawn mod i'n siarad Cymraeg'
鈥淩oedd yn brofiad amazing a dwi mor falch bod fi wedi neud e. I unrhyw un sy鈥 eisiau mynd n么l at y Gymraeg jest ewch a neud e. Dechreuwch rhywle, s鈥檇im ots os ydy chi鈥檔 siarad cwpl o eiriau y dydd... jest dechreuwch yn rhywle a peidiwch rhoi e off.鈥
Dyma gyngor cyn-chwaraewr rygbi Cymru Josh Navidi, sy鈥 newydd ymddangos ar raglen dysgu Cymraeg Iaith ar Daith ar S4C lle cafodd gymorth y cyn-flaenwr rhyngwladol Ken Owens i ailgydio yn y Gymraeg.
Gyda鈥檌 fam yn dod o Ynys M么n roedd Josh yn deall dipyn o鈥檙 iaith cyn cychwyn. Fel mae鈥檔 dweud, mae ei fam yn 鈥proper gog鈥: 鈥淢ae Mam yn siarad Cymraeg i fi ac mae鈥檔 hawdd ateb yn 么l yn Saesneg. Dwi鈥檔 deall bob dim ond gyda siarad e鈥檔 么l mae'n hawdd neu'n lazy i ddweud e鈥檔 Saesneg.
鈥淧an ti鈥檔 mynd i鈥檙 ysgol dwi wedi siarad mwy o Saesneg a dod yn 么l i鈥檙 t欧 a siarad Saesneg. Dwi ddim yn cofio pryd dwi wedi newid i Saesneg i ateb yn 么l.鈥
Gwreiddiau
Gan fod teulu ei fam yn dod o Llanddona, Sir F么n, mae taith Josh ar y rhaglen yn cychwyn yno.
Symudodd tad Josh o Iran i Gymru yn sgil Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979, a chwrdd 芒 mam Josh ym Mangor.
Meddai Josh am ei ymdrech i fagu鈥檙 hyder i siarad mwy o Gymraeg: 鈥淢ae Mam yn prowd iawn 鈥 ar 么l gwneud y rhaglen mae鈥檔 dweud 鈥come on, siarad mwy r诺an. Siarad mwy o Gymraeg i fi jest i gadw e fyny'.
鈥淒wi鈥檔 gwybod fod y geiriau yno felly mae鈥檔 rhaid cario mlaen siarad e.
鈥淢ae鈥檔 helpu achos mae Mam wedi dechrau tecstio fi yn Gymraeg. Pan dwi鈥檔 trio darllen yn Gymraeg dwi all over the shop felly dwi鈥檔 dweud i Mam i anfon voice note yn lle achos dwi鈥檔 gwybod beth mae hi鈥檔 dweud.鈥
Fel nifer o ddysgwyr iaith, diffyg hyder oedd yn dal Josh yn 么l, meddai: 鈥淗yder mwy na dim. Dwi鈥檔 teimlo mae鈥檔 hawdd i flickio o Cymraeg i Saesneg. Y broblem oedd trio mynd yn 么l i鈥檙 Gymraeg ar 么l troi i鈥檙 Saesneg. Dwi鈥檔 trio dal i siarad Cymraeg yn fy mhen.
鈥淩oedd y criw (ar raglen Iaith ar Daith) yn dweud 鈥榙wed y gair yn Saesneg a wedyn cario mlaen yn Gymraeg鈥. Dwi鈥檔 teimlo fod y sgwrs ddim yn breakio fyny wedyn.鈥
Gyrfa
Mae Josh wedi cynrychioli ei wlad 33 gwaith ar y cae rygbi ond heriau o fath gwahanol mae e鈥檔 wynebu yn y rhaglen, gan gynnwys gwerthu car mewn garej ym Methel, troelli recordiau, a chynnal taith o amgylch Stadiwm y Principality.
Ers ymddeol o鈥檙 cae chwarae, mae Josh wedi troi ei law at sylwebu, DJio a gwerthu ceir ac mae鈥檔 berchen ar garej yn Y Barri erbyn hyn felly roedd yr heriau yn ei siwtio i鈥檙 dim.
Mae Josh yn cydnabod fod nifer o chwaraewyr proffesiynol yn gweld hi鈥檔 anodd pan yn ymddeol: 鈥淒wi wedi bod yn lwcus achos oedd gen i鈥檙 stwff ceir yn mynd ymlaen.
鈥淢ae lot o fois yn stryglo yn dod mas achos ti wedi gwneud e ers bod ti鈥檔 16 鈥 ti ddim yn cael dy spoonfed ond ti鈥檔 cael gwybod ble i fod a pryd. Mae popeth yn scheduled i ti ond nawr fi sy鈥檔 rheoli fy schedule.
"Gyda rygbi ti鈥檔 dibynnu ar rywun arall i neud popeth i ti - ti鈥檔 troi fyny, rhoi dy f诺ts ymlaen a bant 芒 ti. Mae鈥檔 gallu bod yn newid anodd.
鈥淒wi wedi cael diddordebau i ffwrdd o鈥檙 cae. Mae鈥檙 WRU nawr yn helpu pobl i gael rhywbeth 鈥 mynd i coleg a gwneud cwrs adeiladu le ti鈥檔 dysgu gwaith plymio, plastro a trydanol. Ti鈥檔 cael rhywbeth mas ohono.
鈥淒echreuais i DJio achos o鈥檔 i鈥檔 mynd adref a chwarae Call of Duty am chwe awr ar y Playstation 鈥 o鈥檔 i ddim yn cael unrhyw beth o hynny felly dechreuais i fynd ar fy DJ decks a dyna lle mae鈥檔 dod o.鈥
Teulu
Ac mae ei fywyd adref yn hynod o brysur hefyd gyda鈥檌 ferch fach Eva wedi ei geni dair wythnos yn 么l.
Meddai: 鈥淒wi鈥檔 dechrau siarad Cymraeg gyda hi. Dwi鈥檔 lwcus iawn.鈥
Mae Josh yn dweud na fyddai wedi gwneud cynnydd mor dda gyda'r Gymraeg heb ei ffrind Ken 鈥榶 Sheriff鈥 wrth ei ochr: 鈥淜en yw y star i fi 鈥 mae wedi helpu fi loads a (helpu gyda鈥檙) geiriau mwy na unrhyw beth. Dwi wedi dysgu wrth Ken achos mae Ken yn dod o鈥檙 west. Mae Cymraeg fi yn mwy gog ond hefyd Bridgend achos yr athrawon yn yr ysgol.
鈥淥鈥檔 i鈥檔 gofyn am cwpl o geiriau i Ken a bant 芒 ni.鈥
Mae鈥檙 rhaglen yn dangos y berthynas agos rhwng y ddau cyn-chwaraewr gyda Josh yn dweud ei bod hi鈥檔 neis i allu bod ef ei hun ar y sgrin: 鈥淢ae鈥檔 anodd achos pan ti鈥檔 chwarae rygbi ti鈥檔 gorfod watsho be鈥 ti鈥檔 dweud ond pryd ti鈥檔 tynnu n么l o鈥檙 rygbi bubble mae鈥檔 neis i neud rhaglen fel 鈥榥a achos mae personality ti鈥檔 dangos.
鈥淭i ddim gorfod watshad beth ti鈥檔 dweud na poeni am y t卯m. Ar ddiwedd y dydd mae gen i garej fy hun nawr a dim ond fi dwi angen poeni amdano.鈥
Gwyliwch Iaith ar Daith ar 大象传媒 iplayer.