Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dymchwel simnai enwog ym M么n yn 'chwerw felys'
- Awdur, Carwyn Jones
- Swydd, 大象传媒 Cymru
Mae'r olygfa yng Nghaergybi wedi cael ei thrawsnewid wrth i simnai adnabyddus hen safle Alwminiwm M么n gael ei dymchwel.
Cafodd y t诺r - sydd wedi dod yn dirnod amlwg yng ngogledd Ynys M么n - ei ddymchwel brynhawn Mercher.
Mae鈥檙 safle, sy鈥檔 eiddo i gwmni Stena Line, wedi鈥檌 ddynodi fel un o鈥檙 safleoedd treth a thollau o fewn Porthladd Rhydd y dref.
Daeth cadarnhad y llynedd gan lywodraethau鈥檙 DU a Chymru y bydd Porthladd Rhydd Ynys M么n yn un o ddau borthladd rhydd i鈥檞 sefydlu yng Nghymru.
Dymchwel y simnai yw cam cyntaf ail-ddatblygu鈥檙 safle ar gyfer y dyfodol, er mwyn ceisio cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer buddsoddiad newydd.
Roedd cwmni Alwminiwm M么n dan berchnogaeth Rio Tinto Alcan a Kaiser Aluminium, ac fe ddechreuodd weithredu yn 1971.
Roedd y cwmni, ar un cyfnod, yn un o gyflogwyr mwyaf Ynys M么n, ond fe gaeodd y gwaith yng Nghaergybi yn 2009 gan arwain at golli bron i 400 o swyddi.
Mae Porthladd Rhydd Ynys M么n yn rhagweld y bydd dymchwel y simnai a pharatoi hen safle Alwminiwm M么n yn arwain at fuddsoddiad all gyflwyno hyd at 13,000 o swyddi ledled gogledd Cymru.
Wrth siarad 芒 rhaglen Dros Frecwast, 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Gary Wyn Williams, un o gyn-weithwyr Alwminiwm M么n: "Mae'n well iddo ddod lawr i gael adeiladu rhywbeth newydd i gael gwaith i bobl ifanc yr ynys.
"Ges i lawer o hwyl yma, mi oedd 'na gang dda o ddynion a merched yn gweithio yma...
"Lle da iawn i weithio, cyflog da ac yn cael bob peth oeddach chi isio yma."
Mae Alun Roberts yn aelod o bwyllgor Fforwm Busnes Cybi, a dywedodd: "Mae'n ddiwrnod hanesyddol, beth yda ni'n ei obeithio ydi y bydd lot o waith yn dod ar y safle yma - mi yda ni wir angen hynny ar yr ynys.
"Mae'r safle yma wedi bod yn gyflogwr da dros y blynyddoedd... dyna 'da ni isio ei groesawu n么l i Gaergybi gan fod wir ei angen ar hyn o bryd.
"Mae 'na wir angen am unedau busnes i fusnesau cynhenid yr ynys i ehangu a gobeithio creu swyddi.
"Y gobaith ydi y bydd y datblygwyr yma yn creu unedau ar gyfer busnesau mawr ond hefyd busnesau'r ynys sy'n ein cynnal yn economaidd ar hyn o bryd."
Dywedodd Aelod Seneddol Ynys M么n, Virginia Crosbie: "Does dim yn dangos faint o gynnydd mae Ynys M么n yn ei wneud nawr bod gan yr ynys statws porthladd rhydd na dymchwel yr hen i wneud lle i'r newydd.
"Bydd llawer yn gweld hi'n anodd gweld y simnai'n cael ei dymchwel, ond mae dyfodol newydd yn cael ei adeiladu a dyna pam y dylai鈥檙 diwrnod fod yn achos dathlu wrth i ni fachu ar y cyfleoedd newydd hyn ar yr ynys rwy鈥檔 ei charu."
Dywed Aelod o'r Senedd Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth: 鈥淢ae dymchwel hen simdde Alwminiwm M么n yn rhywbeth chwerw felys i鈥檙 gymuned leol ac i Ynys M么n yn ehangach.
"Dan gysgod y simdde, roedd cannoedd yn gweithio mewn swyddi da, ac mae鈥檔 cael ei dymchwel gan fod y swyddi hynny wedi mynd," meddai.
"Ond rhaid i ni weld hyn fel dechrau ar gyfnod o adfywio i鈥檙 safle, sy鈥檔 un o safleoedd datblygu pwysicaf Cymru.
"Rhaid edrych eto i greu bwrlwm economaidd yno, ac mae dymchwel y simdde yn rhan o hynny.
鈥淏u鈥檙 t诺r yn rhan o dirwedd M么n ers cenedlaethau, a bydd yn cymryd amser dod i arfer heb ei weld yn edrych allan dros Gaergybi a鈥檙 cyffiniau.鈥