Pennaeth iechyd yn ymddiswyddo ar 么l gwallau cyfrifo 'bwriadol'

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Disgrifiad o'r llun, Bydd Sue Hill yn ymddiswyddo'n swyddogol fel cyfarwyddwr gweithredol cyllid Betsi Cadwaladr ym mis Rhagfyr
  • Awdur, Dafydd Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Bydd un o benaethiaid bwrdd iechyd y gogledd yn ymddiswyddo fis nesaf ar 么l i gyfrifon anghywir 鈥渂wriadol鈥 gael eu darganfod yn ei hadran ddwy flynedd yn 么l.

Mae Sue Hill, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), wedi bod ar gyfnod o absenoldeb o鈥檙 gwaith ers mis Rhagfyr 2022 ar 么l i ymchwilwyr arbenigol gael eu galw i edrych ar gyllid y sefydliad.

Mae鈥檙 bwrdd yn dweud na fydd Ms Hill yn derbyn setliad ariannol pan fydd yn gadael ei swydd ym mis Rhagfyr 2024.

Roedd ei chyfnod o absenoldeb yn cynnwys 12 mis oherwydd salwch.

Mae aelodau eraill o staff yn dal yn destun ymchwiliad.

Dechreuodd absenoldeb Ms Hill wrth i ymchwiliadau ddigwydd i 鈥渨allau sylweddol鈥 gafodd eu darganfod gan archwilwyr yng nghyfrifon y bwrdd iechyd.

Cafodd cyfrifwyr allanol EY eu galw i ymchwilio ymhellach gan ddod o hyd i 鈥渇ethiannau diwylliannol systemig鈥 yn nh卯m cyllid y sefydliad, gyda staff yn gwneud cofnodion anghywir 鈥渂wriadol鈥 yn eu cyfrifon.

Dywedodd adroddiad EY ym mis Ionawr 2023 fod y Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac aelodau eraill o'r t卯m cyllid wedi dweud wrthyn nhw nad oeddent 鈥測n ymwybodol鈥 o gofnodion a bostiwyd i鈥檙 flwyddyn ariannol anghywir, ond roedd hyn yn 鈥渁nghyson鈥 芒 thystiolaeth ddogfennol, yn 么l EY.

Doedd dim tystiolaeth bod unrhyw un wedi elwa'n bersonol.

Daeth ymchwiliadau gan asiantaeth Atal Twyll y GIG a Heddlu Gogledd Cymru i ben heb unrhyw gamau'n cael eu cymryd.

Cyfnod o salwch

Cychwynnodd BIPBC ymchwiliad mewnol ym mis Mai 2023 ac mae鈥檙 bwrdd yn dweud bod yr ymchwiliad hwnnw bellach 鈥渨edi ei gwblhau鈥 mewn perthynas 芒 Sue Hill.

Dywedodd Jason Brannan, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl BIPBC: 鈥淢ae Sue Hill wedi hysbysu鈥檙 bwrdd iechyd o鈥檌 bwriad i ymddiswyddo a bydd yn gadael ym mis Rhagfyr 2024.

鈥淢ae Sue ar gyfnod o absenoldeb ar hyn o bryd ar 么l cael llawdriniaeth a thriniaeth sylweddol yn ystod y 12 mis diwethaf ac mae ein meddyliau gyda hi wrth iddi ganolbwyntio ar ei hiechyd a鈥檌 hadferiad parhaus.鈥

Dywedodd Ms Hill wrth y bwrdd iechyd ddiwedd mis Medi eleni ei bod yn bwriadu ymddiswyddo.

Yn 么l adroddiad blynyddol y sefydliad, mae'r Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ar gyfanswm cyflog o 拢195,000 yn cynnwys buddion pensiwn.

Disgrifiad o'r llun, "Does dim esgus" bod y broses wedi cymryd mor hir, yn 么l Llyr Gruffydd

Dywedodd Llyr Gruffydd, yr Aelod Plaid Cymru o鈥檙 Senedd dros ogledd Cymru, ei fod yn synnu at y canlyniad.

鈥淒oes dim esgus bod hyn wedi cymryd dwy flynedd. Mi ddylai hwn fod wedi cael ei ddatrys mewn cyfnod byr iawn," meddai.

鈥淎c mae 鈥榥a gwestiynau mawr i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth achos eu llaw nhw sydd wedi bod ar y llyw tra bod y bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig.

鈥淒yw e ddim yn ddigon da. Mi ddyle hyn fod wedi cael ei ddelio ag e yn lawer cynt na chaniat谩u i鈥檙 person yma adael ddwy flynedd ar 么l i hyn ddigwydd.鈥

'Cost' i drethdalwyr

Gan gyfeirio at y staff sy鈥檔 dal yn destun ymchwiliad dywedodd Darren Millar, yr Aelod Ceidwadol o鈥檙 Senedd dros ogledd Cymru: "Bydd llawer o bobl yng ngogledd Cymru'n synnu ein bod ni bron i ddwy flynedd ers i'r sgandalau yma dorri ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw un wedi ei gael atebol am y methiannau sydd wedi digwydd.

鈥淣id yw鈥檔 ddigon da, mae angen i ni ddatrys pethau鈥檔 gyflymach, ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy鈥檔 gyfrifol am hyn o ystyried bod y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig.鈥

Cafodd BIPBC eu rhoi yn 么l o dan fesurau arbennig, y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru, yn fuan ar 么l ymadawiad Ms Hill.

Dywedodd y bwrdd iechyd wrth 大象传媒 Cymru nad oedden nhw na Sue Hill eisiau ymateb i sylwadau Llyr Gruffydd a Darren Millar ac nad oedd ganddyn nhw sylw pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae hwn yn fater cyflogaeth ac felly mater i鈥檙 bwrdd iechyd ydy hyn.鈥